Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Brifysgol Caerdydd yn helpu seren Hollywood i hel achau

21 Awst 2015

Jane Seymour with Professor Hanna Diamond
Jane Seymour with Professor Hanna Diamond

Academydd o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu at raglen o bwys ar y BBC

Mae'r Athro Hanna Diamond, sy'n darlithio mewn Ffrangeg yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, wedi helpu actor Hollywood Jane Seymour i hel achau yn rhan o raglen llinach ei fel rhan o raglen achau flaenllaw'r BBC 'Who do you think you are?'

Mae ymchwil yr Athro Diamond yn ymwneud â hanes cymdeithasol a diwylliannol Ffrainc yn yr ystod yr Ail Ryfel Byd. Yr Athro Diamond yw awdur y llyfr Fleeing Hitler: France 1940 (OUP 2007), ac mae hefyd yn cynnal gwefan sy'n adrodd hanesion teuluoedd a wnaeth ddianc o Ewrop o Dan Warchae. Roedd felly'n sylwebydd hynod addas i gyfrannu at y rhaglen ym Mharis.

Yno, cafodd y cyfle i gwrdd â Jane Seymour, sy'n bennaf adnabyddus am ei rôl fel y ferch Solitaire yn ffilm James Bond Live and Let Die ym 1973. Trafodwyd sut y llwyddodd teulu'r actor i ddianc o Wlad Pwyl ar ddechrau'r 1940au pan oedd ym meddiant y Natsïaid.

Frankenburg yw cyfenw iawn Seymour, ac fe'i magwyd yn Llundain - yn ferch i fam o'r Iseldiroedd a thad Iddewig o Wlad Pwyl. Yn ystod y rhaglen a ddarlledwyd nos Iau, 20 Awst 2015, cafwyd hanesion hen fodrybedd Seymour ar ochr ei thad, Jadinga a Michaela, a gafodd eu gorfodi i ffoi o Warsaw, Gwlad Pwyl yn ystod goresgyniad yr Almaenwyr.

Yn anffodus, gwasgarwyd teulu Seymour ledled Ewrop. Yn 1940, bu'n rhaid i Michaela ddianc unwaith eto, y tro hwn gyda thri chwarter poblogaeth Paris a adawodd pan oresgynwyd y wlad gan y Natsïaid. Yn ystod y rhaglen, mae'r Athro Diamond yn esbonio beth fyddai wedi digwydd i berthnasau Seymour yn ystod y cyfnod hwn.

Wrth siarad am ei rhan yn y rhaglen, dywedodd yr Athro Diamond, "Fe wnes i fwynhau'r cyfle i gwrdd â Jane Seymour ym Mharis a siarad â hi am ei theulu. Roedd profiadau ei theulu yn rhoi darlun clir o frwydr Iddewon Ewrop i oroesi yn ystod yr Ail Ryfel Byd."

Gallwch wylio neu lawrlwytho ‘Who do you think you are?’ ar BBC iPlayer - (28 munud i mewn i'r rhaglen).