Ewch i’r prif gynnwys

Lliniaru newid hinsawdd difrifol yn debygol o newid bywyd bob dydd mewn ffyrdd annisgwyl

8 Hydref 2018

Image of scrap metal from appliances

Yn ôl astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae’r cyhoedd yn gefnogol i strategaethau lleihau allyriadau sy'n debygol o ddod â newidiadau sylweddol i'r ffordd yr ydym yn berchen ar eitemau bob dydd fel dillad, ceir a dodrefn a sut ydym yn eu defnyddio.

Mae'r tîm, sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o'r Ganolfan ar gyfer Ynni Diwydiannol, Deunyddiau a Chynhyrchion, a Phrifysgolion Leeds a Manceinion, wedi canfod cefnogaeth gyhoeddus sylweddol ar gyfer ystod o strategaethau effeithlonrwydd adnoddau. Gall cyfuniad o’r rhain arwain at gynhyrchu 39% yn llai o allyriadau carbon wrth greu amrywiaeth o eitemau cyffredin fel ceir, dillad, deunyddiau electroneg, offer a dodrefn.

Dywedodd yr Athro Nick Pidgeon o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Nid yw’r camau lliniaru presennol, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar allyriadau a gynhyrchwyd yn uniongyrchol o fewn y wlad, yn cyflawni'r lefelau lleihau carbon sy'n ofynnol i atal newid peryglus yn yr hinsawdd.

"Os ydym am aros o fewn terfynau carbon diogel, mae angen i ni ystyried allyriadau a gynhyrchir gan y nwyddau yr ydym yn eu defnyddio, p’un a ydynt wedi'u cynhyrchu yn y DU a’i peidio."

Mae'r tair prif strategaeth a nodwyd yn cynnwys gwneud cynhyrchion yn fwy effeithlon trwy ddefnyddio llai o ddeunyddiau a phecynnu, a fyddai'n golygu mwy o gynlluniau modiwlaidd ac adferol; ailddefnyddio, cyfnewid a rhannu cynhyrchion megis ceir, nwyddau trydanol ac offer cartref/gardd; a chynyddu bywydau cynnyrch trwy warantau estynedig, mwy o wasanaethau cynnal a chadw a chynlluniau llogi.

Dywedodd Dr Catherine Cherry, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Fel cenedl, rydyn ni wedi dod yn ddibynnol iawn ar nwyddau cartref wedi’u gweithgynhyrchu felly mae unrhyw strategaethau sy'n eu targedu yn dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd. Er ein bod ni wedi canfod bod y rhan fwyaf o strategaethau wedi cael derbyniad cadarnhaol, roedd hyn yn ddibynnol ar nwyddau sy'n dal i fodloni amodau pwysig eraill megis diogelwch, fforddiadwyedd a chyfleustra, yn ogystal â dangos dosbarthiad teg o fanteision a chyfrifoldebau."

Roedd y grwpiau a gafodd eu cyfweld yn yr astudiaeth yn arbennig o gadarnhaol ynghylch ailgynllunio deunydd pacio, ac yn ystyried bod pecynnu cyfredol ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion yn hynod o wastraffus. Derbyniwyd y syniad o lyfrgell o gynhyrchion lle gellir benthyca eitemau yn rhad yn hytrach na'u prynu neu eu llogi. Byddai hyn hefyd yn fodd i gymdeithasu. Yn gyffredinol, roedd y rhai a gymerodd ran hefyd o blaid cynyddu bywyd cynhyrchion ac osgoi gwaredu'n gynnar, er bod rhai yn dweud na fyddai hyn yn atal pobl rhag bod eisiau pethau newydd.

Daeth yr Athro Pidgeon i'r casgliad: "Er ei fod yn newyddion da bod y cyhoedd yn gadarnhaol ynghylch newidiadau posibl i nwyddau bob dydd, nid yw derbyn y syniadau o reidrwydd yn cyfateb i’w mabwysiadu. Fodd bynnag, mae'n cynrychioli elfen hanfodol o wneud penderfyniadau sy'n debygol o fod yn bwysig wrth ddatblygu a gweithredu polisi llwyddiannus."
Cyhoeddir yr astudiaeth 'Y cyhoedd yn derbyn strategaethau effeithlonrwydd adnoddau i luniaru’r newid yn yr hinsawdd' yn Nature Climate Change ddydd Llun 8 Hydref (4pm)

Cynhaliwyd yr astudiaeth trwy gyfuno dadansoddiadau o'r posibilrwydd o ostwng allyriadau technegol a pharodrwydd y cyhoedd i dderbyn strategaethau ar gyfer lleihau allyriadau o weithgynhyrchu nwyddau dwys-ddeunydd.

Rhannu’r stori hon