Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth am deithio

Mae modd teithio i Gaerdydd yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn car neu hedfan yma.

Teithio i Gampws Cathays

Mae modd teithio ar y trên i Gaerdydd yn ddiffwdan o Lundain, meysydd awyr mwyaf y DU yn ogystal â threfi a dinasoedd ledled y wlad.

Mae gwasanaethau uniongyrchol ac aml o Lundain Paddington i Gaerdydd drwy gydol y dydd. Mae trenau rheolaidd ar y rhwydwaith rhanbarthol yn cysylltu Caerdydd hefyd â llawer o drefi a dinasoedd ledled y DU, gan gynnwys:

  • Bryste (50 munud)
  • Birmingham (tua 2 awr)
  • Southampton (2 awr 40 munud)
  • Manceinion (3 awr 30 munud)
  • Lerpwl (3 awr 45 munud)

Mae nifer o gwmnïau yn rhedeg trenau sy'n teithio'n uniongyrchol i orsaf drenau Caerdydd Canolog o feysydd awyr Heathrow a Gatwick.

Gorsaf drenau Caerdydd Canolog

Mae’n cymryd tua 20-30 munud i gerdded o orsaf drenau Caerdydd Canolog i Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd. Bydd cerdded yn eich galluogi i gael ymdeimlad o’r ddinas gan gynnwys y siopau, y bwytai a’r adloniant sydd ganddi i'w chynnig.

O ystyried bod yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn agos at Gaerdydd Canolog, efallai y bydd y rhai sy’n teithio ar y trên ac sydd â diddordeb mewn cyrsiau Newyddiaduraeth yn ystyried ymweld â’r Ysgol ar ôl cyrraedd Caerdydd neu wrth ddychwelyd i’r orsaf. Edrychwch ar dudalennau’r Ysgol yn y rhaglen i weld y gweithgareddau sydd wedi’u trefnu.

Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd

Os ydych yn bwriadu ymweld â'r Ysgolion Ffiseg a Pheirianneg, gallech ddefnyddio gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd sydd lai na 5 munud ar droed o Adeiladau’r Frenhines.

Gorsaf drenau Cathays

Fel arall, gall ymwelwyr newid yng Nghaerdydd Canolog neu Heol y Frenhines Caerdydd a dal trên oddi yno i orsaf drenau Cathays (gorsaf y Brifysgol).

Mae gorsaf Cathays yng nghanol Campws Parc Cathays, gyferbyn â’r Prif Adeilad, ac mae y drws nesaf i Undeb y Myfyrwyr. Mae dafliad carreg o holl adeiladau eraill y Brifysgol ym Mharc Cathays, gan gynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Mae llawer o wasanaethau bysiau lleol a chenedlaethol yn rhedeg yng Nghaerdydd - ac mae sawl un yn gollwng teithwyr o fewn tafliad carreg i’r Brifysgol.

Dim ond hyn a hyn o leoedd parcio sydd ar gael yn y Brifysgol, ac oherwydd hyn, maen nhw'n cael eu cadw ar gyfer ymwelwyr sydd ag anawsterau symudedd.

Mae parcio yng nghanol y ddinas yn ddrud. Er mwyn osgoi'r drafferth a chost parcio yng nghanol y ddinas, rydyn ni’n argymell eich bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sut bynnag, i ymwelwyr sydd eisiau teithio mewn car, rydyn ni’n argymell eich bod yn defnyddio'r Gwasanaeth Parcio a Theithio.

Parcio a Theithio

X59 Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd, Cyffordd 30 yr A48 (M), CF23 8HH

Mae bysiau X59 o'r Parcio a Theithio yn gadael tua bob 30 munud , gydag amser teithio i ganol y ddinas o tua 20 munud.

Er gwybodaeth, mae’n cymryd tua chwarter awr i gerdded i Brif Adeilad y Brifysgol o arhosfan bysiau Parcio a Theithio ar Dumfries Place.

Mae’r bysiau sy’n dychwelyd i safle Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd yn gadael bob 30 munud o Blas Dumfries yng nghanol y ddinas.

Ewch i wefan Parcio a Theithio’r Dwyrain i gael rhagor o wybodaeth , gan gynnwys y prisiau diweddaraf a'r oriau agor.

Parcio yng nghanol y ddinas

Mae ychydig o leoedd parcio 'talu ac arddangos' ar strydoedd Rhodfa’r Amgueddfa, Plas y Parc, Ffordd Senghennydd, ac yn ardal y ganolfan ddinesig. Cewch ragor o wybodaeth am leoedd i barcio yng Nghaerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd.

Hefyd, mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus wedi'u lleoli yn agos i'r Brifysgol, yng nghanol y ddinas (fel y nodwyd ar y map). Fodd bynnag, mae costau parcio’r rhain yn amrywio'n sylweddol.

Y maes awyr agosaf: Maes Awyr Caerdydd

Mae nifer o wasanaethau awyrennau rhyngwladol a rhyngranbarthol yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd, sydd tua 12 milltir o ganol y ddinas. Nid yw Bws Cyflym Maes Awyr Caerdydd yn rhedeg ar hyn o bryd oherwydd COVID, ond mae rhagor o gyngor ar gynllunio eich taith o’r man hwn ar gael ar wefan y maes awyr.

Mae gwasanaethau trafnidiaeth ychwanegol ar gael o nifer o feysydd awyr y DU, sy’n fodd o deithio ymlaen i Gaerdydd.