Ewch i’r prif gynnwys

Panel o arbenigwyr yn cwrdd yn Rhydychen i drafod ysgrifau ar Gristnogaeth a’r Gyfraith

1 Mehefin 2018

Bydd panel o arbenigwyr yn cwrdd ym mis Mai i ddrafftio penodau ar gyfer cyfrol o draethodau ar Gristnogaeth a’r Gyfraith.

Mae’r panel wedi bod yn cwrdd ers 2013 pan ddaethant at ei gilydd yn Rhufain i archwilio egwyddorion categori Cyfraith Cristnogol a gynigwyd gan Athro Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Norman Doe, yn ei lyfr Christian Law (Caergrawnt, 2013). Ers hynny, mae’r panel, sy’n cynnwys aelodau o wyth eglwys hanesyddol ledled y byd, wedi cytuno ar Ddatganiad o Egwyddorion Cyfraith Cristnogol, sy’n seiliedig ar ddrafftiau gan yr Athro Doe, a ddatgelodd y potensial o uno cyfraith yr eglwys a’r ymdrech fethodistaidd fyd-eang.

Yn 2017, cynhaliwyd y panel yng Ngenefa gyda Chyfarwyddwr Comisiwn Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi’r Byd i drafod sut i wneud y datganiad yn rhan o waith y Comisiwn ac, o’r herwydd, sefydlwyd partneriaeth anffurfiol.

Mae diddordeb mawr wedi bod yn y prosiect. Cynhaliwyd cyfarfod fis Mai eleni yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen, lle bu Norman Doe yn ysgolhaig ar ymweliad yn 2015. Cadeiriodd yr Athro Doe y sesiynau gwaith lle bu’r grŵp yn drafftio penodau swmp o draethodau gyda’r potensial o’u cyhoeddi yn y gyfres Cambridge Studies in Christianity and Law.  Daeth prif olygydd y gyfrol i’r cyfarfod; yr Athro John Witte, Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, Prifysgol Emory Atlanta.  Bydd y llyfr, Christianity and Juridical Ecumenism, a olygwyd gan yr Athro Dee, yn archwilio’r prosiect yn feirniadol o safbwynt systemau cyfreithiol eglwysi ar draws traddodiadau’r rhai oedd yn cymryd rhan.  Croesawyd dau aelod newydd gan arweinwyr eglwysig, cyfreithwyr a diwinyddion y panel. Angela Berlis (Berne), o’r hen draddodiad Gatholig, a Paul Rochester (Llundain), o’r traddodiad Pentecostal.

Bydd cyfarfod nesaf y panel yn Rhufain, yn mis Tachwedd 2018, gydag aelodau o Gomisiwn Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi’r Byd yn bresennol. Bydd yn trafod agweddau ar Ddatganiad 2016 ac yn cadarnhau trefniadau digwyddiadau cenedlaethol i drafod y prosiect yn yr Iseldiroedd, Sweden a’r Deyrnas Unedig yn 2019.

Rhannu’r stori hon