Ewch i’r prif gynnwys

Ymgynghoriaeth fusnes

Gallwn helpu eich sefydliad i ddatblygu syniadau arloesol a datrys problemau busnes.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, sector a diwydiant i ddatblygu syniadau newydd sy'n cynhyrchu manteision ac allbynnau sylweddol.

Rydym yn deall bod pob busnes yn wahanol, felly rydym yn teilwra ein gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion. P'un a ydych chi'n weithiwr proffesiynol profiadol ac yn gwybod union beth rydych chi eisiau, neu angen cymorth i edrych ar ffyrdd i gyflawni eich nodau, gallwn helpu.

Mae ein cronfa o arbenigwyr blaenllaw a chyfleusterau yn cwmpasu ystod lawn o gefnogaeth arbenigol gan gynnwys:

  • cynnal profion a dadansoddi
  • darparu data arbrofol a dehongli crai
  • datrys problemau gweithgynhyrchu
  • chwilio am adnoddau ynni newydd
  • datblygu offer arloesol
  • cynnig arbenigedd ar faterion cymdeithasol
  • gwella prosesau busnes
  • datblygu eich staff a’ch busnes drwy addysg broffesiynol arbenigol.

Am fanylion llawn ar y gwasanaethau ymgynghori rydyn ni’n eu cynnig, cysylltwch â’r tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau.

Tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau

Hefyd mae gennym amrywiaeth o dechnolegau yn barod i drwyddedu. I gael gwybod rhagor cysylltwch â’n Swyddfa Trosglwyddo Technoleg.

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg