Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 4-11 Awst

Calendar Dydd Sadwrn 4 Awst 2018, 09:30-Dydd Sadwrn 11 Awst 2018, 17:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

image of Eisteddfod sign and Cardiff University bag

Mae yna flas lleol i weithgareddau Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 wrth i’r brifddinas gynnal gŵyl ddiwylliannol fwyaf y wlad.  Cynhelir ystod o sgyrsiau, arddangosfeydd, gweithgareddau a thrafodaethau sydd wedi'u hysbrydoli gan ddiwylliant a hanes Caerdydd yn ogystal â'i chreadigrwydd a’i bywyd gwyllt.  Cynhelir y rhain ym mhabell Prifysgol Caerdydd ac ar draws y Maes.

Rhaglen gweithgareddau Prifysgol Caerdydd

Rydym hefyd yn ymwneud â:

Gwyddoniaeth y môr

Ewch i’r Pentref Gwyddoniaeth, sydd wedi’i noddi gan y Brifysgol, i gael gwybod sut mae ein hymchwil yn meithrin dealltwriaeth o’r amgylchedd morol lleol.

Llais y Maes

Bydd gwasanaeth newyddion digidol cyffrous y Brifysgol, Llais y Maes, yn dychwelyd am y chweched tro, mewn partneriaeth â S4C, ITV Cymru Wales a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Noddi Coron yr Eisteddfod

Bu Laura Thomas, gemydd cyfoes o Gastell Nedd, yn gweithio gydag aelodau o staff y Brifysgol i greu ei dyluniad trawiadol o’r Goron eleni. Rhoddir y Goron i enillydd cystadleuaeth y 'Bryddest' (barddoniaeth canu rhydd) ar 6 Awst.

Noddi Mas ar y Maes

Mae Mas ar y Maes yn gyfuniad o wirfoddolwyr deinamig, creadigol a chydweithredol. Eu huchelgais yw dathlu, herio ac ail-bennu’r hyn y mae'n ei olygu i fod yn LGBTQ+ heddiw, yn yr iaith Gymraeg. Stonewall Cymru sy’n ei gydlynu, ac mae Prifysgol Caerdydd yn falch o’i noddi yn 2018.

Eisteddfod Maes
Bae Caerdydd

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Eisteddfod