Ewch i’r prif gynnwys

Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gydradd gyntaf yn y DU

4 Mai 2018

Complete University Guide
The Complete University Guide has been publishing university and related league tables online since 2007. The league tables are compiled by Mayfield University Consultants.

Prifysgol Caerdydd yw'r Brifysgol orau yng Nghymru yn Nhablau Cynghrair Complete University 2019, ar ôl codi 4 safle i gyrraedd safle 33 yn y DU.

Roedd deg o'r 45 o bynciau yng Nghaerdydd yn y deg uchaf, ac roedd Therapi Galwedigaethol yn gydradd gyntaf (gyda Phrifysgol Huddersfield).

Roedd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd hefyd ymhlith y deg uchaf ar gyfer Nyrsio a Ffisiotherapi, ar ôl i Nyrsio ddringo dau safle i gyrraedd 9fed yn y DU.

Nyrsio a Therapi Galwedigaethol oedd â'r sgôr uchaf ar gyfer rhagolygon graddedigion yn eu tablau cynghrair.

Dywedodd yr Athro David Whitaker, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd: "Ein blaenoriaeth fel Ysgol yw rhoi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr i'w helpu i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol medrus, gwybodus a thosturiol.

"Rwy'n falch dros ben o'n staff a'n myfyrwyr; mae'r ffaith i ni gyrraedd y deg uchaf ar gyfer Nyrsio a Ffisiotherapi a chadw ein lle yn y safle cyntaf ar gyfer Therapi Galwedigaethol yn ganlyniad eu hymrwymiad a'u gwaith caled."

Mae The Complete University Guide yn dadansoddi 131 o brifysgolion ledled y DU, ac yn eu sgorio yn ôl ffactorau fel rhagolygon graddedigion, ymchwil, boddhad myfyrwyr, a safonau mynediad.

Mae saith o'r 10 pwnc uchaf yn y Brifysgol yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, gan gynnwys:

  • Therapi Galwedigaethol (1af)
  • Optometreg a Gwyddorau'r Golwg (3ydd)
  • Deintyddiaeth (4ydd)
  • Ffisiotherapi (8fed)
  • Technoleg Feddygol (8fed)
  • Nyrsio (9fed)
  • Fferylliaeth (10fed)

Y deg bwnc arall sydd yn y 10 uchaf yw:

  • Astudiaethau Celtaidd (5ed)
  • Pensaernïaeth (7fed- cynnydd)
  • Peirianneg Gyffredinol (9fed)

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.