Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r cloc yn tician ar ddiogelwch bwyd yn y DU oni bai y gellir dod i gytundeb, yn ôl adroddiad newydd

24 Gorffennaf 2018

Potatoes

Mae Brexit ddiofal yn peryglu llif bwyd i mewn ac allan o’r DU yn sylweddol, yn ôl arbenigwyr.

Yn “Bwydo Prydain: Diogelwch Bwyd ar ôl Brexit”,mae’r Athro Terry Marsden, o Brifysgol Caerdydd, yn un o grŵp o academyddion sy’n pwyso a mesur sut y mae Llywodraeth EM yn ymdrin â bwyd, diogelwch bwyd a rheoliadau bwyd yn nhrafodaethau Brexit.

Yn ôl yr Athro Marsden, nid oes digon o sylw yn cael ei roi i anghenion arbennig Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon, sy’n ddibynnol iawn ar fwyd i gynnal eu heconomïau.

“Mae gwir angen cynhyrchu fframwaith bwyd cynaliadwy ar y cyd, sy’n cynnwys rhanbarthau datganoledig y DU a rhanbarthau o Loegr, fel bod modd cynyddu diogelwch bwyd a chreu sail ar gyfer defnydd iachach o fwyd yn y DU yn ei chyfanrwydd”, meddai’r Athro Marsden, cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.

Mae awduron yr adroddiad yn dweud bod y Llywodraeth yn cydnabod y goblygiadau difrifol posibl pe na bai modd dod i gytundeb dros Brexit gan ei bod yn gwneud cynlluniau wrth gefn i atal rheoliadau bwyd.

“Gellir dadlau bod hwn yn gam synhwyrol wrth gynllunio ar gyfer argyfwng’, meddai’r Athro Tim Lang o Brifysgol Llundain, un o’r cyd-awduron. "Ond mae hefyd yn beryglus. Byddai defnyddwyr yn meddwl, a hynny’n hollol resymol, tybed pwy oedd yn gwarantu diogelwch ac ansawdd y bwyd sy’n cael ei fewnforio. Byddai troseddwyr yn cael eu hysbysu am gyfleoedd o dwyll bwyd. A byddai hefyd yn cyfleu negeseuon negyddol i’r UE, ar adeg sensitif yn nhrafodaethau Brexit. Gall achosi mwy o broblemau allforio o ganlyniad i statws 3ydd gwlad y DU.”

Mae’r awduron yn croesawu’r ffaith fod Datganiad Chequers ar 6 Gorffennaf a’r Papur Gwyn sydd i ddilyn yn cydnabod pwysigrwydd bwyd amaeth i Brexit. Ond, maent yn dweud bod gwendidau mawr yn y dogfennau.

Yn ôl pob golwg, mae’r Llywodraeth yr un mor amwys wrth drafod gweithwyr mudol a pha mor hanfodol ydynt i drefn system fwyd presennol y DU, yn ôl yr adroddiad.

Mae “Bwydo Prydain” hefyd yn dadlau fod risg ychwanegol, diangen yn cael ei chreu gan benderfyniad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i fwrw ymlaen â diwygio rheoleiddiadau diogelwch bwyd y DU i raddau helaeth, ar amser pan mae angen trefn reoleiddio gadarn fel sail i drafodaethau Brexit a masnachu.

Rhannu’r stori hon