Ewch i’r prif gynnwys

‘Hei Mistar Arlywydd!’ - Ysgol y Gymraeg yn dathlu gydag arweinydd Iwerddon

30 Hydref 2014

Bu Michael D. Higgins, Arlywydd Iwerddon, yng Nghymru am ddeuddydd gyda'i wraig Sabina er mwyn dathlu'r cysylltiadau gwleidyddol, economaidd, addysgol a diwylliannol rhwng y ddwy wlad.

Fel rhan o'r ymweliad cynhaliwyd derbyniad cymunedol yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd i boblogaeth Wyddelig De Cymru a rheini sydd â chysylltiad ag Iwerddon. Yn bresennol yn y digwyddiad yma oedd cynrychiolwyr Ysgol y Gymraeg ynghyd a chwe myfyriwr sydd yn astudio'r modiwl 'Gwyddeleg i Ddechreuwyr' dan arweinyddiaeth yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost a Ciara Ní Bhroin.

Dywedodd Diarmait Mac Giolla Chriost: "Mi oedd hi'n braf i mi, yn wreiddiol o Iwerddon a nawr yn byw yng Nghymru, i weld y ddau ddiwylliant a chymuned yn dod at ei gilydd ac i gwrdd â'r Arlywydd Higgins. Mae 'na nifer o bethau cyffredin rhwng y ddwy wlad yn enwedig o ran llenyddiaeth, treftadaeth a gwleidyddiaeth, cymaint i ddathlu ac i gymharu."

Cafodd Ifan Birtwistle, sydd yn astudio'r Wyddeleg eleni, ei syfrdanu wrth gwrdd â'r Arlywydd. Dywed: "Mae hi 'di bod yn ddiwrnod swreal ond yn brofiad bythgofiadwy. Wrth astudio'r Wyddeleg eleni dwi 'di cael y cyfle i weld pa mor debyg yw'r ddwy wlad. Mae'r derbyniad cymunedol gyda'r Arlywydd 'di dod ag iaith a diwylliant Iwerddon yn fyw i mi, a dangos nerth y berthynas gyda Chymru a'r Cymry."

Yn ystod yr ymweliad i Gymru, ei ymweliad gyntaf ers ennill yr Arlywyddiaeth yn 2011, teithiodd Mr Higgins ar draws De a De Orllewin Cymru. Yn ogystal â chyfarfodydd yn y brifddinas ac ymweliad â'r Senedd i drafod gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, aeth Arlywydd Higgins a'i wraig i Abertawe i agor Canolfan Dylan Thomas yn dilyn cyfnod o adnewyddu mawr.

Rhannu’r stori hon