Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr arloesi ar gyfer technoleg ddiagnostig canser

1 Mehefin 2018

Telomere on end of chromosome

Mae prawf sy’n rhagdybio pa mor ymwthiol y bydd mathau cyffredin o ganser ac yn nodi ymatebion cleifion i’r driniaeth wedi ennill gwobr arloesi.

Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, TeloNostiX, cwmni lled braich o Brifysgol Caerdydd, datblygwyd adnodd prognostig sy’n helpu clinigwyr a chleifion i ddeall yr angen tebygol am driniaeth ac i ddewis y driniaeth fwyaf priodol.

Gall rhagweld canlyniad mathau cyffredin o ganser fel canser y fron a Lewcemia Lymffositig Cronig (LLC), a helpu i nodi cleifion sydd angen triniaeth gynnar, neu ddim.

Enillodd y Wobr Arloesi mewn Arloesedd Meddygol yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

TeloNostiX

Mae’r gwaith yn seiliedig ar ddadansoddi hyd telomerau - capiau sydd ym mhennau cromosomau sy’n amddiffyn gwybodaeth genetig rhag niwed.

Mae’r dechnoleg - a elwir yn Ddadansoddiad Hyd Telomer Unigol (STELA) - wedi’i defnyddio gan TeloNostiX diolch i gydweithrediad agos, 10 mlynedd rhwng yr Athrawon Duncan Bird, Christopher Fegan a Christopher Pepper yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Dadansoddodd yr astudiaeth sylfaenol grŵp o gleifion LLC a chanfu fod gan bob un o’r cleifion â chlefyd datblygedig delomerau byr iawn yn eu celloedd canser. Roedd gan gleifion â chlefyd ar gam cynnar a oedd heb symud ar driniaeth glinigol eto ystod o hyd telomerau, felly damcaniaethodd y tîm y gallai hyd telomer ragweld pa gleifion cam cynnar fyddai’n gweld eu clefyd yn datblygu’n glinigol. Dangoswyd taw dyma’r achos, ac aethpwyd ymlaen i ddangos ei fod yn llawer gwell wrth ragweld cynnydd clefyd nag unrhyw un o’r marcwyr prognostig presennol.

“Mae ein profion yn rhoi gwybodaeth brognostig fanwl gywir a fydd yn galluogi cleifion canser a’u clinigwyr i wneud penderfyniadau clinigol gwybodus ynghylch eu clefyd. Rydym yn edrych ymlaen at ryddhau’r prawf i gleifion yn y dyfodol agos,” meddai’r Athro Baird, Prif Swyddog Technoleg, TeloNostiX.

Ar ôl profi fod y prawf yn rhagweld datblygiad clinigol clefyd, aethai’r tîm ymlaen i weld a allai eu technoleg ragweld yr ymateb i gemotherapïau safonol. Mae TeloNostiX bellach wedi cadarnhau, mewn tri chohort profion clinigol annibynnol, taw STELA yw’r rhagfynegydd mwyaf dibynadwy wrth ragweld yr ymateb i driniaeth.

“Mae’r canfyddiad fod hyd telomerau hefyd yn rhagweld yr ymateb i gemotherapi a chemo-imiwnotherapi’n foment ddiffiniol yn y prosiect,” meddai’r Athro Fegan, y Prif Swyddog Clinigol, TeloNostiX. “Mae’r arfau therapiwtig sydd ar gael i oncolegwyr yn ehangu bron bob dydd, felly mae’r gallu i baru’r cleifion cywir â’r cyffur(iau) cywir yn un o’r ystyriaethau clinigol pwysicaf.”

Mae STELA’n fwy pwerus nag unrhyw gystadleuydd ar y farchnad fel biofarciwr prognostig a all ragweld ymateb cleifion i driniaeth “safon aur”.

“Mae’n unigryw yn ei allu i ganfod telomerau o fewn ystodau hyd, a phryd maen nhw’n camweithredu ac yn gallu ymasu i gromosomau eraill,” ychwanegodd yr Athro Pepper, Prif Swyddog Gwyddonol, TeloNostiX, a chyn-Ddeon Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd sydd bellach ym Mhrifysgol Sussex.

“Gall yr ymasu hwn fod ar ffurf trawsblygiad genomig mawr a chwarae rôl allweddol wrth sbarduno datblygiad tiwmor ac ymwrthedd therapiwtig.”

Mae TeloNostiX eisoes yn gweithio gyda chwmnïau fferyllol mawr ac wedi datblygu STELA drwy system mewnbwn uchel, i ganiatáu ar gyfer profion clinigol helaeth. Ariannwyd y gwaith ategol yn y labordai academaidd drwy grantiau gan Ymchwil Canser y DU, Bloodwise, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Life Sciences Bridging Fund.   Mae’r cwmni eisoes wedi sicrhau arian grant gan Bloodwise ac InnovateUK.

“Mae ein profion yn rhoi gwybodaeth brognostig fanwl gywir a fydd yn galluogi cleifion canser a’u clinigwyr i wneud penderfyniadau clinigol gwybodus ynghylch eu clefyd. Rydym yn edrych ymlaen at ryddhau’r prawf i gleifion yn y dyfodol agos.”

Yr Athro Duncan Baird Chair

Having already proven that their test predicted for clinical progression, the team went on to determine whether their technology could predict for response to standard chemotherapies. TeloNostiX has now confirmed, in three independent clinical trials cohorts, that STELA is the most reliable predictor of treatment response.

“The finding that telomere length also predicts for response to chemotherapy and chemo-immunotherapy was a defining moment in the project,” said Professor Fegan, Chief Clinical Officer, TeloNostiX. “The therapeutic arsenal available to oncologists is expanding almost daily, so the ability to match the right patients with the right drug(s) is one of the most important clinical considerations.”

STELA is more powerful than any market competitor as a prognostic biomarker and can predict patient response to “gold standard” treatment.

“It is unique in its ability to detect telomeres within the length ranges at which they become dysfunctional and capable of fusion to other chromosomes,” added Professor Pepper, Chief Scientific Officer, TeloNostiX and former Dean of Research at Cardiff University School of Medicine, now at the University of Sussex.

“These fusions can lead to large-scale genomic mutations and play a key role in driving tumour progression and therapeutic resistance.”

TeloNostiX, is already working with major pharmaceutical companies and has developed STELA into a high-throughput system, to allow for large-scale clinical testing. The underpinning work in the academic laboratories was funded by grants from Cancer Research UK, Bloodwise, Health and Care Research Wales and the Life Sciences Bridging Fund. The company has also attracted grant funding from Bloodwise and InnovateUK.