Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth am iechyd morwyr a’u gallu i gyrchu gofal iechyd

Mae iechyd morwyr a’u gallu i gyrchu gofal iechyd yn bwysig inni.

Mae’r Ganolfan Ryngwladol er Ymchwil ar Forwyr yn cynnal astudiaeth i gynorthwyo porthladdoedd, cyflogwyr a llywodraethau i wella gofal iechyd morwyr sy'n gweithio yn sectorau mordeithio a chargo.

Nod yr astudiaeth yw cael gwybod am iechyd morwyr sy'n gweithio a'u gallu i gyrchu gofal iechyd tra eu bod ar fwrdd y llong.

Cymerwch ran mewn holiadur neu gyfweliad sy’n ymwneud â gofal iechyd

Os ydych chi'n forwr sy'n cael ei gyflogi'n rheolaidd i weithio ar longau cargo a / neu fordeithio, mae angen eich help arnon ni. Cliciwch ar y dolenni isod i gwblhau holiadur. I gymryd rhan mewn cyfweliad, cofrestrwch eich diddordeb drwy anfon e-bost gan ddefnyddio'r botwm isod neu'r manylion cyswllt a ddarperir.

Enw Cyswllt

Picture of Helen Sampson

Yr Athro Helen Sampson

Director, Seafarers International Research Centre

Telephone
+44 29208 74475
Email
SampsonH@caerdydd.ac.uk

Ynglŷn â'r astudiaeth

Cyn ichi benderfynu a ydych chi eisiau cymryd rhan neu beidio, hoffen ni esbonio pam mae'r gwaith ymchwil yn cael ei gynnal a beth sydd ynghlwm wrthi.

Yr Athro Helen Sampson yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r ymchwil. Mae'r ymchwil yn cael ei hariannu gan The Swedish Mercantile Marine Foundation.

Adolygodd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd brosiect yr ymchwil, gan roi barn ffafriol arno.

Cawsoch chi eich gwahodd i gymryd rhan oherwydd eich bod naill ai'n forwr neu'n rheolwr AD sy'n gweithio yn y sector cargo neu fordeithio ar hyn o bryd.

Byddwch chi’n cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn ar sail gwbl wirfoddol. Os penderfynwch chi beidio â chymryd rhan yn yr astudiaeth, ni fydd gofyn esbonio pam. Mae gennych chi’r hawl i dynnu’ch cydsyniad i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil yn ei ôl ar unrhyw adeg, heb roi rheswm.

Byddwn ni’n gofyn ichi naill ai gymryd rhan mewn holiadur wyneb yn wyneb pan fydd rhywun yn cyfweld â chi neu bydd cyfweliad ar-lein pan fyddwn ni’n recordio eich llais (ar Zoom er enghraifft). Disgwylir i'r cyfweliad bara am lai na 60 munud. Fodd bynnag, bydd yr hyd yn cael ei bennu'n rhannol gan hyd eich cyfraniad.

Ni fydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael eu talu am gymryd rhan a dylen nhw ddeall mai rhodd fydd eu cyfweliad.

Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn arwain at argymhellion sy’n ymwneud â darparu gofal iechyd i forwyr sy'n gweithio yn y sectorau mordeithio a chargo. Gobeithiwn y bydd yr argymhellion yn arwain at welliannau wrth ddarparu gofal iechyd i forwyr.

Yn ystod y cyfweliad, byddwn ni’n gofyn am eich profiadau o weithio ar y môr. Mae'n bosibl, wrth gofio’r atgofion hyn, y byddwch chi’n cofio rhai pethau annymunol sy'n peri pryder. Ein gobaith yw y bydd siarad ag ymchwilwyr profiadol sydd hwythau wedi gweithio (yn ymchwilwyr) ar longau cargo, yn golygu y byddwch chi’n gallu rhannu gwybodaeth mewn cyd-destun sy’n gyfrinachol ac yn gefnogol gan leihau unrhyw risg o niwed emosiynol.

Bydd yr holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennych chi yn ystod y prosiect ymchwil yn cael ei chadw’n gyfrinachol a chaiff gwybodaeth bersonol a gyflwynir gennych chi ei rheoli yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Gweler ‘What will happen to my Personal Data?’ isod i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd eich cyfweliadau wedi'u recordio yn cael eu cadw am o leiaf bum mlynedd a chaiff y rhain eu gweld gan aelodau o'r tîm ymchwil, a phan fo angen, gan aelodau o dimau llywodraethu ac archwilio'r Brifysgol neu gan awdurdodau rheoleiddio. Os tynnwch eich cydsyniad yn ôl, bydd eich recordiad yn cael ei ddileu. Bydd gwybodaeth ddienw yn cael ei chadw am o leiaf bum mlynedd. Bydd ar gael i'r tîm ymchwil a bydd modd cyhoeddi rhannau ohoni ar ffurf dyfyniadau byr gair am air a dienw mewn cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil.

Ar ôl cwblhau'r astudiaeth, byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad ar-lein y bydd y cyhoedd yn gallu ei ddarllen. Efallai y byddwn ni hefyd yn trefnu ac yn llunio cyflwyniadau/adroddiadau/crynodebau ysgrifenedig ychwanegol i randdeiliaid y sector morwrol. Caiff y tîm ymchwil hefyd ddefnyddio’r ymchwil wrth ysgrifennu llyfrau ac erthyglau academaidd. Hwyrach y bydd y deunyddiau hyn yn cynnwys dyfyniadau gair am air gan y cyfweleion. Byddai'r rhain yn ddienw a chaiff yr holl wybodaeth sy’n datgelu pwy yw unigolion, cwmnïau a llongau yn cael eu dileu, er ei bod yn bosibl y bydd safle, rhyw, oedran a chenedligrwydd y cyfweleion yn cael eu defnyddio.

Bydd yr adroddiad ar-lein ar gael ar dudalennau gwe’r Ganolfan Ryngwladol er Ymchwil ar Forwyr tan ddiwedd 2025. Ein bwriad yw cyhoeddi canlyniadau’r prosiect hwn mewn cyfnodolion academaidd a chyflwyno’r canfyddiadau mewn cynadleddau. Ni fydd manylion unrhyw un sy’n cymryd rhan yn cael eu datgelu mewn unrhyw adroddiad, cyhoeddiad neu gyflwyniad. Gellir defnyddio dyfyniadau gair am air ochr yn ochr â gwybodaeth ddemograffig gyffredinol megis oedran, rhyw, safle a chenedligrwydd.

Os bydd problem, cysylltwch â'r Athro Helen Sampson (sampsonh@cf.ac.uk). Bydd yr Athro Sampson yn gwneud ei gorau glas i ddatrys unrhyw broblem. Fodd bynnag, os ydych chi o’r farn nad yw wedi cael sylw boddhaol, mae croeso ichi gysylltu â'r Athro EJ Renold (Renold@caerdydd.ac.uk ) sef Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Os cewch eich niweidio yn sgil cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn, nid oes unrhyw drefniadau iawndal arbennig. Os cewch eich niweidio oherwydd esgeulustod rhywun, mae'n bosibl y bydd gennych chi sail i gymryd camau cyfreithiol, ond hwyrach y bydd gofyn ichi dalu am gamau o’r fath.