Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn argymell bod angen i'r heddlu ganolbwyntio ar y 24 awr cyntaf yn dilyn digwyddiad terfysgol er mwyn lleihau casineb ar-lein.

22 Mai 2015

tab on computer showing Twitter URL

Gallai ymyrraeth gan yr heddlu ymhen y 24 awr cyntaf yn dilyn digwyddiad terfysgol fod yn hollbwysig er mwyn lleihau casineb ar-lein a'i atal rhag lledaenu, yn ôl astudiaeth newydd gan wyddonwyr cymdeithasol a chyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd

Defnyddiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y British Journal of Criminology ddwy flynedd union ers llofruddiaeth Lee Rigby, Ddata Mawr i fesur yr ymateb ar-lein i lofruddiaeth y Ffiwsilwr yn 2013. Dangosodd y data fod gan gasineb ar-lein 'hanner-bywyd' sy'n peri goblygiadau arwyddocaol ar gyfer ymyriadau gan yr heddlu a pholisi mewn achosion o derfysgaeth.

Daeth i'r amlwg mai yn ystod y 24 awr cyntaf yn dilyn yr ymosodiad y daeth y casineb ar-lein i'w anterth, cyn lleihau'n gyflym yn ystod y cyfnod dadansoddi 15 diwrnod o hyd. Felly, roedd yn awgrymu bod angen i'r heddlu ganolbwyntio ar ymyrryd yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn er mwyn mynd i'r afael â'r frwydr yn erbyn casineb ar-lein.

The frequency of cyberhate tweets covering 15 days post event
The frequency of cyberhate tweets covering 15 days post event

Cynhaliwyd y prosiect drwy ddefnyddio meddalwedd Arsyllfa Cyfryngau Cymdeithasol Ar-lein ar y Cyd (COSMOS) a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r ymchwil newydd yn canolbwyntio'n benodol ar y casineb hiliol a chrefyddol sy'n cael ei gyflwyno a'i ledaenu ar-lein, a'r gwrthdaro ar Twitter rhwng yr heddlu a grwpiau gwleidyddol asgell dde yn ystod y 36 awr cyntaf ar ôl yr ymosodiad.

Dangosodd yr ymchwil fod negeseuon trydar gan yr heddlu a'r cyfryngau tua phum gwaith yn fwy tebygol o gael eu hail-drydar o gymharu â'r holl negeseuon trydar eraill gan ddefnyddwyr eraill yn dilyn yr ymosodiad.

Mae'n awgrymu ymhellach fod amlygrwydd gwybodaeth draddodiadol gan y cyfryngau a'r heddlu mewn cyfryngau cymdeithasol yn sianel effeithiol yn ôl pob golwg sy'n ymateb i sïon, dyfalu a chasineb.

The COSMOS social media research platform.
The COSMOS social media research platform.

Cyhoeddwyd yr erthygl yn y British Journal of Criminology ac mae'n adeiladu ar waith ymchwil blaenorol gan Dr Matthew Williams, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, a Dr Pete Burnap, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, a ddangosodd fod negeseuon trydar cadarnhaol yn fwy tebygol o gael eu hail-drydar na'r rhai negyddol yn dilyn yr ymosodiad.

Meddai Dr Matthew Williams: "Mae'r patrwm hwn yn adlewyrchu achosion o gasineb ar-lein yn dilyn digwyddiadau tebyg, fel y bomiau ym Madrid a Bali. Daethom i'r casgliad fod gan gasineb ar-lein 'hanner-bywyd' yn dilyn troseddau sydd o ddiddordeb cenedlaethol. Gellir dadlau mai'r negeseuon gan y cyfryngau a'r heddlu ar Twitter ar ôl y digwyddiad sy'n gyfrifol am y gostyngiad cyflym mewn casineb gan eu bod yn tawelu'r dyfroedd ac yn cael eu defnyddio gan ddefnyddwyr Twitter sy'n ymateb i gamddefnyddwyr.

"O ystyried yr ymateb diweddar ym maes cyfiawnder troseddol i gasineb ar-lein, mae gan ein canfyddiadau nifer o oblygiadau posibl o ran gweithrediadau a pholisïau. Mae 'hanner-bywyd' casineb ar-lein a'r ffordd y mae'n lleihau'n gyflym yn awgrymu bod angen i'r heddlu ganolbwyntio ar ymyrryd yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn fel bod y casineb yn lleihau hyd yn oed yn gyflymach.  Ar ben hynny, mae'n awgrymu bod amlygrwydd gwybodaeth draddodiadol gan y cyfryngau a'r heddlu mewn cyfryngau cymdeithasol yn gyfryngau effeithiol yn ôl pob golwg sy'n ymateb i sïon, dyfalu a chasineb.

Meddai Dr Pete Burnap: "Mae gallu arsylwi cyfran helaeth o'r boblogaeth fwy neu lai ar y pryd drwy rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, yn galluogi'r rhai sy'n gyfrifol am ddiogelwch y cyhoedd i edrych ar ymateb cymdeithasol torfol. Mae tystiolaeth o'n hymchwil yn dangos bod casineb ar-lein yn gallu bod yn rhan o ymateb cymdeithasol ynghylch digwyddiad terfysgol. Felly, gall y technolegau hyn fod yn systemau rhybuddio cynnar sy'n amlygu achosion cynyddol o gamymddwyn y tu hwnt i'r digwyddiad o dan sylw."

"Mae natur gymharol fach ond parhaus y negeseuon trydar llawn casineb yn awgrymu mai prin yw'r nifer sy'n eu cymeradwyo. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n eu cefnogi yn deillio o grŵp craidd o ddefnyddwyr Twitter sy'n chwilio am negeseuon ei gilydd dros amser.  Felly, nid yw casineb ar-lein ar Twitter yn cael ei ledaenu, ac mae'n annhebygol y bydd yn ehangu'n eang y tu hwnt i grwpiau o'r fath."

Survival of Twitter messages over time by type of tweeter
Survival of Twitter messages over time by type of tweeter

Dangosodd yr ymchwil hefyd bod grwpiau gwleidyddol ac unigolion asgell dde yn bachu ar y cyfle'n gyflym i ddefnyddio'r ymosodiad i hyrwyddo eu hachos, a'u bod yn fwy tebygol o drydar negeseuon sy'n cynnwys casineb crefyddol a hiliol ar-lein. Roedd negeseuon trydar gan y grwpiau a'r unigolion hyn yn fwy tebygol o oroesi (eu hail-drydar dros gyfnodau hwy) yn ystod y 36 awr cyntaf yn dilyn y digwyddiad, ond roeddent yn llai tebygol o gael eu hail-drydar gan nifer helaeth o ddefnyddwyr Twitter.

Mae gan y Coleg Plismona 6,000 o swyddogion ar Gwrs Hyfforddiant Prif-ffrydio Troseddau Ar-lein ar hyn o bryd sy'n trin a thrafod casineb ac aflonyddu ar-lein.

Gallwch lawrlwytho fersiwn cyn-argraffu o'r papur yma