Grŵp Ymchwil ym meysydd yr Amgylchedd, Ecoleg a Difodiant, Llywodraethu ac Economeg (EEEAGER)
Fforwm rhyngddisgyblaethol sy’n arwain y gad ym myd ymchwil academaidd ac ymarferwyr rhyngwladol mewn cyfrifyddu, llywodraethu ac economeg yw’r Grŵp Ymchwil ym meysydd yr Amgylchedd, Ecoleg a Difodiant, Llywodraethu ac Economeg (EEEAGER), ac fe gafodd ei gydnabod yn ffurfiol ym mis Hydref 2023.
Yn mynd i'r afael â heriau yr unfed ganrif ar hugain sy’n ymwneud â’r amgylchedd, ecoleg a difodiant sy'n deillio o'r argyfwng hinsawdd, cynhesu byd-eang, dirywiad ecolegol ac ecosystemau, cwymp bioamrywiaeth, difodiant torfol rhywogaethau, a phrinder dŵr.
Cefndir
Mae'r Grŵp yn gymuned gynhwysol sy'n integreiddio ymchwilwyr ym maes yr amgylchedd, ecoleg a difodiant o ddisgyblaethau busnes a llywodraethu eraill gan gynnwys rheoli arian, rheoli, marchnata, strategaeth, busnes rhyngwladol, logisteg, rheoli ym maes adnoddau dynol a gweithrediadau, yn ogystal â disgyblaethau academaidd eraill. Mae pob un o’n gweithgareddau ymchwil yn cyfrannu at strategaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae’r Grŵp EEEAGER yn gweithredu fel fforwm ar gyfer ymchwilwyr rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol o'r byd academaidd ac ymarfer ym meysydd cyfrifyddu, llywodraethu ac economeg, er mwyn iddynt gyfarfod, rhannu syniadau a chydweithio i fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol ac ecolegol hynny mae sefydliadau trwy ystod pob sector, a'u rhanddeiliaid, yn eu hwynebu heddiw.
Bydd ymchwil cydweithredol o'r fath yn arwain at ddatblygu fframweithiau, offer, mecanweithiau ac atebion damcaniaethol ac ymarferol y gellir eu defnyddio'n ymarferol er mwyn datrys yr heriau hyn, neu o leiaf gymryd camau tuag at atebion ar eu cyfer.
Bydd y Grŵp EEEAGER yn cyfrannu at amcan yr Ysgol o gynhyrchu ymchwil rhagorol yn rhyngwladol trwy fod yn fforwm i ymchwilwyr o'r un anian o bob cwr o'r byd gyfarfod, cyfnewid syniadau, cydweithio ar brosiectau ymchwil, ysgrifennu a chyhoeddi papurau a llyfrau gyda'i gilydd, gwneud cais am gyllid ymchwil a chynhyrchu allbynnau ymchwil o'r ansawdd uchaf ar gyfer cyfnodolion rhyngwladol mwyaf blaenllaw y byd.
Bydd gwaith y Grŵp EEEAGER hefyd yn arwain at effeithiau sylweddol ar sefydliadau, y gymdeithas a'r amgylchedd.
Hanes y Grŵp EEEAGER
Mae'r Grŵp EEEAGER yn rhoi cartref corfforol yn Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer y Rhwydwaith EAGR ar-lein sy’n bodoli eisoes (Ymchwil ym maes Cyfrifeg a Llywodraethu o ran Difodiant) a sefydlwyd ym mis Ionawr 2021 yn ystod y pandemig yn rhwydwaith ar-lein o ymchwilwyr rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol sy'n cynnal seminarau ar-lein rheolaidd o dan y teitl 'IFEAR4FUTURE'. Rydym yn parhau â'r gyfres hon o seminarau ar-lein gyda seminarau a hefyd trafodaethau gan unigolion, yn rheolaidd felly, drwy gydol y flwyddyn.
Dyma’r tîm
Y tîm rheoli
Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd
Cyd-gyfarwyddwyr
- Yr Athro Warren Maroun
- Dr Longxiang Zhao
- Dr Mira Lieberman
Aelodau o’r staff academaidd
Dr Roberta De Angelis
Darlithydd mewn Marchnata a Strategaeth
Yr Athro Carla Edgley
Athro Cyfrifeg a Chyllid, Dirprwy Bennaeth Adran (Dysgu ac Addysgu)
Yr Athro Ken Peattie
Head of Marketing and Strategy, Professor of Marketing and Strategy, Director of BRASS
Dr Maki Umemura
Darllenydd mewn Rheolaeth Ryngwladol a Hanes Busnes
Ysgolheigion cysylltiedig
- Dr Peter Beusch
- Yr Athro Silvio Bianchi
- Marita Blomkvist
- Dr Olga Cam
- Yr Athro Garry Carnegie
- Athro Cyswllt Dannielle Cerbone
- Yr Athro Antonio Corvino
- Yr Athro Cyswllt Frederica Doni
- Mr Dusan Ecim
- Dr Abeer Hassan
- Dr Kristina Jonall
- Yr Athro Cyswllt Scott Longing
- Dr Karen McBride
- Yr Athro Christopher Napier
- Yr Athro Carlos Noronha
- Yr Athro Cynorthwyol Giacomo Pigatto
- Yr Athro Gunnar Rimmel
- Dr Lee Roberts
- Yr Athro Cynorthwyol Zhang Ruopiao
- Dr Lana Sabelfeld
- Dr Mohamed Saeudy
- Yr Athro Hannu Schadewitz
- Sandy Sio Hou In
- Yr Athro Cyswllt Wayne Van Zijl
Myfyrwyr ôl-raddedig
- Martina Macpherson
Digwyddiadau
Cynhadledd Agoriadol EEEAGER
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd y Grŵp EEEAGER yn cynnal y gynhadledd agoriadol ar 11-12 Ebrill 2024 yn Ysgol Busnes Caerdydd.
O ystyried yr angen brys i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a difodiant rhywogaethau, mae'r gynhadledd hon yn cynnig fforwm i ymchwilwyr rannu eu hymchwil a cheisio atebion i'r heriau hyn. Ar ben hynny, bydd y gynhadledd hon o gymorth o ran datblygu cydweithrediadau ymchwil rhyngwladol, yn ogystal â datblygu a gweithredu fframweithiau newydd.
Siaradwyr y gynhadledd
Mae'n bleser gennym groesawu prif siaradwr y gynhadledd, sef Dr Paul Jepson o CreditNature Ltd.
Mae Dr Paul Jepson yn arweinydd meddyliau a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes polisi ac ymarfer cadwraeth natur. Ei genhadaeth yw defnyddio technoleg ac entrepreneuriaeth i wneud adfer natur yn rhywbeth y gellir ei fuddsoddi ynddo. Gyda hyn, mae hefyd yn ceisio adeiladu hyder yng ngallu dynoliaeth i lywio'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur sy'n gysylltiedig ag ef. Ac yntau’n Pennaeth Arloesedd a Gwyddoniaeth yn CreditNature Ltd, mae’n arwain ar ddatblygu dadansoddi ecosystemau a dylunio asedau natur digidol a ddyluniwyd i ennill buddsoddiad sy’n gadarnhaol tuag at natur.
Mae Paul yn gadwraethwr pragmatig gyda natur ysgolheigaidd ac sy’n angerddol dros arloesedd. Mae wedi mwynhau gyrfa amrywiol dros y 40 mlynedd diwethaf yn gweithio gyda’r llywodraeth, cymdeithas sifil, y byd academaidd, a sectorau preifat yn y DU, Indonesia a Brasil. Bu’n gyfarwyddwr MSc mewn Bioamrywiaeth, Cadwraeth a Rheoli ym Mhrifysgol Rhydychen, a bu’n dal Cymrodoriaethau Ymchwil Uwch yn Ysgol Fusnes Saïd ac Ysgol Menter a’r Amgylchedd Smith. Mae wedi cyhoeddi gwaith sylweddol ym maes llywodraethu cadwraeth ardal, mae'n gyd-sylfaenydd maes economeg-diwylliant cadwraeth, ac ef yw awdur 'Rewilding: the radical new science of ecological recovery' (Gwasg MIT).
Teitl cyflwyniad Dr Jepson yw ‘Cyfrifo ar gyfer Dyfodol Natur Gadarnhaol: Cynllunio, Rhagolygu, ac Ystyried Heriau Asedau Natur Digidol'.
Lansio llyfr
Yn ystod y gynhadledd bydd llyfr newydd yn cael ei lansio gan Burleigh Dodds Science Publishing o’r enw Protecting natural capital and biodiversity in the agri-food sector.
Edrychwn ymlaen at groesawu Martina Macpherson, Pennaeth Rheoli Cynnyrch ESG yn SIX, i siarad am ei phennod ar "Addressing Systemic Issues in the Agriculture, Food and Other Land Use (AFOLU) Value Chain and the Role Global Investors Can Play for More Secure Eco-System Services".
Bydd dau gopi o'r llyfr yn cael eu rhoi yn wobrau am y 'Papur Gorau'.
Mae'r ddwy wobr fel a ganlyn:
- Papur Gorau Cyfrifeg a Chyllid Amgylcheddol: Er cof am y diweddar Athro Rob Gray
- Papur Gorau Cyfrifeg a Chyllid ar gyfer Bioamrywiaeth: Er cof am y diweddar Athro Michael John Jones
EEEAGER IFear4Future Online Seminar
- Seminar hybrid (15 Mai 2024 rhwng 12:30-14:00): Martina Panero, Prifysgol Turin, yr Eidal ac ymchwilydd gwadd, Prifysgol Caerdydd, a Jill Atkins, Prifysgol Caerdydd ‘Ystyried Cyfrifeg Amgylcheddol, Ecolegol a Difodiant yng Nghyfrifon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: 1885 – 2024’
- Online Seminar (7 Mehefin 2024, 15:00-17:00): July Carolina Rojas Gomez, Universidad Nacional De Colombia 'Dylunio agro-ecolegol yn ddull cydfodoli rhwng bodau dynol a’r hyn nad yw’n ddynol: ystyriaethau ynghylch cof bioddiwylliannol'
Digwyddiadau blaenorol
- Seminar (2 Chwefror 2024): John Peirce, Ysgol Busnes Caerdydd 'A New Measure of Quality in the English and Welsh Water and Sewerage Industry'