Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn pontio'r bwlch rhwng ceisio gwybodaeth academaidd ac anghenion diwydiant i arloesi a datblygu.

Mae catalysis yn galluogi adweithiau cemegol i fynd yn gyflymach, gyda gwell detholdeb ac ar gost ynni is gan arwain at brosesau glanach, mwy economaidd a chynaliadwy. Mae'r nodweddion hyn yn gosod catalysis wrth galon y mwyafrif o brosesau diwydiannol a biolegol.

Mae ein prif arbenigedd mewn catalysis heterogenaidd ond mae gennym ni gysylltiadau cryf ac arbenigwyr ym mhob maes catalysis o homogenaidd i beiriannu prosesau.

Gyda phwy ydym ni'n gweithio

Rydym ni'n gweithio i ehangu dealltwriaeth sylfaenol o brosesau catalytig ac yn manteisio ar yr wybodaeth hon i ddatblygu prosesau arloesol a chatalytig uwch.

Diwydiant

Rydym ni'n cydweithio gyda nifer o bartneriaid blaenllaw a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn meysydd fel y diwydiannau modurol, tanwydd a chynhyrchu cemegau ac rydym ni wedi helpu i ddatblygu a mireinio ystod o brosesau drwy gyfuniadau o ddulliau confensiynol ac arloesol.

Mae ein partneriaid yn cynnwys:

Academaidd

Mae gennym brosiectau cydweithredol gyda llawer o sefydliadau catalysis blaenllaw'r byd. Yn y DU CCI yw un o brif aelodau UK Catalysis Hubgyda phresenoldeb sylweddol yng Nghampws Ymchwil Harwell a chyswllt cryf gyda'r Diamond Synchotron Source.