Ewch i’r prif gynnwys

Y myfyrwyr yn ennill y Stomp am y pedwerydd tro yn y olynol

11 Mehefin 2015

Cynhaliwyd  Stomp rhwng myfyrwyr a staff Ysgol y Gymraeg nos Fercher 10 Mehefin yn Nhafarn y Crwys gyda'r stompfeistri Rhys Iorwerth ac Osian Rhys Jones.

Bu'r cystadlu'n frwd gyda'r stompfeistri'n canmol safon uchel y ddau dîm.

Y fyfyrwraig, Sara Jones a gipiodd coron 'Bardd y Noson' a Llŷr Gwyn Lewis o dîm y staff a enillodd goron fach y Stomp am gerdd orau'r noson ym marn y stompfeistri. Gwenllian Huws oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y gynulleidfa ac iddi hi y cyflwynwyd pinafal y Stomp.

Er hynny, y gynulleidfa oedd biau'r gair olaf, a'r myfyrwyr oedd y tîm buddugol ar ddiwedd y noson, am y pedwerydd tro yn olynol. Llongyfarchiadau mawr iddynt. Tybed a allant gynnal y safon y flwyddyn nesaf!

Bu cyfle yn ystod y noson hefyd i longyfarch Llŷr Gwyn Lewis a Rhys Iorwerth (un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol) ar eu llwyddiant diweddar yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. O glywed safon y cystadlu neithiwr mae traddodiad yr Ysgol o feithrin talentau llenyddol yn parhau!

Rhannu’r stori hon