Ewch i’r prif gynnwys

A allai sganiau'r ymennydd helpu i ddarogan sgitsoffrenia?

11 Mai 2015

images of brain as scanned by MRI machine

Sganiau MRI uwch yn rhoi gwybodaeth newydd 

Gallai dulliau sganio newydd sy'n mapio gwifriad yr ymennydd gynnig arf newydd gwerthfawr sy'n darogan pwy sydd mewn perygl o sgitsoffrenia, yn ôl astudiaeth newydd gan y Brifysgol.   

Ers cryn amser, mae gwyddonwyr yn gwybod bod symptomau sgitsoffrenia yn ymwneud yn rhannol â chysylltedd di-drefn yn yr ymennydd.   

Erbyn hyn, mae tîm o wyddonwyr o Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd (CUBRIC), Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddorau, King's College Llundain a Phrifysgol Bryste wedi defnyddio Delweddu Atseiniol Magnetig (MRI) am y tro cyntaf i weld sut mae ymennydd pobl ifanc, sydd â rhai symptomau sgitsoffrenia, wedi'u gwifro'n wahanol.

"Gwyddom eisoes fod ymennydd pobl â sgitsoffrenia wedi'i wifro'n wahanol ac yn llai effeithlon nag ymennydd pobl iach," yn ôl yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC. 

"Fodd bynnag, dyma'r astudiaeth gyntaf i geisio defnyddio'r wybodaeth hon i edrych ar unigolion iach sydd â rhai o'r symptomau hyn ond nad ydynt yn dioddef y cyflwr." ychwanegodd. 

Mewn astudiaeth a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, defnyddiwyd math penodol o sgan MRI sy'n mapio gwifriad yr ymennydd. Sganiodd y tîm 123 o bobl sy'n agored i seicosis, ochr yn ochr â 125 o bobl nad oeddent yn agored i'r un cyflwr, a chymharu'r gwahaniaethau yng ngwifriad eu hymennydd.  Dangosodd y canlyniadau, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Human Brain Mapping, fod gallu rhwydwaith yr ymennydd i drosglwyddo gwybodaeth o un rhan i un arall yn is ymhlith pobl sy'n agored i sgitsoffrenia, a bod rhywfaint o'r llwybrau gwybodaeth wedi'u hailgyfeirio.  

Yn hollbwysig, gwelodd y tîm bod hyn yn effeithio ar rai rhannau canolog o'r ymennydd sy'n trin gwybodaeth, ac y gallai hyn arwain at broblemau cyffredinol wrth brosesu gwybodaeth, mewn ffordd debyg i sgitsoffrenia. 

Meddai Dr Mark Drakesmith, a arweiniodd yr ymchwil: "Mae'r newidiadau yr ydym wedi'u nodi yn rhwydweithiau'r ymennydd yn rhai cynnil dros ben. 

"Fodd bynnag, drwy ddefnyddio math penodol o Ddelweddu Atseiniol Magnetig (MRI) sy'n mapio gwifriad yr ymennydd, rydym wedi gwneud rhai canfyddiadau pwysig na fyddai wedi dod i'r amlwg drwy ddefnyddio technegau mwy traddodiadol o ddelweddu'r ymennydd.

"Mae'r dechneg yn defnyddio cangen o fathemateg o'r enw 'damcaniaeth graff', sy'n ein galluogi i edrych ar nodweddion pensaernïol cymhleth mewn rhwydweithiau, fel pa mor effeithlon y trosglwyddir gwybodaeth. Ym maes cyfrifiadureg y defnyddir y dull hwn fel arfer. Fodd bynnag, mae bellach yn rhoi gwybodaeth newydd i niwrowyddonwyr a seiciatryddion am sut mae cyfluniadau rhwydweithiau'r ymennydd yn newid mewn salwch meddwl."

Mae sgitsoffrenia yn anhwylder meddwl difrifol sy'n achosi rhithwelediadau, lledrithiau a meddyliau dryslyd. Mae'n gyflwr ysbeidiol sy'n gallu mynd a dod, a gellir ei reoli gyda meddyginiaeth. 

Serch hynny, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod anhwylderau sgitsoffrenig yn effeithio ar tua 26m o bobl ledled y byd ac yn arwain at anabledd cymedrol neu ddifrifol mewn chwe deg y cant o achosion.

Mae'r tîm yn gobeithio y bydd eu dadansoddiad newydd yn gallu rhoi gwybodaeth werthfawr am sut mae gwifriad yr ymennydd yn achosi symptomau sgitsoffrenia, ac yn hollbwysig, yn cynnig arf newydd ar gyfer darogan salwch yn y dyfodol. 

Ychwanegodd yr Athro Anthony David o King's College Llundain: "Mae deall sut mae ymennydd pobl yn colli cysylltedd neu'n cysylltu'n llai effeithlon yn hanfodol er mwyn deall y salwch.

"Yr hyn yr hoffem wybod yw pam mae'r newidiadau hyn yn datblygu ymhlith rhai pobl, ond nid ymhlith pobl eraill - dyna'r her nesaf."