Skip to content

Golwg ar rai o gerddi a baledi Cymraeg Troed-y-rhiw (2001)

This content is available in Welsh only.

gan Athro E. Wyn James

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd gyntaf yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cyfres y Cymoedd: Merthyr a Thaf (Llandysul: Gwasg Gomer, 2001), tt. 94-129. ISBN 1 84323 025 9.

Hawlfraint © E. Wyn James, 2001, 2006

Pan ddaeth cais i gyfrannu i’r gyfrol ar gymoedd Merthyr a Thaf yn ‘Nghyfres y Cymoedd’, roedd fy newis o faes yn bur amlwg. ‘Troed-y-rhiw amdani,’ meddwn wrth y Golygydd, gan wybod y byddai hynny’n ei blesio. Oherwydd, yn ogystal â bod yn bentref genedigol i mi, bu mam yr Athro Hywel Teifi Edwards yn byw yn Nhroed-y-rhiw rhwng 1908 ac 1910, yn ystod ei blynyddoedd cynnar yn y ‘Sowth’, cyn i’r teulu symud i bentref glan-môr Llanddewi Aber-arth yn sir Aberteifi yn 1916, ar ôl i’w thad golli ei iechyd yn gweithio dan ddaear.[1] Yn wir, gan fy mod yn un o bumed genhedlaeth fy nheulu i fyw yn Nhroed-y-rhiw, rhaid bod llwybrau ein teuluoedd ni’n dau wedi croesi yn y pentref ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2]

Bu llawer o astudio ar hanes Merthyr Tudful, ar ei daeareg, ei gwleidyddiaeth, twf a thranc ei diwydiant, llywodraeth leol, yr economi, iechyd, ac yn y blaen. Prin iawn mewn cymhariaeth fu’r astudiaethau ar ei bywyd diwylliannol, ac yn enwedig y bywyd diwylliannol Cymraeg. Erys meysydd enfawr heb ddechrau eu harchwilio o ddifrif cyn belled ag y mae bywyd Cymraeg Merthyr a’r cyffiniau yn y cwestiwn. Y cyfan y bwriadaf ei wneud yn yr hyn sy’n dilyn yw edrych yn fras ar dri math o gerddi poblogaidd Cymraeg ar dair adeg ym mywyd diwylliannol Cymraeg Troed-y-rhiw, fel tamaid i aros pryd helaethach y gobeithiaf ei arlwyo maes o law, os byw ac iach. Ond cyn troi at y cerddi, gwell rhoi ateb cyflym i gwestiwn y dienwaededig, sef pa le y mae Troed-y-rhiw.

Diau fod yr ateb yn hysbys i bawb a arferai deithio mewn car o’r Gogledd i Gaerdydd cyn torri’r ffordd ddeuol newydd ar ochr orllewinol y cwm islaw Merthyr, gan fod yr hen briffordd o Ferthyr i Gaerdydd, yr A470, yn rhedeg trwy bentref Troed-y-rhiw. Ymhen tua milltir ar ôl ymadael â chyrion tref Merthyr, yn syth ar ôl mynd heibio i ffatri ‘Hoovers’, ceir pentrefi Abercannaid a Phentre-bach o boptu i afon Taf. Islaw’r pentrefi hynny y mae’r cwm yn culhau yn arwyddocaol ac ymhen tua milltir deuir i Droed-y-rhiw. Ymhen rhyw filltir arall, eto o boptu i’r afon, ceir pentrefi Aber-fan ac Ynysowen (Merthyr Vale). Tir amaethyddol mewn cwm cul sydd wedyn, nes cyrraedd clwstwr arall o bentrefi yng ngwaelod hen blwyf Merthyr — Edwardsville, Mynwent y Crynwyr (Quakers Yard) a Threharris.

O’r pum pentref sydd yn union islaw tref Merthyr, fe welir fod pentref Troed-y-rhiw yn wahanol i’r lleill. Y mae’r pentrefi eraill gyferbyn â’i gilydd o boptu’r afon, ond y mae Troed-y-rhiw yn rhychwantu’r cwm, y ddwy ochr i afon Taf. Y mae gan brif stryd y pentref, Bridge Street, sy’n rhedeg ar draws y cwm ac yn cysylltu dwy ochr y pentref, enw addas iawn gan ei bod nid yn unig yn mynd o dan bont rheilffordd y ‘Taff Vale Railway’ (a agorwyd yn 1841) ond hefyd yn arwain at groesfan hynafol yn yr afon, Pont-yr-ynn (neu Bont-rhun).[3]

Mewn gwirionedd, creadigaeth eithaf diweddar yw Troed-y-rhiw yn ei ffurf bresennol. Hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, nid oedd tref Merthyr ei hun yn fawr mwy na phentref gwledig. Yn sgil datblygu’r diwydiant haearn, cafwyd twf aruthrol ym mhoblogaeth y dref yn ail hanner y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ond nid dyna hanes y cwm islaw’r dref. Daeth y twf mawr yn hanes pentrefi’r cwm yn ail hanner y ganrif, gyda datblygu’r diwydiant glo. Hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly, ardal amaethyddol denau iawn ei phoblogaeth, gydag ychydig dai yn glystyrau yma ac acw, oedd yr hyn a alwn bellach yn bentref Troed-y-rhiw.

Anodd bod yn sicr ynghylch union boblogaeth ardal Troed-y-rhiw cyn y twf diwydiannol diweddar. Ymrannai hen blwyf Merthyr Tudful yn bum trefgordd, tair ohonynt (Garth, Gelli-deg a Heolywermwd) yng ngogledd y plwyf, yn amgylchynu’r dref ei hun, a’r ddwy arall yn ymestyn i lawr y cwm, yn fras o Abercannaid hyd at Dreharris, y naill (Taf-a-Chynon) ar ochr orllewinol yr afon a’r llall (Fforest) ar yr ochr ddwyreiniol. Arwydd o natur denau poblogaeth ardal Troed-y-rhiw cyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw mai 425 oedd poblogaeth gyfan trefgorddau Taf-a-Chynon a Fforest adeg cyfrifiad 1801, gan godi i 1,283 erbyn 1841

Sarnicol

Un a fu’n byw yn y cwm islaw Merthyr yn y cyfnod wedi’r diwydiannu, ond a fyddai wedi bod yn hapusach o lawer iawn yn byw yno yn y cyfnod tawel, gwledig cyn 1850, oedd y bardd a’r llenor difyr hwnnw, Sarnicol (T. J. Thomas, 1873-1945). Ef oedd prifathro cyntaf Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr, yr ysgol ramadeg a leolid yn Edwardsville (nid ym Mynwent y Crynwyr!) ac a wasanaethai’r rhannau hynny o Fwrdeistref Merthyr Tudful a orweddai islaw tref Merthyr. Fe’i hagorwyd yn 1922 mewn adeiladau dros dro — yr un adeiladau ag a oedd yno pan gaewyd yr ysgol yn 1967 a’i huno ag ysgolion uwchradd modern Treharris, Pant-glas (Aber-fan) a Throed-y-rhiw i ffurfio Ysgol Uwchradd Afon Taf, ysgol gyfun newydd mewn adeiladau newydd ar dir hen ffermdy Troed-y-rhiw.[4] Bu Sarnicol yn brifathro Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr o’r dechrau yn 1922 hyd nes iddo ymddeol yn 1931 a dianc yn ôl i’w Geredigion hoff.

Er iddo dreulio bron y cyfan o’i yrfa yn athro yng nghyffiniau Merthyr, yn hytrach na mynd i’r afael â phrofiad y De diwydiannol yn ei waith, gellir dweud mai ‘trigo’ yn ei gartref yn Aber-fan a wnâi Sarnicol o safbwynt llenyddol, gan fyw yn ei freuddwydion ar Fanc Siôn Cwilt ei blentyndod.[5] ‘Yn ystod f’alltudiaeth yn Lloegr, ac wedi hynny nes gartref ym Mynwy a Morgannwg,’ meddai Sarnicol, ‘ni fwriais erioed mohono [sef ei hiraeth am Fanc Siôn Cwilt]. Pa Gardi gwledig nad yw’n barod ar unrhyw bryd i gymryd mantais ar gyfle i ddianc am dro i ardal ei febyd? Gwn am ddegau o’r cyfryw ym Merthyr a’r cylch heddiw.’[6]

Ar sail ei brofiad yng nghymoedd y De, nid oedd Sarnicol yn obeithiol am ddyfodol y Gymraeg. Meddai mewn ysgrif a luniodd ar ôl symud o Aber-fan i Aberystwyth yn yr 1930au:

Iaith atgof yw’r Gymraeg. Pe bawn arlunydd, paentiwn hi fel hen wreigan wledig yn gorffwys ar ymyl y ffordd, ac yn taflu trem yn ôl, dros ei hysgwydd chwith, i edrych ar droeon ei gyrfa hir. Nid hoff ganddi edrych ymlaen... Nid hawdd gyrru car modur yn Gymraeg...A beth am hedfan drwy’r awyr gyda chyflymdra o dri chan milltir yr awr? A ydyw’r hen iaith yn barod i symud ymlaen gyda’r buandra hwn?...A beth sy’n mynd i ddod o’r Gymraeg pan glywir y fath gymysgedd a hyn: ‘Fe fues am run fach o Aberystwyth i Landysul y prynhawn ’ma. Mi ges skid ar Aberllolwyn Hill, a bues ’n agos ca’l smash yn erbyn y big bus, ond drwy ddrivo ’n straight i’r skid mi saviais yn dda iawn.’...Os i hynyna mae’r hen iaith yn dod, gwell iddi drengi ar unwaith, a chladdwn hi’n barchus yn ein Llyfrgell Genedlaethol.

Rhagwelai y byddai pawb yn sir Aberteifi yn ddwyieithog erbyn yr 1990au:

Yna, beth a ddigwydd i’r heniaith? A fydd gan y werin ddigon o ynni a brwdfrydedd i siarad y ddwy? Mae profiad hir o ardaloedd Morgannwg a Mynwy ’n peri mawr bryder i mi yn y cyfeiriad hwnnw. Nid yw plant y siroedd hynny’n teimlo dim diddordeb mewn iaith, fel iaith. Peiriannau a phethau ymarferol yw eu diddordeb pennaf.[7]

Eto, cân Gymraeg a luniodd Sarnicol yn gân ysgol ar gyfer Ysgol Mynwent y Crynwyr; ac fe’i cenid yn gyson, yn Gymraeg, hyd ddiwrnod cau’r ysgol am y tro olaf yn 1967:

Ar ael y bryn, a guddia lawer trysor

Yn hen gadernid y mynyddoedd mawr,

Ar oesol graig, a’r byd o’i blaen yn agor

Y saif ein hysgol yn wynebu’r wawr...[8]

Pan agorwyd Ysgol Uwchradd Afon Taf, rhaid oedd cael cân ysgol newydd, ac un Saesneg a gafwyd:

Proudly set in the valley at Troed-y-rhiw,

Mountain girt with the river beside,

Rising from the fields which for centuries the farmer knew,

Oh, inspire us, Afon Taf, with pride...

A beth bynnag arall a ddywedir amdani, y mae’r gân honno’n pwysleisio gwirionedd sylfaenol am Droed-y-rhiw, sef fod yr ardal (er gwaethaf peth trin haearn ym Mhont-yr-ynn mor gynnar, efallai, ag Oes Elisabeth)[9] yn un wledig yn ei hanfod hyd yn ddiweddar iawn. Ac at gerddi sy’n gynnyrch y bywyd amaethyddol hwnnw y trown am ein henghreifftiau cyntaf o gerddi poblogaidd Cymraeg yr ardal.

Canu’r Ychen

Yr ydym yn hen gyfarwydd â’r portread ystrydebol o lowyr Cymru yn canu ymhobman, o’r twba o flaen y tân i bocedi awyr yng ngwaelod pwll yn dilyn tanad. Ond, fesul pen, y mae’n ddigon posibl fod mwy o ganu yng nghymoedd y De yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol nag yng nghyfnod anterth y corau meibion hyd yn oed. Yn 1785, yn un o brif gylchgronau Saesneg y dydd, The Gentleman’s Magazine, disgrifir Blaenau Morgannwg fel gwlad fynyddig, ‘covered over with sheep and small black cattle’, a’i thrigolion gweithgar ac annibynnol eu hysbryd yn glynu wrth eu hen arferion oesol. Ceir rhagflas o ‘Frad y Llyfrau Gleision’ wrth i’r awdur fynegi ei farn fod y Gymraeg — ‘which has in it but few, if any books on commerce, agriculture, &c’ — yn gryn rwystr i’r bobl fabwysiadu’r dulliau amaethu newydd a blaengar a geid yn Lloegr. Er hynny, y mae’n amlwg fod y golygfeydd cyn-ddiwydiannol yn ei swyno’n llwyr:

These valleys...exhibit some of the finest landscapes in the world; the bottoms fine meadowes, traced by clear rivers or brooks; the sides a diversified scene of sloping lawns, ascending woods, and hanging rocks, from whence trinkles many a clear and cascading rill, whilst from their upper regions are heard the songs and whistlings of genuine shepherds.[10]

Ac nid y bugeiliaid yn unig a ganai wrth eu gwaith. Mewn llythyr at William Owen [Pughe] yn Rhagfyr 1802 dywed Iolo Morganwg:

The Gloucestershire farmers and dairymen, who are fond of the Glamorgan Cattle, often curse the Ploughboys and Milkmaids of Glamorgan, for Oxen will, frequently, neither work, nor Cows stand to be milked, without their accustomed Music, and there is but little music in the Glocestershire Varmers.[11]

Aredig ag ychen oedd yr arfer yn gyffredinol yn yr hen amser. Yn araf bach, o ddiwedd yr Oesoedd Canol ymlaen, ac yn enwedig o’r ddeunawfed ganrif, disodlwyd yr ychen gan geffylau, a’u disodli’n llwyr erbyn tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cadarnle olaf yr aredig ag ychen yng Nghymru oedd Morgannwg, ac yn enwedig Bro Morgannwg, lle y cafwyd aredig ag ychen hyd at tua 1890.[12] Yr arfer wrth aredig oedd cael geilwad i annog yr ychen yn eu blaen. Cerddai’r geilwaid Seisnig y tu ôl i’r ychen, ond dilynai’r Cymry yr hen arfer Celtaidd o gerdded wysg eu cefn o flaen yr ychen. Yr oedd hynny’n bosibl am fod ychen yn symud yn araf; ond âi ceffylau yn rhy gyflym i ganiatáu hynny, a bu raid i’r geilwaid gerdded wrth eu hochr hwy. Er y ceir tystiolaeth fod yr aradrwr a’r geilwad ill dau yn canu wrth eu gwaith, â’r geilwad y cysylltwn yr arfer o ganu i’r ychen, i’w hannog ymlaen a chodi eu calonnau ynghanol eu llafur.[13] Meddai un geilwad o sir Gaerfyrddin: ‘I had to sing for them all day long, and was so hoarse when night came that I could hardly speak...They would not work if you did not sing for them.’[14] Rhoddid telerau gwell wrth gyflogi llanciau os oedd ganddynt leisiau soniarus a stôr o ganeuon addas; a golygfa gyffredin oedd gweld pobl yn aros yn ymyl y ffordd i wrando ar yr ‘arogldarth gerddorol’ yn codi o’r caeau wrth i’r geilwaid ganu i’r ychen.[15]

Y mae nifer dda o’r penillion a genid i’r ychen wedi goroesi, ac yn ffodus iawn, yn y cylchgrawn Cymru yn 1907, cawn Benjamin Thomas o ‘New Cottage, Aber-fan’ yn cofnodi ‘ychydig o’r penhillion a genid gyda’r ychen’ yng ngogledd Morgannwg — cyfanswm o 19 pennill i gyd.[16] Yr oedd aredig ag ychen wedi peidio yn yr ardal erbyn iddo eu cyhoeddi, oherwydd dywed yn ei sylwadau rhagymadroddol: ‘Yr olaf fu’n aredig gyda’r ychen yn Nwyreinbarth Morgannwg oedd Thomas Willams o’r Fforest ym mhlwyf Merthyr, yr hwn a fu farw tua’r flwyddyn 1870. Credai efe fod mwy o fendith yn dilyn traed yr ychen na’r ceffylau.’[17] Gan fod yr arfer wedi hen beidio, meddai, ‘aeth llawer o’r hen ganeuon ar goll, a bu farw’r cantorion. Gwna hyn y gorchwyl o gasglu’r penhillion yn anhawdd.’ Nid yw Benjamin Thomas, ysywaeth, yn nodi gan bwy, na pha bryd, nac ym mha le yn union y cododd y penillion — ac eithrio’r gân olaf (rhif XIX isod), sydd, sut bynnag, braidd yn wahanol o ran ei natur i’r lleill. Pwyleisir fod y penillion yn rhai a genid yng ngogledd Morgannwg, a theg yw tybio mai yng nghyffiniau Aber-fan a Throed-y-rhiw y codwyd y rhan fwyaf ohonynt, er bod gan Benjamin Thomas un cyfeiriad at ychen mewn man arall yn y sir: ‘Cedwid rhywogaeth dda o ychen at aredig. Ym Morgannwg yr oeddynt yn rhai uchel ar eu coesau, a chefnau gwynion, a rhan o’r corff yn ddu. Nid oes un o honynt i’w ganfod erbyn hyn. Y rhai diweddaf a welais oedd gan Dr. Price Llantrisant’, sef y cymeriad lliwgar hwnnw, William Price (1800-93), y meddyg, Siartydd, derwydd a chorff-losgwr.

Geiriau olaf Benjamin Thomas cyn atgynhyrchu’r penillion yw: ‘Cofier mai yng Ngogledd Morgannwg y cenid hwynt.’ Diben dweud hynny, mae’n debyg, yw am ei fod wedi cadw rhai ffurfiau llafar a thafodieithol wrth eu cyhoeddi, megis ‘shiglo’ (siglo), ‘gotro’ (godro), ‘yn bring’ (yn brin), ‘gwarthig’ (gwartheg), ‘cerddad’ (cerdded), ‘arad’ (aradr), ‘ym Mrysta’ (Bryste, S. Bristol), ‘na thai’ (na [phe]tai), ‘ganto’ (ganddo), ‘chware’ (chwarae), ‘dera’ (dere), ‘wrth ’ym ’unan’ (wrthyf fy hunan), ‘cwmws’ (cymwys), ‘ca’l’ (cael), ‘ffynhonna’ (ffynhonnau), ‘prwfo’ (S. prove), ‘cwplo’ (cwblhau), ‘yn ei gyfar’ (yn ei gyfer), ‘eisia’ (eisiau), ‘cyfla’ (cyfle). Ond nid yw’n gyson. Er enghraifft, byddid wedi disgwyl ffurfiau megis ‘gwelas’ (gwelais), ‘nido’ (neidio), ‘tæn’ (tân), ‘amsar’ (amser), ‘doti’ (dodi), ‘gatal’ (gadael) a ‘wara’ (‘chwarae’), yn hytrach na’r ffurfiau safonol, pe bai am gyfleu ieithwedd a oedd yn nodweddiadol o iaith gogledd-ddwyrain Morgannwg.[18] Wrth ailgyhoeddi’r penillion isod, twtiwyd ychydig ar yr atalnodi a’r orgraff, ond gan geisio osgoi newid yr ynganiad a gyfleir yn Cymru. Nid amcanwyd ychwaith at lafareiddio’r testun yn fwy nag a wnaeth Benjamin Thomas.

Cyn atgynhyrchu testun y penillion, bydd o fudd, efallai, egluro ystyr ambell air mwy dieithr na’i gilydd: ‘cyrnig’ (corniog), ‘pia’ (amrywiad ar ‘pi’, S. magpie), ‘gara’ (lluosog ‘gar’ = coes), ‘ciltyn’ (cilcyn, lwmpyn, dernyn), ‘trenshwn’ (cyllell; plât pren ar gyfer bwyd, S. trencher), ‘yn dal’ (yn dalog), ‘ma-ho’ (anogaeth i’r ychen fynd yn eu blaen), ‘o dde’ (yn gywir), ‘esmwyth gôl’ (baich neu lwyth esmwyth). Y mae Benjamin Thomas yn cyfeirio yn ei erthygl at y ‘ddôl’ y sonnir amdani yng nghân XIX, sef (yng ngeiriau Geiriadur Prifysgol Cymru) ‘pren ar ffurf bwa sy’n cau fel coler am wddf ych o dan yr iau’, S. ox-bow:

Cof gennym am yr ychen wedi eu cyplu dan yr iau. Pren cam oedd yr iau, oddeutu pum troedfedd a hanner o hyd a chwe modfedd o led, yn gorffwys ar ysgwyddau’r ychen, ac yna yr oedd dwy ddôl yn dyfod i fyny trwy’r iau am yr wddf, a phin pren yn eu sicrhau hwy yn yr iau, a chadwyn yn myned o’r iau rhwng yr ychen i’r aradr bren.

Noda Benjamin Thomas hefyd fel y ‘pedolid pob un o’r ychen. Ai’r gof ar hyd y ffermydd i wneyd hynny. Ffurf y bedol oedd hanner lleuad.’ Er cyflawnder, cystal nodi hefyd sylwadau Benjamin Thomas ynghylch y cyfuniadau yn y wedd a ddefnyddid wrth aredig:

Mewn rhai ffermydd gwelwyd cymaint â chwe pâr yn tynnu’r un aradr. Ar y blaen rhoid dau hen ych, a dau hen ych yn ôl, a dau ych ieuanc yn y canol, er mwyn eu harfer i weithio. Mewn lleoedd eraill rhoid ceffyl i flaenori pedwar ych. Gofynnai hynny am ddau fachgen ac un dyn i’w harwain.[19]

Dylid nodi un peth arall hefyd, sef mai enwau ar ychen yw King, Duke a Bandy yng nghaneuon II a XVIII isod. Yn draddodiadol, enwau Cymraeg a roddid ar wartheg, ond rhai Saesneg ar geffylau. Er enghraifft, enwau’r gwartheg godro yn Nolwar Fach, cartref Ann Griffiths yr emynyddes, oedd Braithen, Brochen, Mwynen, Pincken, Starren, Pennant a Cocos; tra mai Smiler, Dragon a Blease (= Blaze) oedd enwau’r ceffylau.[20] Ond wrth i geffylau gael eu defnyddio’n gynyddol yn gymysg ag ychen yn y wedd, dechreuodd yr ychen golli eu henwau traddodiadol Cymraeg a chael enwau Saesneg crand, yr un fath â’r ceffylau pwysicach eu statws.[21]

Dyma’r penillion, wedi’u rhifo yn ôl y rhifau sydd iddynt yn Cymru:

I

Tri pheth ni saif heb shiglo

Yw llong ar fôr yn hwylio,

A dalen cyll ar ben y pren,

A dwylo Gwen yn gotro.[22]

II

King, King,

Mae bywyd yn bring.

Mae rhaid aredig wrth ychydig

I gael cadw bwyd i’r gwarthig.

III

Mi wela’ i’r môr, mi wela’ i’r mynydd,

Mi wela’ i bart o sir Feirionnydd;

Mi wela’ i’r castell mawr ’Mhen-llin,

Mi wela’ i dŷ Twm Dafydd.[23]

IV

Mae gen i ddafad gyrnig,

Ac arni bwys o wlân,

Yn pori brig yr eithin,

Ymysg y cerrig mân;

Fe ddaeth rhyw fugail heibio,

Fe ysodd arni’i gi;

Ni welais i byth o ’nafad,

Na’r bugail byth ei gi.[24]

V

Mi welais beth na welodd pawb,

Y cwd a’r blawd yn cerddad,

A’r frân yn toi ar ben y tŷ,

A’r pia’n dala’r arad.[25]

VI

Mi dy welais gynt ym Mrysta

A dy fritches am dy arra’,

Yn neidio naid oddi wrth y llawr

Am giltyn mawr o fara.

VII

Does gennyf fi ddim i gynnal fy nhŷ

Ond trenshwn du bach, a cheiliog, a chi;

Pan ddelo hi’n ddydd, y ceiliog a gân,

A’r ci bach yn chwarae gogyfer â’r tân.

VIII

Mae gen i bedwar eidion,

Gwyn fyd na thai nhw’n gochion;

I dorri cyfer ar y glas

I gadw’r gwas yn foddlon.[26]

IX

Mi welais arna’ i’r amser,

Yn awr nid oes dim llawer,

Y troeswn feddwl merch heb drai

Mewn llai na awr a hanner.[27]

X

Mae’r amser hynny eto

Gan fab sy a’i galon ganto,

Y troiwn feddwl merch yn awr

Dan awr ar ôl im geisio.

XI

Mae Blackes yn byw ar ben mynydd,

Ei diben hi beunydd, a’i brad,

Yw dodi enwau bach ffrwythlon

Ar fechgyn bach gwirion o’r wlad;

Y cyntaf mae’n enwi yw Betsan,

A Lowri, gŵr digri’ on’te,

A Phincher oddi ar Donyrefail,

A hwnnw fodfeddi o’i le.

XII

Aderyn du pigfelyn,

A ei di drosto i’n dal

Oddi yma i dŷ Joseff

A disgyn ar y wal;

A dwed wrth Mari Wiliam

Am beidio bod yn ffôl,

A charu Morgan Elis

A gadael John ar ôl.

Mae John yn fachgen gwirion,

Os caiff e chware teg,

Mae wedi cael ei ddewis

Ar bedair merch ar ddeg.[28]

XIII

Yr ych brych a’r goes bren,

A’r ferch fain a’r bais wen,

Ma-ho, dera ’ngwas i.

XIV

Dacw Fynydd Eglwysilan

Lle buo i ganwaith wrth ’ym ’unan,

Ac ar ei ben hen lwdwn cyrnig,

Miharan chwerw felltigedig.[29]

XV

Pan own i’n mynd i lawr i’r Mwm[b]wls,

Cwrddyd wnawn â thair merch gwmws,

’Y nghariad i oedd yn y canol,

Fel rhosyn coch mewn llwyn o dafol.

XVI

Mae ’nghariad i yng ngolwg rhai

Fel meillion gwynion ynghanol Mai;

Ond yn fy ngolwg nid yw ond gwael,

’Waeth gen i ei cholli mwy na’i chael.

XVII

Mi welais Shon Llywelyn

Yn dawnsio’n dal heb delyn,

Heb un crwth na lle i ga’l

Ynghanol gwâl y mochyn.[30]

XVIII

Duke a Bandy, ble buot ti’n pori?

Ar Waun Fawr tu hwnt i ’Berhonddu.

Beth oedd yno’n well nac yma?

Porfa las a dŵr ffynhonna’.[31]

XIX

Y cyfaill mwyn clyd,

Mewn pryd mae dy brwfo,

A’th dreio i dre,

I gwplo byr ennyd

Addewid o dde.

Bren iau a dwy ddôl

A fo’n esmwyth gôl,

Y Cymro hael gwir hedd,

Chwi gawsoch ddau eidion

Da gwiwlan eu gwedd;

Nhw drônt ar bob talar

I’r canwr yn dawel,

Bob un yn ei gyfar

Heb edrych yn ôl.

Mae ynddynt bur gamrwydd

Heblaw eu deheurwydd,

Nhw drônt yn bur ebrwydd

Heb arfer blaen hôl;

Rwy’n meddwl na ddaliwyd

Eu gwell mewn dwy ddôl.

Pren gorau yn ddiau

A garai ei ffitio

Yn ddiffael a phâr o drybyla’,

Gwych hoelion sy eisia’;

Nid oes yn Blaenhepsta’

Un cyfla i’w cael.[32]

Fel y gwelir, y mae’r caneuon uchod yn amrywio’n fawr o ran mesur a phwnc. Dywedir yn aml mai ar driban y cenid i’r ychen, a dyna oedd hoff fesur geilwaid Morgannwg yn ddiau. Ond y mae Phyllis Kinney a Meredydd Evans yn defnyddio casgliad bychan Benjamin Thomas i bwysleisio’r amrywiaeth mesurau a geid hyd yn oed yn y sir honno. ‘Yn eu plith’, meddant, ‘ceir y mesurau canlynol: triban, hen benillion, awdl-gywydd, penillion wyth llinell saith-chwech, wyth llinell naw-wyth, pedair llinell ddegsill a dwy linell chwesill’; a’u casgliad yw mai nodwedd ddiffiniol cân ychen yw, nid mesur na chynnwys penodol, ond yr ‘alwad anogaethol...sy’n dod ar ddiwedd y penillion: hw-mlan, dere dere, ma-hw, ac ati’.[33]

Yn sicr, eu hamrywiaeth yw pwyslais Benjamin Thomas yntau ar ddechrau ei sylwadau ar y caneuon:

Cenid pob math o ganiadau gyda’r ychen. Yr oedd peth barddoniaeth isel na charem ei weld mewn argraff yn cael ei ganu.[34] Gan mai bechgyn o’r deg i’r pymtheg oed oedd yn gyrru, cenid llawer o hwiangerddi. Nid oeddynt wedi anghofio dyddiau magu, ac ni fedrent ganiadau hirion.[35] Yr oedd yn arferiad yn rhannau dwyreiniol Morgannwg i’r ffermwyr gynorthwyo eu gilydd yn amser cneifio a medi; darparent gwrw erbyn yr amserau hynny, ac ar ol yfed yn helaeth gwneid i’r cantorion ganu. Yr oedd canu gyda’r ychen yn rhyw fath o baratoad ar gyfer yr adegau hynny.

Y math hwn o ymryson barddol sy’n esbonio, yn rhannol, paham y cafodd cynifer o benillion amrywiol ar gyfer canu gyda’r ychen eu llunio a’u cofio. Rheswm arall am y rhychwant o bynciau yw’r berthynas o barch ac agosrwydd a fodolai rhwng y geilwad a’r ychen, a olygai fod y geilwad yn rhannu ei brofiadau a’i deimladau amrywiol â’r ychen ar gân wrth iddynt gydgerdded.[36] Rhwng y cwbl, felly, fe gawn trwy’r canu hwn gipolwg ar sawl agwedd ar y Forgannwg — a’r Troed-y-rhiw — gyn-ddiwydiannol.

Baledi Troed-y-rhiw

Fel y nodwyd eisoes, yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda thwf y diwydiant glo, y daeth y twf mawr yn hanes pentref Troed-y-rhiw. Daw’r trobwynt tua 1850, a chyn hir yr oedd yr ychydig glystyrau o dai yma ac acw wedi troi yn bentref sylweddol o tua 2-3,000 o bobl yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan godi i tua 4,000 erbyn cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn gostwng eto yn sgil dirwasgiadau economaidd ganol yr ugeinfed ganrif i ryw 3,000.

Un math o farddoniaeth a gysylltwn yn arbennig â’r cymunedau diwydiannol a ddatblygodd yng nghymoedd y De yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw’r cerddi poblogaidd a welir ar y taflenni baledi bach pedair-ochr a argraffwyd ac a werthwyd wrth y miloedd yn y cymoedd hynny yn ystod y ganrif. Cofiaf o hyd y syndod a’r pleser annisgwyl a gefais, flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, wrth weithio trwy’r gwahanol gasgliadau o faledi sydd yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus a’n llyfrgelloedd prifysgol, a dechrau dod ar draws baledi a argraffwyd yn Nhroed-y-rhiw — a argraffwyd, yn wir, ym mhrif stryd siopa’r pentref, sef Bridge Street, y stryd y’m magwyd ynddi. Erbyn hyn yr wyf wedi dod o hyd i tua 45 ohonynt, a’r rhan fwyaf o lawer yn rhai Cymraeg eu hiaith. Fe’u hargraffwyd yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac y maent felly yn llecyn bach golau mewn cyfnod o ddirywiad yn hanes y faled ac yn hanes y Gymraeg yng nghylch Merthyr.

Y mae’r stori’n dechrau yn 1853. Dyma ddarn o adroddiad cellweirus am Droed-y-rhiw gan ohebydd y Cardiff and Merthyr Guardian yn rhifyn 30 Hydref 1852:

This place bids fair to be a star of the first magnitude. It formerly had only a chapel, two taverns, a few cottages, an engine-house, the remnant of a mill, and a miserable shed, dignified by poetic license with the name of a railway station. But [speculation on the part of certain gentlemen...] has led to the erection of numerous cottages; by perpetual battering, the Taff Vale Railway have been induced to improve their station; and the place has been successively adorned with villas, a new church, and two or three new meeting-houses...a policeman has [also] been added to the live stock in that locality...it has had an Eisteddfod two or three times; and the locality is so rich in bards, that the worship of Bacchus is carried on in rhyme, and ‘fetchings’ for the neighbouring works are supplied to orders conveyed in the form of Welsh Englynion.

Ar y pryd yr oedd dyn o’r enw Daniel Jones, a aned tua 1811, yn cadw siop groser yng nghanol tref Merthyr. Rhai o ardal Llanymddyfri yn sir Gaerfyrddin oedd ef a’i wraig, Mary Waters — ef yn enedigol o blwyf Llangadog a hithau o blwyf Llanfair-ar-y-bryn. Wrth weld Troed-y-rhiw yn dechrau tyfu a datblygu, fel y dyn busnes craff ag yr oedd, gwelodd Daniel Jones y byddai ar ei ennill o symud i’r pentref. Cododd adeilad newydd ar ddarn o dir agored sydd bellach yn rhan o Bridge Street,[37] ac agor siop groser yno yn 1853. Bu llewyrch ar y busnes, a chylch y cwsmeriaid yn ymestyn mor bell â Chwm Rhondda.

Erbyn dechrau’r saithdegau yr oedd dau o’r meibion — William a’i frawd bach, John Daniel (‘J. D.’) — yn gweithio yn y siop gyda’u tad. Erbyn hynny yr oedd y siop wedi symud i’r tŷ y drws nesaf i’r adeilad gwreiddiol, a’r busnes wedi dechrau datblygu i gyfeiriadau newydd, megis fferylliaeth, yn enwedig dan ddylanwad William. Cyn hir priododd William ferch o ardal Llandysul ac agor siop ar ochr ddwyreiniol Bridge Street, ar gornel Bridge Street a Wyndham Street. Yr oedd yn fusnes amrywiol iawn ei natur. Dyma’r disgrifiadau ohono sydd i’w gweld mewn cyfeiriadur busnes a gyhoeddwyd yn 1875: ‘Chemists and Druggists’, ‘Booksellers, Stationers and Newsagents’, ‘Furniture Brokers’, ‘Ironmongers’, ‘Curriers and Leather Sellers’ a ‘Boot Upper Manufacturers’. Y mae’n amlwg fod ganddo argraffwasg yno hefyd, oherwydd ar 7 Mai 1875 lansiodd bapur newydd wythnosol eithaf byrhoedlog, The Taff Vale Gazette (nad oes ond dau rifyn ohono wedi goroesi, ysywaeth).[38] Bu bron i’r papur fod yn eithriadol o fyrhoedlog, oherwydd ymhen tua phedwar mis ar ôl ei lansio, cafwyd tân difaol yn y swyddfa argraffu. Yn ffodus, yr oedd y cyfan wedi’i yswirio’n llawn.[39]

Y mae’n anodd dyddio baledi’r wasg yn fanwl, gan nad oes dyddiad wedi’i nodi ar y rhan fwyaf ohonynt; ond hyd y gwelaf, yr oedd y gwaith o argraffu baledi yn ei anterth yn ail hanner yr 1870au a dechrau’r 1880au. Y mae mwy nag un argraffnod ar y baledi. Enw William Jones sydd ar ryw draean ohonynt, gyda ‘Jones’ yn unig ar ddwy neu dair o’r lleill. ‘Jones & Co.’ yw’r enw ar y rhan fwyaf. Erbyn tua diwedd yr 1870au, yn sgil y tân efallai, yr oedd William Jones wedi symud ei siop a’i argraffwasg i adeilad ar ochr orllewinol Bridge Street a oedd yn lled agos at siop ei dad, a chredaf mai i’r cyfnod diweddarach hwn y perthyn yr argraffnod ‘Jones & Co.’ Ond bid a fo am hynny, cynnyrch yr un teulu o argraffwyr ydynt oll; a’r hyn sydd gennym yn y bôn yw gwasg fach bentref, yn arbenigo mewn cyflenwi mân anghenion argraffu’r cylch, a heb amcanu (hyd y gwn i) at bethau mwy uchelgeisiol megis argraffu a chyhoeddi llyfrau, ond sydd, o’r ochr arall, yn amlwg yn arbenigo mewn cyhoeddi a gwerthu baledi. Ac i gadarnhau hynny, ceir y nodyn canlynol ar daflen faledi yn 1879: ‘Music and Ballads of every description always in stock.’

Fel y crybwyllwyd uchod, yr wyf erbyn hyn wedi dod o hyd i ryw 45 o daflenni baledi gwahanol a argraffwyd gan y wasg hon. Un copi yn unig sydd wedi goroesi yn achos tua’u hanner, ond y mae sawl copi ar gael o rai o’r lleill, a hynny’n arwydd o boblogrwydd y baledi hynny, mae’n debyg. Er enghraifft, y mae tua hanner dwsin o gopïau o’r baledi ‘Cân newydd a gyfansoddwyd pan ar fordaith i America’ a ‘Cân sylweddol sef myfyrdod mewn mynwent’ i’w cael mewn llyfrgelloedd gwahanol, a rhyw bedwar copi yr un o’r baledi ‘Cân y Gormeswr’, ‘Pa le byddwn ymhen can mlynedd’ ac ‘Y Cyfamod Di-sigl’. Y mae’r rhan fwyaf o’r taflenni baledi yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ceir tua deg taflen yr un yng nghasgliadau Amgueddfa Werin Cymru a Llyfrgell Ganolog Dinas Caerdydd, a dau neu dri yr un yn llyfrgelloedd y Brifysgol yng Nghaerdydd, Abertawe a Llanbedr Pont Steffan ac yn Llyfrgell Gyhoeddus Pontypridd; ond nid oes yr un o daflenni gwasg Troed-y-rhiw yng nghasgliad baledi helaeth Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor, sy’n cadarnhau’r argraff gyffredinol a gaf fod baledi’r wasg wedi teithio ar draws y De, ond na fu iddynt gyrraedd y Gogledd. Diau hefyd fod peth o gynnyrch gwasg Troed-y-rhiw ymhlith y nifer sylweddol o daflenni baledi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg nad oes argraffnod arnynt, naill ai er mwyn peidio â chysylltu enw da’r wasg â’r dosbarthiadau is o faledwyr crwydrol, neu efallai er mwyn osgoi’r posibilrwydd o gosb am lên-ladrad. Yn sicr, yr oedd argraffwyr baledi Troed-y-rhiw yn ymwybodol iawn o berygl llên-ladrad. Ceir ar nifer o’u baledi y geiriau ‘All rights reserved’ neu ‘Copyright’, ac ar un ohonynt gwelir y nodyn hwn: ‘Any person informing us of the Printing of any of the songs published by us, will be rewarded for their trouble.’

Amrywiaeth yw’r gair cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth geisio disgrifio cynnyrch baledi’r wasg. Ceir amrywiaeth eang o fesurau — dros ugain o wahanol fesurau i gyd. Y mesurau mwyaf poblogaidd yw’r 87.87.D. ac yna’r 76.76.D. a’r 86.86.D. Awgrymir tôn benodol ar ryw draean o’r taflenni, a Cwynfan Prydain, Toriad y Dydd, Plas Gogerddan, Old Derby, a Paddle Your Own Canoe yn eu plith. Ceir amrywiaeth eang o awduron, wedyn. Enwir bron i ddeg ar hugain o awduron gwahanol ar y taflenni. Yn eu plith y mae rhai adnabyddus iawn yn genedlaethol, megis y Ficer Prichard, Ceiriog, Eben Fardd, Alun a Thalhaiarn; ond fel y byddid yn ei ddisgwyl, y mae cyfartaledd eithaf uchel o’r awduron â chysylltiad agos â’r de-ddwyrain — Isaac Thomas (Aberdâr), Ieuan Gwynedd, Gwilym Gelli-deg a David Williams (‘Alaw Goch’), er enghraifft. Ceir sawl eitem gan ‘Gwyddonfryn’, sef William T. Price o Ferthyr; ac y mae ei gerdd ‘Cân yr Ymfudwr’ yn tanlinellu’r amrywiaeth mesurau a geir, gan fod y faled honno i’w chanu ar dri mesur gwahanol!

Ceir amrywiaeth eang o ran pynciau hefyd. Y mae peth o’r cynnyrch yn grefyddol a moesol ei naws, a nifer o’r cerddi hynny yn pwysleisio breuder bywyd, megis ‘Pa le byddwn ymhen can mlynedd’ gan Gwilym Gelli-deg, BBD (= ‘Bardd yn ôl Braint a Defod’), neu ‘Myfyrdod ar y cloc yn taro’ gan Azariah Shadrach, neu ‘Y Cyfamod Di-sigl’ gan Hugh Derfel Hughes. Ond yr argraff a geir yw bod y rhain yn ganran lai nag arfer wrth ochr cynnyrch argraffwyr baledi eraill. O’r ochr arall, gellir tybio fod yma ganran uwch na’r cyffredin o faledi ysgafn a doniol, a’r rheini a chytgan iddynt yn bur aml. Y merched, a’u tafodau’n arbennig, yw’r cocyn hitio yn nifer o’r rhain — megis ‘Cân i Wragedd a Merched Clecog’ a ‘Cân sef hanes cydgynulliad gwragedd a merched i dai ei gilydd a d’wedyd clecs y naill wrth y llall’ — ac y mae caru a goryfed yn destunau amlwg yn ogystal, heb sôn am ganeuon ar bynciau megis ‘Hen Dricks Eisteddfodol’ neu ‘Yr olygfa geir ym Merthyr ar nos Sadwrn’.

Ceir sawl cân serch yma, megis ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ a’r ‘Ferch o Landaf’, a cheir hefyd ganeuon y gellir eu galw’n rhai ‘sentimental’, y math o gerddi a welir yn Ceinion y Gân (1983), detholiad E. G. Millward o ganeuon poblogaidd Oes Victoria. Dyna ‘Gelert, Ci Llywelyn’ a ‘Cân y Llysfam Ddrwg’, er enghraifft. Ni welais unrhyw farwnadau na hanes llofruddiaethau, dau ddosbarth lluosog o faledi fel arfer; ond ceir nifer o gerddi i drychinebau mewn pyllau glo — yn Rhisga ac Aber-carn yng Ngwent, a Dinas a Phen-y-graig yng Nhwm Rhondda, ac un i drychineb yn Lycett, swydd Stafford. Y mae’r baledi hyn yn dyddio o’r cyfnod 1878—80, cyfnod mwyaf cynhyrchiol y wasg hyd y gellir barnu, ac y mae’r taflenni ar gyfer y trychinebau Cymreig yn cynnwys rhestrau llawn o enwau’r rhai a laddwyd — elfen bwysig ar gyfer y gwerthu, bid siŵr. Y ddwy eitem arall o blith cynnyrch y wasg hon sy’n adlewyrchu orau swyddogaeth ‘newyddiadurol’ y faled yw dwy faled yn codi o ryfela Prydain yn ne Affrica yn y cyfnod, sef y gân hiraethlon, ‘Dymuniad milwr ar faes y gad’, a cherdd Gwyddonfryn, ‘Cân yn gosod allan hanes y gyflafan fu ar ein milwyr dewrion yn Isandula yng ngwlad y Zulu, ar yr 22ain o Ionawr, 1879’.

Er y bu cyfnodau o lewyrch mawr yn hanes economaidd yr ardal, bu llawer o ormes a thlodi a dioddef yn ogystal, ac adlewyrchir hynny mewn baledi megis ‘Cân y Gormeswr’ a’r gân i’r ceginau cawl, ‘Song of praise to the subscribers of relief for South Wales by a collier who has a wife and seven children’ — un o’r ychydig faledi Saesneg a gyhoeddodd y wasg, er bod peth Cymraeg yn y ddau bennill olaf.

When orders come in for the Iron and Coal,

And trade is revived, finding work for us all;

We’ll sing with new hearts to the praise of the pair,

The Rector of Merthyr and Lord Aberdare.

CHORUS:

‘Am ddanfon mor hael a chasglu ar frys,

I’n cadw rhag newyn drwy roddi cawl peas.’

Ni theimlwn byth newyn tra pery’r cawl peas,

And when the time comes that subscriptions must cease,

Wrth y glo and the furnace ni weithiwn bob one,

Gan cofio yr holl seison who helped the poor man.

CHORUS:

Forget them, no never, no never I hope,

Thra plant bach’n cofio ‘the kitchen pea soup.’

Deillio o gyfnod o ddirwasgiad ym maes glo’r De yn ail hanner yr 1870au y mae’r faled hon, pan drefnodd rheithor lliwgar Merthyr, John Griffith (1818?-85), a’r cyn-Aelod Seneddol dros Ferthyr, Arglwydd Aberdâr (H. A. Bruce, 1815-95), gronfa a cheginau cawl er cynorthwyo teuluoedd anghenus yr ardal. Y mae’r faled hon wedi’i hargraffu ar un ochr i ddalen sengl, yn hytrach nag ar daflen bedair-ochr fel y rhan fwyaf o gynnyrch y wasg; ac y mae argraffu baledi yn y dull hwn yn arwyddo fel arfer eu bod wedi’u bwriadu ar gyfer codi arian at achos elusennol yn hytrach nag at ddibenion masnachol.[40]

Gormes a thlodi yw’r cefndir hefyd i’r baledi am ymfudo a hiraeth am yr hen wlad, y ceir rhyw hanner dwsin ohonynt ymhlith cynnyrch y wasg hon — cerdd boblogaidd Isaac Thomas, Aberdâr, am ‘Morgan bach a’i fam yn ymddiddan ynghylch myned i Awstralia’, er enghraifft, a’r gân ‘Cymro—America yn hiraethu am Gymru’. Gwedd ar wladgarwch yw’r hiraeth am Gymru sy’n nodweddu cerddi o’r fath, fel yn y gerdd ‘Cân newydd a gyfansoddwyd pan ar fordaith i America’:

Y nos ’rwy’n methu cysgu,

’Rwy’n crynu ar fy nhraed,

Ac hiraeth bron â’m llethu,

Pan gofiwyf am fy ngwlad.

Ceir tinc gwladgarol mewn baledi eraill, megis ‘Clod i Gymru a Chymraeg’; ac o gofio’r agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith a welir yn y cynnyrch yn gyffredinol, nid annisgwyl yw gweld cerdd adnabyddus Abel Jones (‘Bardd Crwst’) am Ddic-Siôn-Dafyddion ymhlith baledi’r wasg.

Y mae’n werth oedi ychydig gyda natur ieithyddol cynnyrch y wasg hon. Oherwydd y newidiadau ieithyddol a oedd ar droed yn ne-ddwyrain Cymru yn sgil datblygu’r diwydiant glo, y mae’r arfer o gynnwys peth Saesneg ar daflenni baledi yn mynd ar gynnydd o tua 1865 ymlaen, ac yn enwedig ar ôl tua 1885. Un o’r camau cyntaf yw gweld ychwanegu ambell bennill Saesneg o naws rybuddiol neu foeswersol at gerddi Cymraeg sy’n adrodd hanes llofruddiaeth neu ddamwain. Datblygiad arall yw cael taflenni baledi sy’n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg cyflawn o’r un gerdd, weithiau yn gerddi cyfochrog ac weithiau yn benillion Cymraeg a Saesneg am yn ail. Droeon eraill, ceir un neu ddwy o gerddi Cymraeg ar daflen ynghyd â cherdd Saesneg hollol wahanol, er yn aml ar thema debyg. Llai cyffredin o dipyn yw taflenni baledol sydd yn uniaith Saesneg; a rhaid pwysleisio mai taflenni uniaith Gymraeg yw mwyafrif llethol taflenni baledi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac na fu gormod o fynd ar daflenni baledi dwyieithog a Saesneg yn ne Cymru yn Oes Victoria.[41]

Y mae gwasg Troed-y-rhiw yn enghraifft dda o hyn. Erbyn Cyfrifiad 1891, yr oedd tua thraean poblogaeth Dosbarth Cofrestru Merthyr Tudful (a gynhwysai Troed-y-rhiw) yn uniaith Gymraeg, traean arall yn ddwyieithog a thraean yn uniaith Saesneg.[42] Y mae golwg gyflym ar lyfrau’r cyfrifiad ar gyfer Troed-y-rhiw yn awgrymu patrwm nid annhebyg o safbwynt y rhai uniaith Saesneg (sef tua thraean), gyda rhywfaint yn fwy o’r siaradwyr Cymraeg yn ddwyieithog nag a oedd yn wir ar gyfartaledd ar draws y dosbarth cofrestru. Adlewyrchu’r sefyllfa ymhen rhyw ddegawd ar ôl cyfnod anterth cynhyrchu baledi yn Nhroed-y-rhiw y mae ffigurau Cyfrifiad 1891, ond nid tyfiant dros nos sy’n gyfrifol am y traean o siaradwyr uniaith Saesneg a oedd yn yr ardal erbyn hynny. Eto, er bod nifer sylweddol o siaradwyr uniaith Saesneg yn Nhroed-y-rhiw a’r ardaloedd cyfagos yng nghyfnod cyhoeddi baledi gwasg Troed-y-rhiw, dim ond chwech o’r taflenni baledi a oroesodd sy’n cynnwys cerddi Saesneg. Y mae pump o’r taflenni hynny yn cynnwys cerddi Cymraeg yn ogystal, ac fel y gwelwyd eisoes, y mae’r gerdd sydd ar y chweched daflen, sef ‘Song of praise to the subscribers of relief for South Wales’, yn fanwl gywir yn gerdd facaronig yn hytrach nag yn un Saesneg, am ei bod yn cynnwys peth Cymraeg tua’i diwedd. Prin iawn felly yw’r ymdrech ar ran y wasg hon i wasanaethu’r elfen uniaith Saesneg sylweddol a oedd yn y boblogaeth o’i chwmpas trwy gyfrwng taflenni baledi. Yn wrthwyneb i hynny, y mae’n drawiadol nodi mai un llythyr Cymraeg ac un hysbyseb ddwyieithog yw cyfanswm y Gymraeg yn rhifynnau wythnos olaf Awst ac wythnos gyntaf Medi 1881 o’r Taff Vale Gazette, sef y ddau rifyn sydd wedi goroesi o’r papur newydd a gyhoeddwyd gan yr un wasg yng nghyfnod anterth argraffu ei baledi Cymraeg. O gofio natur wladgarol nifer o’r eitemau ar daflenni baledi’r wasg, y mae’n demtasiwn priodoli’r prinder baledi Saesneg i frwdfrydedd ieithgarol yr argraffwyr, a William Jones yn fwyaf penodol efallai. Dichon fod hynny’n rhannol wir. Ond y mae’n adlewyrchu’n fwy y ffaith fod y daflen faledol yn prysur chwythu ei phlwc fel ffenomen ddiwylliannol ar draws Cymru wrth i fathau newydd o adloniant ei disodli, ac nad oedd ganddi’r egni i neidio’r ffin ieithyddol a dod yn rhan fywiol o’r diwylliant poblogaidd newydd, Saesneg a oedd ar gynnydd cyson ym maes glo’r De yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.[43]

Bu farw William Jones, yr argraffydd a’r fferyllydd, yn 40 mlwydd oed yn Ebrill 1883. Yr oedd ei blant yn rhy ifanc i’w ddilyn yn y busnes. Yr oedd ei frawd iau, John Daniel Jones, wedi aros gyda’u tad yn siop wreiddiol y teulu, ac wedi cymryd at yr awenau yno pan ymddeolodd ei dad tua diwedd yr 1870au. Rhan o arbenigedd busnes J. D. Jones oedd cymysgu a gwerthu te. Câi llawer o’r te hwnnw ei fewnforio o Ganton yn Tsiena, a dyna’r rheswm, mae’n debyg, paham y dewiswyd ‘Canton Shop’ neu ‘Canton House’ yn enw ar y busnes. Gyda marwolaeth ei frawd, William, cymerodd J. D. Jones at rai agweddau ar fusnes y teulu a oedd wedi bod dan ofal ei frawd hŷn, megis gwerthu nwyddau haearn, llyfrau a phapurau, a gollwng agweddau eraill megis gwaith y fferyllfa a gwerthu dodrefn. Yn wir, ymhen amser yr oedd y siop i ollwng y ‘grocery’ hefyd, a chanolbwyntio ar fod yn ‘ironmongers’ a ‘newsagents’.

Un o’r agweddau a ollyngwyd gan J. D. Jones i bob pwrpas oedd y gwaith argraffu. Er hynny, y mae’n amlwg iddo barhau i argraffu ar raddfa fach wedi dyddiau ei frawd. Gwelais un faled Saesneg, ‘A Song to the Stone-Breakers’, gan awdur lleol a’r argraffnod ‘J. D. Jones, Stationer, Troedyrhiw’ arno — cerdd y gellir ei dyddio i gyfnod o anghydfod diwydiannol mawr yn 1898. Yr unig eitemau eraill a welais ag enw J. D. Jones wrthynt fel argraffydd — ‘J. D. Jones a’i Fab’ erbyn hynny, i fod yn fanwl gywir — yw rhestr testunau ‘eisteddfod fawreddog’ a gynhaliwyd yn 1910 dan nawdd Nasareth (capel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhroed-y-rhiw), ac adroddiad blynyddol yr un capel yn 1916. Ei frawd, William, mae’n amlwg, oedd arian byw y gwaith cyhoeddi ac argraffu, a llusgo ymlaen fu hanes yr argraffwasg wedi ei ddyddiau ef, gan ddod i ben yn derfynol, hyd y gwelaf, tua diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yr oedd J. D. Jones ‘Canton’ yn un o ddynion busnes amlycaf Troed-y-rhiw. Ffurfiodd nifer o gymdeithasau adeiladu lleol, yr oedd yn un o brif sylfaenwyr siambr fasnach y pentref yn 1903 ac yn un o’r cwmni a gododd y ‘Picture Palace’, sinema’r pentref — a rhwng ei fusnes gwerthu papurau a’i ymwneud â’r sinema, gellir dweud i J. D. Jones a’i deulu barhau â’r tair elfen sylfaenol a oedd ynghlwm wrth argraffu baledi: gwneud elw, lledaenu newyddion a diddanu’r cyhoedd. Fe’i dilynwyd yn y busnes gan ei fab, G. Brynmôr Jones, ac yna gan ei ŵyr, J. Kenneth Jones. Cofiaf y ddau yn dda. Hen ŵr bonheddig oedd Mr Bryn Jones ‘Canton’, a’i fab hefyd yn ddyn bonheddig, trwsiadus a charedig. Bu’r ddau yn eu tro yn flaenllaw iawn ym mywyd masnachol y pentref, yn ustusiaid heddwch ac yn aelodau amlwg yn eglwys Anglicanaidd y pentref (er mai Annibynwyr Cymraeg oedd y teulu hyd at tua dechrau’r ugeinfed ganrif). Bu marwolaeth Mr Ken Jones ‘Canton’, yn ŵr cymharol ifanc, yn ddiwedd ar y busnes i bob pwrpas, er i’w fab, Graham (a oedd yn gyfoeswr hŷn â mi yn Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr) barhau i werthu papurau Sul am sawl blwyddyn ar ôl i’r teulu werthu gweddill y busnes. Y mae pob tystiolaeth sydd gennyf yn awgrymu fod Mr Bryn Jones yn medru’r Gymraeg i ryw raddau, ac fe briododd ferch o dref Aberteifi; ond ni chofiaf glywed y naill na’r llall ohonynt yn siarad Cymraeg. Yn wir, protestiodd Mr Bryn Jones yn gyhoeddus yn 1946 ar ran Siambrau Masnach Bwrdeistref Merthyr yn erbyn argymhelliad y Cyngor lleol i fabwysiadu’r enw ‘Ynysowen’ ar gyfer cyfnewidfa ffôn ardal Troed-y-rhiw, am y byddai’r enw Cymraeg hwnnw yn rhy anodd i’r di-Gymraeg ei ynganu.[44] Ac yn sicr, o fewn fy nghof a’m profiad i, rhywbeth a berthynai i orffennol y teulu oedd yr argraffu, y baledi Cymraeg, a phopeth arall Cymraeg.

Bardd Pentref

Soniwyd uchod am y faled Saesneg, ‘A Song to the Stone-Breakers’, a argraffodd J. D. Jones yn 1898. Y dôn a nodwyd ar y daflen ar gyfer ei thri phennill a chytgan oedd ‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’, sydd yn bur eironig gan mai dyma’r unig enghraifft sydd ar gael o daflen faledi gwbl Saesneg a argraffwyd gan deulu’r Jonesiaid! Lluniwyd y gân gan Thomas Richards, un o drigolion Troed-y-rhiw. Achos ei llunio oedd yr anghydfod diwydiannol mawr yn 1898 pan glowyd glowyr yr ardal allan am chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyflogwyd llawer o’r glowyr mewn iard gerrig yn Nhroed-y-rhiw, a derbyn swllt y dydd am eu llafur. Soniodd J. Keir Hardie — a ddaeth yn aelod seneddol Llafur cyntaf Prydain pan etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Ferthyr yn 1900 — am yr iard hon mewn ysgrif yn y Labour Leader yn niwedd Mehefin 1898: ‘The Taff runs through the valley which is enclosed by high mountains all round. In this grand amphitheatre is Troedyrhiw, and behind the village is the stoneyard. Today, 1,045 men are at work. They are paid 1s. per day and 2d for each child.’[45] Yn y papur lleol, The Merthyr Express, yn rhifyn 18 Mehefin 1898, ceir adroddiad am gyfarfod protest mawr a drefnwyd yn bennaf gan aelodau lleol y Blaid Lafur Annibynnol yn iard gerrig Troed-y-rhiw y Sadwrn blaenorol. Yn y cyfarfod hwnnw, dywedir fod Thomas Richards wedi canu ei gân, ‘A Song to the Stone-Breakers’, a dichon mai dyna achlysur llunio ac argraffu’r gerdd.

Yr oedd anghydfod 1898 yn drobwynt pwysig yn hanes diwydiannol yr ardal. Dyma’r anghydfod, er enghraifft, a arweiniodd at sefydlu Ffederasiwn Glowyr De Cymru, y ‘Ffed’, yn Hydref 1898. Y mae natur chwerw yr anghydfod hwn yn arwydd hefyd o’r newidiadau cymdeithasol pellgyrhaeddol a oedd ar droed yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru yn yr 1890au a’r 1900au cynnar, wrth i’r hen radicaliaeth Ryddfrydol, Anghydffurfiol ildio yn gynyddol o flaen undebaeth fwy milwriaethus a mwy sosialaidd-ryngwladol ei hosgo, a hefyd wrth i nifer y mewnfudwyr o Loegr gynyddu’n arwyddocaol law yn llaw ag anallu cynyddol y cymunedau glofaol i’w cymathu a’u Cymreigio.

Lleihau cyson fu hanes y Gymraeg yn Nhroed-y-rhiw o’r 1890au ymlaen, o ran nifer ei siaradwyr ac o ran y defnydd cymdeithasol ohoni. Cyfyngwyd yr iaith fwyfwy o ran ei defnydd i’r capel ac i weithgareddau diwylliannol traddodiadol megis yr eisteddfod a’r côr. Fe’i cyfyngwyd yn gynyddol hefyd i agweddau ‘swyddogol’ ar y gweithgareddau hynny, gyda llawer o’r cymdeithasu anffurfiol gan y bobl a ddeuai ynghyd yn digwydd trwy gyfrwng y Saesneg.

Mewn un ystyr gellir gweld y tair eitem a ddaeth o argraffwasg J. D. Jones ar ddiwedd yr 1890au a dechrau’r ganrif newydd yn symbol o’r polareiddio cynyddol a oedd i nodweddu’r ardal yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif: cerdd yr anghydfod diwydiannol yn Saesneg a’r rhaglen eisteddfodol ac adroddiad y capel yn Gymraeg yn bennaf. A hyd yn oed yn achos y rhaglen eisteddfodol, ceir rhaniad rhwng y cystadlaethau ‘traddodiadol’ (canu, adrodd, ysgrifennu), sydd bron i gyd yn Gymraeg, a’r rhai ym myd celf, diwydiant a gwaith ambiwlans, sydd bron oll â’u disgrifiadau yn Saesneg. Ys dywedodd Sarnicol, ‘Nid hoff ganddi [y Gymraeg] edrych ymlaen’! Rhaid peidio â gorbwysleisio’r rhaniadau, fodd bynnag. Er enghraifft, yn ôl pob tebyg yr un oedd y Thomas Richards a luniodd y gân Saesneg adeg anghydfod 1898 â’r Thomas Richards a oedd yn aelod ffyddlon yng nghapel Annibynwyr Cymraeg y pentref ac y casglwyd rhai caneuon gwerin Cymraeg oddi wrtho ar gyfer Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.[46] Ond carfanu oedd y duedd, a’r garfan weithredol Gymraeg yn lleihau yn gyson o ran maint a dylanwad.

Gellid tybio mai’r genhedlaeth o siaradwyr Cymraeg a aned oddeutu’r flwyddyn 1890 yw’r un allweddol o safbwynt dirywiad y Gymraeg yn y pentref, oherwydd caf yr argraff mai dyna’r genhedlaeth gyntaf, ar raddfa eang, i beidio â defnyddio’r Gymraeg fel iaith cymdeithasu â’u cyfoedion a’u plant, er eu bod yn parhau i ddefnyddio rhyw gymaint o Gymraeg mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol a chyhoeddus, a chyda’r genhedlaeth hŷn.[47] Ceir tystiolaeth i hynny yn fy nheulu i fy hun. Y mae ymfudo fy nheulu i’r pentref yn syrthio i batrwm eithaf arferol. Daeth teulu mam fy nhad i’r pentref yng nghyfnod cynnar datblygu’r pentref glofaol, a hynny o ardaloedd cyfagos ym Morgannwg, o Lanfabon a Threlales. Yna, yn ddiweddarach, daeth tad fy nhad o ardal bellach i ffwrdd yng Nghymru, o Dregaron yn ei achos ef. Ac yna adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth teulu fy mam yno o Loegr, o gylch Bryste. Cymry Cymraeg oedd brodyr a chwiorydd mam fy nhad, a chawsant eu codi mewn capel Cymraeg, ond yn Saesneg y siaradent â’i gilydd ac â’u cyfoedion i raddau helaeth, yn enwedig y bechgyn. Er iddo gael ei eni yn Nhregaron, cafodd fy nhad-cu ei fagu ym Merthyr ar ôl symud yno’n blentyn ifanc, ac y mae pob tystiolaeth yn awgrymu mai fy mam-gu oedd y mwyaf brwd o’r ddau dros godi eu plant i siarad Cymraeg; eto, anodd gennyf gredu y byddai fy mam-gu wedi llwyddo i godi fy nhad a’i frodyr yn siaradwyr Cymraeg iaith-gyntaf yn yr hinsawdd oedd ohoni, oni bai iddi briodi rhywun a chanddo gysylltiadau agos ag ardal Gymraeg ei hiaith. Ond felly y bu; ac y mae fy nhad, a aned yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, yn dal i gofio’r gwawd a dderbyniai gan ei gyfoedion oherwydd ei Saesneg carbwl ac am ei fod yn siarad Cymraeg, er bod llawer ohonynt hwythau yn blant i Gymry Cymraeg. [Bu farw fy nhad, Thomas Trefor James, yn Rhagfyr 2001, ychydig fisoedd ar ôl i’r erthygl hon ymddangos yn y gyfrol Cyfres y Cymoedd: Merthyr a Thaf.]

Yn achos rhai, adlewyrchu gelyniaeth tuag at yr iaith a’i diwylliant oedd y penderfyniad i beidio â throsglwyddo’r iaith i’w plant. Ceir enghraifft o hynny yn achos un o ewythredd fy nhad, un o arloeswyr y mudiad Llafur yn y pentref. Rwsia oedd ei eilun, a throdd ei gefn yn gwbl fwriadol ar y Gymraeg ac ar gapel ei fagwraeth, gan fagu ei ferch yn uniaith Saesneg.[48] Ond i lawer yn y genhedlaeth honno, wrth gwrs, nid gelyniaeth filwriaethus yn erbyn y Gymraeg oedd y rheswm dros beidio â’i harfer, yn gymaint â mynd gyda’r llif. Dichon y gellid dweud hynny am wraig yr ewythr yr wyf newydd gyfeirio ato, oherwydd yr oedd ganddi agwedd fwy cadarnhaol o dipyn at y Gymraeg, gan aros yn aelod ffyddlon o gapel Annibynnol Cymraeg y pentref ar hyd ei hoes hir. Ymhellach, credaf y gellir dweud fod y Gymraeg wedi dioddef yn waeth, ar ryw olwg, dan ddwylo ei charedigion yn y genhedlaeth honno na chan y rhai llugoer neu elyniaethus, oherwydd yr elfen sgitsoffrenaidd a’u nodweddai mor aml. Soniais mewn man arall am un o’r genhedlaeth honno yn yr ardal a oedd yn Gymro pybyr iawn ei hun, ac eto wedi methu trosglwyddo’r iaith i’w ferch, er mawr ofid iddi.[49] Y mae’r llythyr isod gan ddyn o’r enw David Griffiths at chwiorydd di-briod mam fy nhad yn adrodd amrywiad ar yr un stori.

Diacon yng Ngharmel, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg ym mhentref Troed-y-rhiw, oedd David Griffiths, fel ei dad o’i flaen. Bu farw ym Mai 1936 yn 63 oed. Er na ellir ei osod yn rheng flaenaf ein prydyddion, yn lleol fe’i hystyrid yn fardd o gryn allu. Marwnadau oedd rhai o’i gynhyrchion amlycaf, ac ar un adeg gellid gweld nifer o’r rheini yn addurno walydd cartrefi’r ardal, wedi’u hargraffu ar ffurf poster ynghyd â llun o’r ymadawedig.[50] Y mae copïau o dri phoster o’r fath yn fy meddiant. Y mae’r tri yn coffáu aelodau o gapel David Griffiths, sef dau o’r diaconiaid, Reuben Griffiths (m. 1918) a William Davies (m. 1922), a Mrs Margaret Evans, Dan-y-bryn Villa (m. 1923). Yr un yw patrwm cyffredinol y tair marwnad: canmol rhinweddau’r cymeriadau, yn enwedig eu ffydd a’u cyfraniad i fywyd y capel, gan orffen trwy gydymdeimlo â’u teuluoedd. Dyma ddau bennill o ddiwedd marwnad Reuben Griffiths, a fu farw’n 34 oed, sy’n adlewyrchiad teg o ansawdd y tair:

Er mai blod’yn g’add fyr ddyddiau

Ar y ddaear hon i fyw,

Perarogli wna’i rinweddau

Amser hir yn Nhroedyrhiw.

Nid rhifedi y blynyddoedd

Sydd o bwys i ddyn gael byw;

Maint a sylwedd ei weithredoedd

Dry y glorian gyda Duw...

Priod tyner, — gwr darbodus

Ydoedd i’w gydmares gu,

Yn ei [sic] cartref bach cysurus

Dau mwy dedwydd ’rioed ni fu.

Pwy a blymiodd hyd y gwaelod

Ddwysder enaid ar y pryd?

Pedair blynedd i’r diwrnod

Gorfu chwalu’r nyth fach glyd...

Nid campweithiau barddol sydd gennym yma, wrth reswm, ond yn hytrach rhywbeth sydd ar un wedd yr un mor bwysig, sef cynnyrch nodweddiadol bardd gwlad — neu yn well, efallai, o ran natur y gymuned dan sylw, ‘bardd pentref’ neu ‘fardd capel’.

Y mae’n amlwg fod David Griffiths yn hoff o lythyru ar gân, oherwydd yn ogystal â’r llythyr at chwiorydd fy mam-gu a atgynhyrchir isod, y mae llythyr arall o’i eiddo yn fy meddiant, ar ffurf cyfres o benillion Cymraeg, a anfonwyd yn 1930 at gyfaill o Droed-y-rhiw a oedd ar ei wyliau yn Llansteffan. Dyma’r pennill agoriadol:

’Rwyn anfon bwt o lythyr

A phennill gyda llaw,

I lonni’m cyfaill hawddgar

Aeth i Llanstephan draw.

Yn achos y llythyr isod, rhaid pwysleisio nid yn unig fod David Griffiths yn frwd o blaid y Gymraeg, ond bod modrybedd fy nhad hwythau yn selog dros yr iaith. Er y tueddent i siarad Saesneg â’i gilydd ac â’u cyfoedion, yr oeddynt yn frwd dros i’w chwaer godi fy nhad a’i frodyr i siarad Cymraeg, ac yn Gymraeg yn bennaf y byddent yn siarad â’m tad. Dyma’r llythyr yn ei holl eironi ysblennydd:

8, Hill Villa

Troedyrhiw. Aug. 20/25

Annwyl Ffrindiau

Mi gefais i eich Post-Card,

Y bore heddyw daeth;

Da genyf i chwi gyrhaedd

Yn ddiogel pen eich taith.

Cyn mynd i’m gwely neithiwr,

Bu bron i’m rhoddi llam,

Pan welais yn y ganwyll

Eich Post Card yn y fflam.

Mi garwn i chwi weled

Pan gefais ef i’m llaw,

’Roedd llonder ar fy ngwyneb

Fel heulwen wedi’r gwlaw.

Ac wrth i mi ei ddarllen

O credwch ferched bach, —

Fy mod yn teimlo’n llawen

Eich bod yn weddol iach.

Yes, I am glad to learn that you are well, and enjoying yourselves grand. Please be moderate though with Llanwrtyd well water, for — (not like this Doctor, afraid) it does operate on it’s patients without any fear, Mr Well Water is a grand operator. How nice it is to enjoy a Summer holiday from home, to see strange features, change of air, and Scenery Etc., how it does brighten & brace a person for the coming Winter, and to be amongst Welsh spoken persons to me is most delightful; really girls, it is a pity that the dear old Celtic language is forsaken. I do love and cherish the old language spoken and taught me by my parents on the old hearth, who are now gone to a better land & Realm. Ydwyf,

’Rwyn caru iaith fy nhadau,

Hen iaith odidog yw,

Er ceisio ei difodi

Mae’n dal o hyd yn fyw;

Pob ystryw fu gael Cymru

I wadu yr hen aeg,

Ond methwyd er gormesu

A lladd yr hen gymraeg.

Cymraeg oedd iaith yr aelwyd

Lle’n magwyd flwyddi fu;

A mam fel angel gwynfyd

Bu’n dysgu hi i mi;

Ni chafodd iaith y Saeson

’Rioed yno godi’i phen;

Fy rhiaint ro’ent eu bywyd

Dros iaith hen ‘Walia Wen’.

Ah!

Mae ysbrydoedd ein Cyndadau

Heddyw’n sibrwd yn ein clyw, —

Ferched Cymru, — Meibion Gwalia,

Cedwch yr hen iaith yn fyw.

D.G.

Well, it is raining torrents this moment, and thundering too, hope it will continue fine with you there at Llanwrtyd anyway. Kindly remember me to Miss E. M. Morgan your Cousin, may the change do her heaps of good (Cymraeg yr ydym ni ein dau yn siarad ar bob adeg) I am still sticking to my contract, Re the match boxes, I have a dozen or so again for her. I have no particular news to acquaint you, nothing special has happened since your departure — no Suicides.

I now conclude wishing you a right jolly time, and come home fat.

Ever yours Sincere friend

D. Griffiths

Dyna enghraifft odidog o gymhlethdod ieithyddol hynod cymoedd de-ddwyrain Cymru yn ei holl ogoniant!

Ni fynnwn derfynu’r sylwadau hyn ynghylch sefyllfa ieithyddol pentref Troed-y-rhiw yn yr ugeinfed ganrif ar nodyn hollol ddigalon, ychwaith. Y mae’n rhy gynnar i ganu marwnad yr iaith yn y pentref eto. Er mor wan yw sefyllfa’r Gymraeg yno, calonogol fu gweld ffrwd fach gyson o blant y pentref yn cael eu hanfon i’r ysgol gynradd Gymraeg yn nhref Merthyr oddi ar ei hagor yn 1972, a chalonogol hefyd fu gweld ffrwd fechan ond cyson o fyfyrwyr ail-iaith o’r ysgol uwchradd leol yn graddio yn y Gymraeg dros yr un cyfnod. Ar ben hynny, er mai ymagweddu cadarnhaol goddefol yn hytrach na gweithredol ydyw at ei gilydd, rhaid pwysleisio’r agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith sy’n bodoli ymhlith trwch poblogaeth ddi-Gymraeg y pentref. Ei hiaith hwy ydyw o hyd, er i’w teuluoedd beidio â’i defnyddio efallai ers tair a phedair cenhedlaeth.

Yr ymagweddu cadarnhaol hwn oedd yr hyn a’m trawodd gryfaf pan gynheliais arolwg fechan o agweddau pentrefwyr Troed-y-rhiw tuag at y Gymraeg yn rhan o un o gyrsiau’r diweddar Athro Jac L. Williams yn 1975.[51] Er enghraifft, yr oedd 90% o’r rhai a ymatebodd yn credu fod yr iaith yn werth ei chadw, er bod tua 60% ohonynt yn dweud nad oeddynt yn deall dim Cymraeg o gwbl. Cafwyd gan un y sylw: ‘I think Welsh is a dying language and children would be better off being taught French or German’; ond y mae’r canlynol yn nes at naws gyffredinol yr ymatebion:

As a Welshman, I feel ashamed of not being able to speak our own language. I don’t feel it necessary to be able to speak Welsh, to be a Welshman, as it is possible to make a good life for one’s self without. But we have our pride as a race, something which we must never lose, so for that reason alone we should be able to speak our own tongue.

Ac nid oes gennyf unrhyw le i gredu fod yr ymagweddu cadarnhaol hwnnw wedi cilio nemor o’r tir oddi ar 1975. Yn hynny o beth, efallai bod geiriau Saunders Lewis, ar adeg o lewyrch etholiadol cymharol ar Blaid Cymru yn ardal Merthyr Tudful yn nechrau’r 1970au — dan arweiniad Emrys Roberts, a oedd yntau yn byw yn Nhroed-y-rhiw yn y cyfnod hwnnw — yn air amserol i arweinwyr y mudiad cenedlaethol heddiw:

A oes modd troi’r Cymry heddiw yn genedlaetholwyr Cymreig? Hynny yw, a oes modd eu hargyhoeddi mai Cymru yw eu hunig wlad, eu cenedl, tir eu byw a’r gymuned neu’r gymdeithas y mae eu ffyddlondeb yn briodol iddi cyn unrhyw gymdeithas ddynol arall?... Y mae rhai yn gweld gobaith yn llwyddiannau Plaid Cymru mewn etholiadau seneddol megis eleni [1972] ym Merthyr Tudful. Yr wyf innau’n cytuno fod yn iawn i’r blaid gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau seneddol; ond ar amodau. Canys y mae hefyd wir berygl i hynny frysio lladd cenedlaetholdeb Cymreig. Lladd cenedlaetholdeb yw pregethu i etholwyr Cymru mai mantais economaidd iddynt hwy fyddai fod gan Gymru annibyniaeth neu mai felly’n unig y cânt hwy lywodraeth sosialaidd...Yn awr y prawf fe fydd yr etholwyr a bleidleisiodd drosom oblegid y ddadl honno yn cefnu arnom yn fradwrus fuan. Rhaid wrth rywbeth llawer dyfnach i ddeffro Cymreictod politicaidd ymarferol yn y Cymry. Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o’u gwahanrwydd, a defnyddio gair J. R. Jones, fel Cymry. Trwy ddeffro cyd-ymdeimlad, cyd-ymdeimlad sy’n cysgu yn nyfnder yr ymwybod, ond sy’n ei fradychu ei hun hyd yn oed yn acen eu Saesneg, yn unig y medrir.[52]

Yr oedd Saunders Lewis yn deall pobl gyffredin y Cymoedd yn well nag y mae llawer yn barod i’w gydnabod.

Nodiadau

[1] Hywel Teifi Edwards, Arwr Glew Erwau’r Glo (Llandysul: Gwasg Gomer, 1994), t. ix.

[2] Wrth ymfalchïo yn y cysylltiad â’r Athro Hywel Teifi Edwards, cystal brolio hefyd y cysylltiad rhwng y pentref a dau ddehonglwr diwylliannol arall o bwys ymhlith ein hysgolheigion cyfoes, sef yr Athro Gareth Williams, un o’n pennaf awdurdodau ar hanes chwaraeon ac awdur y gyfrol Valleys of Song: Music and Society in Wales 1840-1914 (1998), a’r Athro Anthony Jones, arloeswr astudio pensaernïaeth capeli Cymru. Un o driawd o frodyr cerddorol dawnus o Droed-y-rhiw oedd tad Gareth Williams; gw. yr erthygl ‘Tri Brawd o Droed-y-rhiw’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, 2:9 (1986-87), tt. 290-3; 2:10 (1987-88), t. 345, gan un arall o’r brodyr, Meirion Williams, a fu’n byw yn hen gartref y teulu yn Angus Street, Troed-y-rhiw, hyd ei farw ym Mai 1999. Er bod ei wreiddiau yn sir Fôn, magwyd Anthony Jones yn ystod ei arddegau yn Ash Road, Troed-y-rhiw, a cheir rhagflas o’i gyfrol Capeli Cymru (1984) yn y llyfr bach prin hwnnw, A Thesis and Survey of the Nonconformist Chapel Architecture in Merthyr Tydfil Glamorgan, a gyhoeddodd yn 1962.

[3] ‘Pont-yr-ynn’ yw enw rhan orllewinol y pentref yng nghofnodion ysgolion cylchynol Griffith Jones yn y ddeunawfed ganrif, ac ‘Ash Road’ yw enw un o’r heolydd sy’n arwain oddi wrth y bont; ond yn ôl chwedl boblogaidd yn yr ardal, Pont-rhun yw’r enw, yn coffáu’r ffaith i Rhun, mab Brychan Brycheiniog a brawd Tudful, gael ei ladd yno yn y bumed ganrif wrth gadw’r bont yn erbyn mintai o Bictiaid paganaidd a oedd yn ymosod arno ef a’i deulu. Lladdwyd Tudful yn yr un cyrch, yn ôl y chwedl. Gellir gweld fersiynau o’r chwedl gyfoes yn Charles Wilkins, The History of Merthyr Tydfil (Merthyr Tudful: Joseph Williams, 1908), tt. 17-19; The Story of Merthyr Tydfil (Merthyr Tudful: Merthyr Teachers’ Association (N.U.T.), 1932), pennod 5; Hugh Watkins, ‘The Story of Martyr Tudful’, Merthyr Historian, cyf. 3, gol. Joseph Gross (Merthyr Tudful: Merthyr Tydfil Historical and Civic Society, 1980), tt. 9-16; Raymond Jones, ‘Bachgen Bach o Aberfan, Erioed, Erioed’, Merthyr Historian, cyf. 10, gol. T. F. Holley (Merthyr Tudful: Merthyr Tydfil Historical Society, 1999), tt. 297, 299. Ceir cnewyllyn yr hanes yn yr Iolo Manuscripts, ail argraffiad (Lerpwl: Isaac Foulkes, 1888), tt. 119, 121, mewn dogfen y dywed Iolo Morganwg iddo ei chopïo o ‘Lyfr Hir’ Thomas Truman, yr hynafiaethydd o Bantylliwydd, Llansanwyr, yn 1783.

[4] Hugh Watkins, ‘A Valley Comprehensive’, Merthyr Historian, cyf. 5, gol. T. F. Holley (Merthyr Tudful: Merthyr Tydfil Historical Society, 1992), tt. 1-5. Yn hytrach na cheisio arbed hen ffermdy hanesyddol Troed-y-rhiw, fe’i chwalwyd wrth godi’r ysgol newydd, er gwaethaf pob protest — gweithred a oedd yn nodweddiadol o Gyngor lleol a ddymunai ddifa pob atgof bron o hanes yr ardal, yn ddiwydiannol ac yn ddiwylliannol, gan godi erchyllterau pensaernïol a blociau fflatiau dienaid a weddai’n llwyr i’w hymgais i fod yn ‘sosialwyr rhyngwladol’ o’r iawn ryw! Cymharer yr ymgais tua’r un cyfnod i chwalu ffwrneisiau Cyfarthfa a nodir yn fy ysgrif yng nghylchlythyr Cyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol, ‘Gwibdaith i Ferthyr a Phontypridd’, Cyfaill y Llyfrgell, Gaeaf 2000, t. 1.

[5] Gw. J. Tysul Jones (gol.), Ar Fanc Siôn Cwilt: Detholiad o Ysgrifau Sarnicol (Llandysul: Gwasg Gomer, 1972). Cofier fel y bu W. J. Gruffydd yntau, yn yr un cyfnod, yn ‘trigo’ yn nes i lawr y cwm yn Rhiwbina, ond yn ‘byw’ yn Llanddeiniolen — gw. W. J. Gruffydd, Hen Atgofion (Gwasg Aberystwyth, 1936), t. 11. Bu Sarnicol yn golygu’r ‘Golofn Gymraeg’ yn y Merthyr Express am flynyddoedd. Mewn ysgrif fywgraffyddol arno yn Y Cardi, 11 (Hydref 1973), y mae J. Tysul Jones yn enwi nifer o’r beirdd a’r llenorion Cymraeg a Chymreig a ffurfiai’n gylch llenyddol o gwmpas Sarnicol yn ardal Merthyr, pobl megis E. O. James (Athro Cymraeg Ysgol Mynwent y Crynwyr, brodor o ardal Llangrannog, a pherthynas i’r cyn-Gynghorydd Plaid Cymru o Gwm Rhondda, Glyn James); Huw Menai, y glöwr o fardd natur; a chymydog i Sarnicol yn Aber-fan, Lewis Davies (‘Lewis Glyn Cynon’).

[6] Mewn ysgrif yn dwyn y teitl ‘Hiraeth Cymro Ar [sic] Fro ei Febyd’ (toriad papur yng nghasgliad llawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol, LlGC 18845B, t. 56; er na nodir y ffynhonnell, y tebyg yw mai ysgrif yn y Welsh Gazette yn yr 1930au ydyw).

[7] Mewn ysgrif yn dwyn y teitl ‘Edrych Ymlaen: Beth a Ddigwydd i’r Gymraeg?’ (toriad papur yng nghasgliad llawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol, LlGC 18845B, tt. 38-9).

[8] Ceir copi o'r tri phennill ynghyd a'r gerddoriaeth (gan wraig Sarnicol) yng nghasgliad papurau J. Tysul Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol, rhif 32.

[9] Gw. Brian Ll. James, ‘The Evolution of a Radical: The Life and Career of William Erbery (1604-54)’, Journal of Welsh Ecclesiastical History, 3 (1986), tt. 32-3; Christine James, ‘Coed Glyn Cynon’, Cyfres y Cymoedd: Cwm Cynon, gol. Hywel Teifi Edwards (Llandysul: Gwasg Gomer, 1997), tt. 38-42.

[10] Dyfynnwyd yn G. J. Williams, Iolo Morganwg, cyf.1 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1956), t. 3.

[11] Ibid., t. 62.

[12] F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig, adargraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1975), tt. 185-6. Dywed Dewi Haran mewn llythyr yn Y Gwladgarwr yn 1869 fod bechgyn Morgannwg, yn lle treulio eu dyddiau yn canu ac yn gweithio ar y meysydd, yn cael eu gyrru ‘yn awr i grombil y ddaear...cyn gynted ag y delont i oed. Llawer un a fagwyd i ddilyn yr aradr a’r ych sydd wedi myned yn aberth i’r danchwa ofnadwy’ — gw. Huw Walters, ‘Rhagor am Ganu i’r Ychen: Tystiolaeth Dewi Haran’, Canu Gwerin, 22 (1999), t. 57.

[13] Phyllis Kinney a Meredydd Evans, ‘Canu’r Ychen’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1986, tt. 99-101. Enw arall ar y geilwaid oedd cethrei[n]wyr (neu gathrei[n]wyr) am eu bod yn annog yr ychen ymlaen trwy eu cethru (neu eu cathrain) â ffon hir â phigyn ar ei blaen (yr irad, neu’r swmbwl, neu’r gethren), yn ogystal â thrwy alw arnynt a chanu iddynt.

[14] F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (1975), t. 190.

[15] G. J. Williams, Iolo Morganwg, cyf.1 (1956), t. 63; T. C. Evans (‘Cadrawd’), ‘Ploughing with Oxen in Glamorgan’, Canu Gwerin, 14 (1991), tt. 31, 36.

[16] Yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, cyf. 2:2, tt. 135, 136, cyhoeddwyd dwy dôn ar gyfer caneuon ychen a gasglwyd yn ardal Merthyr Tudful gan ‘Mr. W. O. Jones, Merthyr (formerly of Blaenau Ffestiniog)’. Nodwyd un ohonynt ‘from the singing of Mr. Ebenezer Williams, Merthyr, who had learnt it from his mother over 60 years ago’. Am y llall, ‘[it was] said to be current a few years ago in parts of Breconshire’.

[17] Y mae’r sôn am ‘fendith’ yn adlais o’r hen arfer o fendithio’r ych ac o’r gred fod pwerau goruwchnaturiol yn gysylltiedig ag ef — gw. F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (1975), tt. 182-3; T. C. Evans (‘Cadrawd’), ‘Ploughing with Oxen in Glamorgan’, Canu Gwerin, 14 (1991), tt. 32-3.

[18] Ar nodweddion y Wenhwyseg, megis absenoldeb ‘h’ a ‘chw’, ‘a’ yn hytrach nag ‘au’ neu ‘e’ yn y sillaf olaf, ‘ws’ yn derfyniad trydydd person unigol gorffennol y ferf, caledu cytseiniaid, a’r ‘æ’ fain, gw. Beth Thomas a Peter Wynn Thomas, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...(Caerdydd: Gwasg Taf, 1989), Mary Wiliam, Blas ar Iaith Blaenau’r Cymoedd, Llyfrau Llafar Gwlad 18 (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1990), sawl erthygl yng nghyfrolau ‘Cyfres y Cymoedd’, a magnum opus Ceinwen H. Thomas, Tafodiaith Nantgarw (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993).

[19] Ond gw. F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (1975), pennod 7, am amrywiadau eraill.

[20] Gw. Helen Ramage, ‘Y Cefndir Cymdeithasol’, yn Y Ferch o Ddolwar Fach, gol. Dyfnallt Morgan (Gwasg Gwynedd, 1977), t. 11 (ond cywirer ‘Mwynwen’ yn ‘Mwynen’). Cf. yr enwau ar wartheg mewn chwedlau megis un Llyn y Fan Fach — gw. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (Llundain: Methuen & Co., 1930), tt. 63-4; Henry Lewis (gol.), Llanwynno Glanffrwd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1949), tt. 156-7 — a’r cyfeiriadau yn erthygl Mari Ellis, ‘Ysgafnhau’r Baich’, Taliesin, 109 (Haf 2000), t. 57, at enwau ceffylau a gwartheg rhai o’r ‘hen bersoniaid llengar’: Buccephulus oedd enw ceffyl Gwallter Mechain, er enghraifft, a Cleopatra oedd hoff gaseg ei ferch, Jane.

[21] F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (1975), tt. 188-9.

[22] Gw. Tegwyn Jones (gol.), Tribannau Morgannwg (Llandysul: Gwasg Gomer, 1976), rhif 580. Mae ‘Tri pheth...’ yn fformiwla agoriadol gyffredin ar gyfer tribannau, a cheir nifer yn eu plith sy’n dechrau â’r llinell ‘Tri pheth ni saif heb siglo...’ neu ‘Tri pheth ni saif yn llonydd...’ — gw. Allan James, ‘Tribannau Gwerin Morgannwg’, Canu Gwerin, 19 (1996), tt. 10, 13-14.

[23] Cf. Huw Walters, ‘Rhagor am Ganu i’r Ychen’, Canu Gwerin, 22 (1999), t. 55. Ar Gastell Pen-llin, rhwng y Bont-faen a Llan-gan, gw. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Bro Morgannwg, cyf. 2 (Abertawe: Christopher Davies, 1976), tt. 42-5. Codwyd yr adeilad y cyfeirir ato yn y gân yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Diwygiwyd y drydedd linell, sy’n darllen fel hyn gan Benjamin Thomas: ‘Mi welai’r Castell mawr Penllin’. Dichon y dylid fod wedi diwygio’r llinell olaf i ‘Mi wela’ i din Twm Dafydd’, gan mai dyna’r ffurf wreiddiol yn ddiau — cf. Allan James, ‘Tribannau Gwerin Morgannwg’, Canu Gwerin, 19 (1996), tt. 10-11, 14.

[24] Hwiangerdd adnabyddus y ceir amrywiadau eraill arni yn J. Ceiriog Hughes, ‘Hen Hwian-gerddi’, Oriau’r Haf (Wrecsam: Hughes a’i Fab, [1870]), t. 24, yn O. M. Edwards, Yr Hwiangerddi (Llanuwchllyn: Ab Owen, 1911), t. 32, ac yn John Gilbert Evans, Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen (Caerdydd: Gwasg y Dref Wen, 1981), tt. 40, 115-16. Nodyn ar y gair ‘ysodd’ yw’r unig nodyn ar eirfa’r cerddi sydd gan Benjamin Thomas: ‘Hysiodd. Y sŵn arferir gan rai’n gyrru cŵn i ymladd.’

[25] Yn ei gasgliad o lên gwerin Morgannwg a enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1885, y mae gan Gadrawd fersiwn mwy tafodieithol ar y pennill adnabyddus hwn:

Mi wela’s beth na welws pawb,

Y cwd a’r blawd yn cerad;

Brân yn toi ar ben y tŷ,

A’r pia’n dala’r arad’.

— gw. E. Vincent Evans (gol.), Eisteddfod Genedlaethol y Cymry: Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Aberdar, 1885 (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1887), t. 209. Ceir fersiynau eraill ar y gân swrealaidd hon yng nghasgliadau hwiangerddi Ceiriog (t. 22) ac O. M. Edwards (tt. 31, 32); gw. hefyd Meredydd Evans, ‘Rhigymau Plant’, Canu Gwerin, 19 (1996), t. 61.

[26] Agoriad fformiwlaig digon cyffredin ar gyfer cerddi i’r ychen yw llinell gyntaf y gân hon — gw. Tegwyn Jones (gol.), Tribannau Morgannwg (1976), rhifau 386-9. Du oedd lliw mwyafrif llethol yr ychen yn y Gorllewin a’r Gogledd, ond coch oedd lliw nodweddiadol ychen Morgannwg a siroedd y Gororau — gw. F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (1975), tt. 175-80, 186-8.

[27] Cf. Tegwyn Jones (gol.), Tribannau Morgannwg (1976), rhif 294, a chasgliad buddugol Cadrawd o lên gwerin Morgannwg, yn E. Vincent Evans (gol.), Eisteddfod Genedlaethol y Cymry: Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Aberdar, 1885 (1887), t. 193.

[28] Ceir fersiwn gwahanol yng nghasgliad Cadrawd o lên gwerin Morgannwg, lle yr anfonir yr aderyn yn llatai at Gwenno yn Ynysforgan — gw. E. Vincent Evans (gol.), Eisteddfod Genedlaethol y Cymry: Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Aberdar, 1885 (1887), t. 208.

[29] Y mae Mynydd Eglwysilan rhwng Pontypridd ac Ystradmynach.

[30] Bardd o Gefncoedycymer oedd Siôn Llewelyn (1690-1776). Ceir rhai tribannau eraill amdano yn Tegwyn Jones (gol.), Tribannau Morgannwg (1976), rhifau 122, 359 a 657, a chofnod arno yn y Bywgraffiadur.

[31] Marc a Meurig yw enwau’r ychen mewn fersiwn mwy cyfarwydd ar yr hwiangerdd, a buont yn pori ar y Waun Las ac nid y Waun Fawr. Y mae Marc, yn ôl pob tebyg, yn atgof o’r hen arfer ganoloesol o enwi ychen ar ôl yr apostolion. Mewn fersiynau eraill, Breweri a Braceri yw enwau’r ychen ac y maent yn pori gerllaw Lletybrongu. Gw. F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (1975), t. 188; John Gilbert Evans, Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen (1981), tt. 41, 116; E. Vincent Evans (gol.), Eisteddfod Genedlaethol y Cymry: Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Aberdar, 1885 (1887), t. 207; O. M. Edwards, Yr Hwiangerddi (1911), t. 104.

[32] Dywed Benjamin Thomas am hon: ‘Cân glywyd yn cael ei chanu gan Mr. Miles Williams, diweddar o fferm Pen y Graig, Quaker’s Yard.’

[33] Phyllis Kinney a Meredydd Evans, ‘Canu’r Ychen’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1986, t. 105.

[34] Cf. Huw Walters, ‘Rhagor am Ganu i’r Ychen’, Canu Gwerin, 22 (1999), tt. 57-8; Allan James, ‘Tribannau Gwerin Morgannwg’, Canu Gwerin, 19 (1996), tt. 6-21.

[35] ‘Gwaith i ŵr profiadol oedd galw yn ôl yr hen ddull,’ meddai Ffransis Payne. I gyfnod olaf yr aredig ag ychen, a’i weddau cymysg o geffylau ac ychen, y perthyn yr arfer o ddefnyddio bechgyn ifainc a merched ar gyfer y gwaith — gw. F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (1975), tt. 109, 128-9, 190, 195-6. Gan eu bod wedi eu casglu ar ôl diwedd eithaf cyfnod yr aredig ag ychen, nid yw’n syn fod cynifer o hwiangerddi yng nghasgliad Benjamin Thomas.

[36] T. C. Evans (‘Cadrawd’), ‘The Folklore of Glamorgan’, yn E. Vincent Evans (gol.), Eisteddfod Genedlaethol y Cymry: Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Aberdar, 1885 (1887), tt. 187-8; Huw Walters, ‘Rhagor am Ganu i’r Ychen’, Canu Gwerin, 22 (1999), t. 56.

[37] Erbyn hyn tafarn y Belle Vue yw’r adeilad, ar gornel Bridge Street a Yew Street.

[38] Cedwir copïau o’r ddau rifyn, sef rhifynnau wythnos olaf Awst ac wythnos gyntaf Medi 1881, yn Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful.

[39] Ceir adroddiad am y tân yn Y Tyst a’r Dydd, 3 Medi 1875, t. 7. (Yr wyf yn ddiolchgar i’r Dr Huw Walters am y cyfeiriad hwn.) Adeg y tân yr oedd William Jones oddi cartref yn Llundain.

[40] Cf. Tegwyn Jones, ‘Y Baledi a Damweiniau Glofaol’, Canu Gwerin, 21 (1998), tt. 7-8.

[41] Ben Bowen Thomas, Baledi Morgannwg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1951), tt. 10-11; Tegwyn Jones, ‘Y Baledi a Damweiniau Glofaol’, Canu Gwerin, 21 (1998), t. 14; Gwenfair Parry a Mari A. Williams (goln), Miliwn o Gymry Cymraeg! Yr Iaith Gymraeg a Chyfrifiad 1891 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), t. 465.

[42] Gwenfair Parry a Mari A. Williams (goln), Miliwn o Gymry Cymraeg! Yr Iaith Gymraeg a Chyfrifiad 1891 (1999), t. 445.

[43] Yr wyf yn trafod y cerddi Saesneg a gynhwyswyd ar daflenni baledi gwasg Troed-y-rhiw yn f’erthygl, ‘Watching the White Wheat and That Hole Below the Nose: The English Ballads of a Late-Nineteenth-Century Welsh Jobbing-Printer’, yn Sigrid Rieuwerts a Helga Stein (goln), Bridging the Cultural Divide: Our Common Ballad Heritage (Hildesheim, Yr Almaen: Georg Olms Verlag, 2000), tt. 177-94. Gw. hefyd f’erthygl, ‘Zulus and Stone-Breakers: A Case Study in Glamorgan Ballad-Sheet Printing’, yn Mary-Ann Constantine (gol.), Ballads in Wales: Baledi yng Nghymru (Llundain: FLS Books, 1999), tt. 41-8.

[44] Merthyr Express, 12 Ionawr 1946; fe’i hailgyhoeddwyd yn Geraint James (gol.), Plymouth-Ward Scrapbook: Llyfr Lloffion Gward Plymouth (Yr Awdur, [1986]), casgliad o doriadau o’r Merthyr Express, 1935-1985, yn ymwneud â phentrefi Troed-y-rhiw, Abercannaid a Phentre-bach.

[45] Dyfynnwyd yn Merthyr Teachers Centre Group, Merthyr Tydfil: A Valley Community (Y Bont-faen: D. Brown a’i Feibion, 1981), t. 329.

[46] Casglodd Phillip Thomas (1857-1938), Castell-nedd, yr arweinydd cymanfaoedd-canu adnabyddus a oedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, dair cân gan Thomas Richards, sef ‘Ar Ben Waun Tredegar’, ‘Ar Lan y Môr’, a fersiwn o ‘Lisa Dalysarn’. Anfonodd y manylion amdanynt at J. Lloyd Williams, a roddodd sylw i ddwy ohonynt yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, cyf. 2:4, tt. 224-6, a chyf. 3:3, t. 126. Dryswyd enw’r canwr y ddwy waith, gan ei alw’n ‘Thomas Roberts’ yn y naill nodyn a ‘Robert Richards’ yn y llall, ond y mae’n amlwg o gasgliadau llawysgrifau Phillip Thomas (LlGC 13774C, ff.74-76) a J. Lloyd Williams (rhif 57) yn y Llyfrgell Genedlaethol mai ‘Thomas Richards’ yw’r enw iawn yn y ddau achos. Mewn nodyn o dan ei gopi llawysgrif o ‘Ar Ben Waun Tredegar’, y gân na chafodd sylw yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, dywed Phillip Thomas: ‘He pronounced Tredegar as Tredecar.’

[47] Cf. Ceinwen H. Thomas, Tafodiaith Nantgarw, cyf. 1 (1993), t. 6: ‘Bu dylanwad yr ysgol yn Ffynnon Daf ar blant yr ardal yn drychinebus oblegid yn Nantgarw ychydig o gyd-ddisgyblion fy rhieni a drosglwyddodd y Gymraeg i’w plant eu hunain; yr oeddwn i a’m brawd ymhlith y dyrnaid lwcus a’r peth rhyfedd oedd fod pawb a fedrai Gymraeg yn barod i’w harddel gyda ni er amddifadu eu plant eu hunain ohoni. Mewn dwy genhedlaeth collwyd y Gymraeg bron yn llwyr o’r pentref.’

[48] Thomas Henry (‘Sen’) Morgan (1891-1971) oedd ei enw. Er iddo ef a’i frawd, Enoch (1892-1974), gael yr un fagwraeth a dilyn gyrfaoedd tebyg yn y pwll glo, ac er mai Saesneg oedd iaith bob-dydd y ddau, yr oedd eu hagweddau at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ac at grefydd yn dra gwahanol, fel y dengys y ffaith i Enoch Morgan fod yn drysorydd achos y Bedyddwyr Cymraeg yn Nhroed-y-rhiw am bron 40 mlynedd — gw. fy nheyrnged iddo yn Seren Cymru, 24 Mai 1974, t. 2, a ‘Papurau Enoch Morgan (Troed-y-rhiw)’ yn y Llyfrgell Genedlaethol.

[49] E. Wyn James, ‘Hwbwb yng Nghymoedd Taf a Rhondda’, Canu Gwerin, 17 (1994), t. 41.

[50] Yr oedd fframio marwnadau fel hyn yn arfer bur gyffredin ar draws Cymru. Cf., er enghraifft, Kate Roberts, Y Lôn Wen, ail argraffiad (Dinbych: Gwasg Gee, 1973), t. 86; Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad (Dinbych: Gwasg Gee, [1961]), t. 139; W. J. Gruffydd, ‘Y Farwnad Gymraeg’, Y Llenor, 18:1 (Gwanwyn 1939), tt. 34-7.

[51] Cyfeiriais yn fyr at rai o’r canlyniadau yn f’erthygl ‘Rhwng Taf a Thaf’, Barn, 298 (Tachwedd 1987), tt. 458-9.

[52] O’r ‘Rhagair’ i’r adargraffiad o’i ddarlith, Tynged yr Iaith, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1972.