Ewch i’r prif gynnwys

Nifer uchaf erioed o raddedigion Prifysgol Caerdydd mewn gwaith

9 Gorffennaf 2018

Uni students

Yn ôl ffigurau newydd, mae’n galw mawr o hyd am raddedigion Prifysgol Caerdydd ymysg gyflogwyr.

Yn ôl ffigurau diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ynghylch graddedigion 2016/2017 sy’n gyflogedig, a gyhoeddwyd yr wythnos hon (ddydd Iau5ed Gorffennaf, 2018) mae’r nifer uchaf erioed o raddedigion wedi cael swydd a/neu wedi parhau â’u hastudiaethau chwe mis ar ôl graddio.

Yn ôl y ffigurau, roedd 95.7% o israddedigion amser llawn Prifysgol Caerdydd wedi’u cyflogi a/neu’n astudio, sy’n gyfanswm o 3,060 allan o 3,195 – y ganran uchaf ers i’r ffigurau ddechrau (2012/2013) ac uwchlaw cyfartaledd presennol y DU (94.6%).

Mae hynny'n gynnydd ar y flwyddyn flaenorol (94.8%) ac yn dangos bod graddedigion Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod gyda'r mwyaf deniadol ymhlith cyflogwyr – ac o flaen prifysgolion blaenllaw eraill y DU fel Rhydychen (93.4%) a Chaergrawnt (93.1%).

Yn ogystal, mae'r Brifysgol wedi dringo i'r chweched safle (o'r nawfed safle) ymhlith prifysgolion ymchwil-ddwys Grŵp Russell.

Yn ôl Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Amanda Coffey, "Rydym yn fodlon dros ben ar y canlyniadau hyn, sy'n dangos bod Prifysgol Caerdydd yn gwneud gwaith da wrth baratoi ein graddedigion ar gyfer y byd gwaith cystadleuol.

"Teimlwn yn falch iawn ein bod yn cydweithio â'n myfyrwyr er mwyn eu tywys ar daith addysgol ysbrydoledig sy'n datblygu eu sgiliau arwain ac yn eu paratoi ar gyfer byd gwaith.

"Mae troi damcaniaeth yn gamau ymarferol a darparu profiad o fyd gwaith, yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

"Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r Brifysgol o'r diwrnod cyntaf un, gan gynnig profiadau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol iddynt pan fyddant yn graddio.

Er bod gan y Brifysgol hanes cryf o ran cyflogadwyedd, mae ei strategaeth newydd – Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 – yn anelu at wneud graddedigion Prifysgol Caerdydd hyd yn oed yn fwy deniadol ar gyfer darpar gyflogwyr.

Ychwanega'r Athro Coffey: "Rydym wedi ymrwymo i roi lleoliadau gwaith i'n holl fyfyrwyr, dros amser, yn ogystal â pharhau i wneud yn siŵr bod mwy o gyfleoedd i astudio'n rhyngwladol.

"Rydym hefyd wedi adnewyddu ein hymrwymiad i symudedd rhyngwladol ein myfyrwyr. Drwy gyfrwng ein Canolfan Cyfleoedd Byd-eang, byddwn yn gwneud yn siŵr, erbyn 2023, bod o leiaf 30% o'n myfyrwyr cartref yn symudol yn rhyngwladol – fel bod hyd yn oed mwy o'n myfyrwyr yn meddu ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer gweithle'r dyfodol mewn byd wedi'i globaleiddio.

Mae Dangosyddion Perfformiad HESA UK 2016/2017: Employment of leavers i'w gweld ar wefan HESA: www.hesa.ac.uk/news/05-07-2018/employment-of-leavers-tables.

Rhannu’r stori hon