Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Gofal Llawdriniaethol: Y Proffesiwn Cudd

25 Mai 2018

Cynhaliodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd ddigwyddiad ddydd Llun 14 Mai 2018 i helpu i ddathlu proffesiwn cudd Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethol.

Mae Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethol yn aelodau hanfodol o dîm amlddisgyblaethol ac maen nhw wedi bod yn gweithio i'r GIG ers dros 50 mlynedd dan wahanol deitlau. Mae Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal wedi rheoleiddio'r proffesiwn ers 2004. Maent yn cefnogi lles emosiynol a chorfforol cleifion drwy gydol y cyfnod llawdriniaethol, o roi anaestheteg, y lawdriniaeth ei hun, ac wrth wella wedi hynny. Rhoddodd y digwyddiad galw heibio gyfle i'r rhai oedd yn bresennol i ddarganfod y gwahanol gyfleoedd oedd ar gael iddynt naill ai fel myfyrwyr y dyfodol neu ddarparwyr addysg.

Fe wnaeth Coleg yr Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethol ac UNSAIN ddatgan dydd Llun 14 Mai 2018 fel Diwrnod Cenedlaethol Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethol, gyda'r nod o gael ymarferwyr ledled y DU i ddod allan o'r tu ôl i ddrysau caeedig i ddangos mwy am eu proffesiwn i'r cyhoedd, a pha mor bwysig ydynt i ofal cleifion rhagorol.

Cafodd y diwrnod ei rannu dros bedwar maes gan Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd i roi cyfle i'r rhai oedd yn bresennol gael profiad o fod yn yr ystafell efelychu newydd a sgwrsio â’n staff addysgu, myfyrwyr presennol a darpar gyflogwyr.

Tynnodd y parth addysg ac addysgu sylw at addysgu a chyfleusterau Prifysgol Caerdydd. Yn y parth ymarfer a chyflogadwyedd rhoddwyd cyfle i gwrdd â hwyluswyr lleoliadau gwaith a darpar gyflogwyr i gael gwybod rhagor am y swyddi cyffrous sydd ar gael. Roedd parth y myfyrwyr yn dangos bywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd gan fyfyrwyr Ymarfer Gofal Llawdriniaethol presennol, ac roedd y parth sbarduno yn gyfle i sgwrsio a gofyn cwestiynau am y cwrs. At hynny, roedd cyfle i ystyried sut y gallai'r tîm helpu i ddangos y sgiliau a'r wybodaeth o ran Ymarfer Adrannau Llawdriniaeth i ddarpar fyfyrwyr sy'n edrych am yrfaoedd.

Diwrnod wedi cynnig cyfle i rwydweithio â chydweithwyr clinigol, cwrdd â darpar ymarferwyr, ac wedi helpu i godi proffil ein proffesiwn cudd. Byddwn yn ychwanegu at lwyddiannau'r digwyddiad cyntaf hwn drwy gymryd rhan mewn sioe deithiol o gwmpas Cymru i roi cyfle i fwy o bobl i ddysgu am y dewis gyrfa hynod ddiddorol hwn

Cewch ragor o wybodaeth am astudio Ymarfer Gofal Llawdriniaethol gyda ni yma.

Rhannu’r stori hon