Addysgu
Mae ein haddysgu wedi’i gynllunio i gyfuno’r dulliau traddodiadol a modern o ddysgu anatomeg wedi’u seilio gan egwyddorion addysgol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae anatomeg yn sail i gyrsiau meddygol, deintyddol a biowyddoniaeth.
Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau. O ddeall cysyniadau anatomegol craidd i adeiladu gwerthfawrogiad manwl o’r corff a’i gymhwysiad clinigol i werthfawrogiad beirniadol o ymchwil anatomegol.
“Roeddwn i’n dwlu astudio anatomeg yng Nghaerdydd. Roedd meddwl mawr o’r tiwtorialau cyn pob sesiwn ymarferol. Gwnaethant ein paratoi ar gyfer y sesiwn ymarferol, yn ogystal â chaniatáu i ni gyfuno ein dysgu hunangyfeiriedig a’i ddefnyddio mewn senarios clinigol.”
Cyflawnir addysgu a dysgu anatomeg trwy gyfranogiad gweithredol a dulliau cydweithredol, gan helpu myfyrwyr i ymgysylltu’n ddwfn â’r pwnc.
Fodd bynnag, rydym hefyd yn annog dysgu y tu allan i sesiynau addysgu ffurfiol ac yn cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein a thechnoleg newydd, gan gynnwys mynediad at sganiau 3D, adnoddau a gweithgareddau dysgu rhyngweithiol pwrpasol, a mynediad at feddalwedd fasnachol.
Wrth ddysgu anatomeg, mae myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol fel proffesiynoldeb, gwaith tîm, gwerthfawrogiad o amrywiadau anatomegol, moeseg a marwolaeth.
Er mwyn gwella a chyfleu hyn, bob blwyddyn, anogir ein myfyrwyr i fyfyrio ar y profiadau dysgu cyfoethog a gynigir gan eu rhoddwyr a mynegi eu diolchgarwch trwy gyfrwng creadigol fel gwaith celf neu farddoniaeth.
Mae’r rhain yn cael eu harddangos neu eu darllen yn ystod y digwyddiad coffa a diolchgarwch blynyddol gan helpu i arddangos diolch i’w hathrawon tawel.
Mae hyn yn rhoi’r rhoddwr yng nghanol dysgu y myfyrwyr ac yn sicrhau gwaith sy’n canolbwyntio ar y claf.
What is the Impact of Body Donation? gan Dr Hannah Shaw