Ewch i’r prif gynnwys

Canfod y gwir am iechyd

4 Medi 2015

Keyboard and medical equipment

Yn sgîl y negeseuon cymysg am iechyd a gyflwynir yn gyson, mae Prifysgol Caerdydd wedi creu cwrs ar-lein arloesol i helpu pobl i ddod o hyd i dystiolaeth ddibynadwy

Mae'r Brifysgol yn cynnig cwrs ar-lein yn rhad ac am ddim o'r enw'r Cwrs Ar-lein Agored Enfawr (MOOC). Ei nod yw helpu pobl i ddeall y doreth o ddeunyddiau sydd ar gael.

Mae ymchwil ym maes iechyd yn fusnes mawr gyda thros filiwn o bapurau'n cael eu cyhoeddi'n flynyddol am bynciau sy'n ymwneud ag iechyd.

Dywedodd Arweinydd y Cwrs, Fiona Morgan, sy'n darlithio ar ddulliau ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol, fod y rhai fydd yn elwa'n bersonol yn defnyddio dulliau 'mwy slei' i gyfleu negeseuon am iechyd sydd weithiau'n gamarweiniol.

"Cael gwybod a gafodd y gwaith ymchwil ei noddi yw'r elfen bwysicaf i'w hystyried.

"Os cafodd ei noddi, pwy sy'n ei noddi, a pha fath o wrthdaro mewn buddiannau sydd gan bobl?

"Y gwir amdani yw bod dulliau mwy slei ar waith. Un o'r pethau yr ydym yn ei ddangos yw bod tystiolaeth yn aml yn cael ei hariannu'n annisgwyl gan grŵp fydd yn elwa'n uniongyrchol os byddwch yn credu'r dystiolaeth honno."

Mae'r astudiaethau achos yng nghwrs The Informed Health Consumer: Making Sense of Evidence yn cynnwys brechlyn MMR; defnyddio cyffuriau yn ystod beichiogrwydd a thalidomid; ysmygu a chanser yr ysgyfaint; ac effaith diffyg hylif ar ein gallu i weithredu.

Bydd y cwrs yn ddefnyddiol i bobl sydd am gael gwybod rhagor am gyflwr meddygol neu sy'n ystyried astudio pwnc sy'n ymwneud ag iechyd yn y Brifysgol. Bydd hefyd o ddiddordeb i'r rhai sydd am ddysgu rhagor am fater sy'n ymwneud ag iechyd.

Meddai Fiona: "Aethon ni ati i lunio'r cwrs am ein bod fyth a beunydd yn cael newyddion am beth sy'n dda i ni, neu beth sy'n ddrwg i ni, beth sy'n achosi canser...

"Ein nod yn y pen draw yw helpu pobl i ddeall pan nad yw pob math o dystiolaeth yn ddibynadwy a pham mae angen dewis yn ofalus.

"Mae pobl yn tueddu i gael eu syniadau am ymchwil iechyd drwy'r cyfryngau. Mae'r rhain fel arfer yn cael eu gwyrdroi gan fod y negeseuon yn aml yn fwy awgrymog na'r hyn a geir mewn datganiad byr i'r wasg."

Mae sawl Ysgol wedi cyfrannu at y cwrs ac mae tîm yr addysgwyr hefyd yn cynnwys Dr Andy Williams, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol; Dr Mark Kelson, Ysgol Meddygaeth; a Keren Williamson, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Mae modd cofrestru nawr ar gyfer y cwrs pedair wythnos a gynhelir drwy FutureLearn. Mae'n dechrau ar 7 Medi, ond gall pobl gofrestru ar ei gyfer unrhyw bryd yn ystod y cyfnod pedair wythnos.

Mae cwrs The Informed Health Consumer: Making Sense of Evidence ar gael yma.