Ewch i’r prif gynnwys

Labordy Gwydnwch a Nodweddu (DURALAB)

Y Labordy Gwydnwch a Nodweddu (DURALAB) yw'r cyfleuster cyntaf a'r unig gyfleuster yng Nghymru i efelychu hindreuliad cyflymach deunyddiau peirianyddol (concrit, sment, plastigau, metelau ac ati). Mae'n cynnwys ystod eang o siambrau amgylcheddol (rhewi/dadmer, cyrydu, carbonadu, lleithder) ac offer nodweddu fel mesurydd mandyllau drwy fewnwthio mercwri, microsgop digidol, calorimedr, offer profi athreiddedd clorid yn gyflym, rheomedr a fisgomedr. Mae'r labordy yn Adeiladau'r Frenhines, Gorllewin -1.02. Er mwyn defnyddio’r offer yn y labordy a chael gwybodaeth am brofi a chostau, cysylltwch â ni.

Offer

Enw Brand/model Manylion
Profi Dargludedd Thermol Thermtest MP-2. Offer i fesur hylifau, past, pridd a deunyddiau adeiladu gan ddefnyddio ffynhonnell llinell dros dro a gwifren boeth.
Calorimedr Calmetrix I-Cal 8000 HPC. Mae I-Cal 8000 HPC ("High Precision Calorimeter") yn Galorimedr Isothermol a chanddo 8 sianel. Fel pob model calorimedr isothermol Calmetrix I-Cal, mae gan I-Cal 8000 HPC faint sampl o hyd at 125ml, y gellir ei ddefnyddio at lawer o ddibenion, gan gynnwys ymchwil a datblygu a gwaith ymchwiliol ar nodweddion sment, morter a choncrit yn ogystal ag anghenion rheoli ansawdd dyddiol o safbwynt cynhyrchu sment a choncrit. Mae rheolaeth tymheredd tynn I-Cal 8000 HPC yn addas ar gyfer profion tymor byr a hirdymor hyd at 28 diwrnod. Mae I-Cal 8000 HPC yn cydymffurfio'n llawn ag ASTM C1679, ASTM C1702 ac ASTM C563.
Microsgop Digidol Leica DMS 1000. System microsgop digidol i archwilio, arsylwi a mesur yn ddigidol. O'r manylion lleiaf i'r trosolwg, mae'r opteg yn sicrhau chwyddo hyd at 300x. Mae'r camera microsgop HDMI sy’n rhan o’r cyfarpar yn rhoi delweddau byw â diffiniad uchel llawn o hyd at 30fps a chydraniad o 5Mpixel. Mae gan y microsgop fraich gymalog i fesur samplau swmpus.
Siambr cyrydu Q-LAB Q-Fog CRH600-HSC Mae profion cyrydu cylchol yn cynnig yr efelychiad labordy gorau posibl o gyrydiad atmosfferig naturiol. Gall siambrau cyrydiad cylchol Q-FOG o Q-Lab redeg chwistrell halen traddodiadol, prohesion, a’r rhan fwyaf o brofion modurol cylchol, ar gyfer ystod eang o ddeunyddiau. Mae Q-FOG siambr 600 L ar gael.
Microsgop Digidol Keyence VHX-7000 Microsgop digidol gyda chamera integredig 4K a chyda llwyfan modur XYZ a chonsôl integredig. Uchafswm delweddau: 12000x9000. Arsylwi â Lens Llaw. Cyfansoddiad dyfnder amser real. Pwytho delweddau 3D (Maint y Ddelwedd) 50,000 x 50,000 picsel.
Siambr hindreulio UV Q-LAB QUV SPRAY RP. Mae golau UV yn gyfrifol am bron pob ffoto-ddiraddiad o ddeunyddiau gwydn sydd yn yr awyr agored. Mae lampau fflwroleuol y profwr QUV yn efelychu'r tonnau UV byr critigol ac yn atgynhyrchu'r difrod ffisegol a achosir gan olau haul mewn modd realistig. Mae'r profwr QUV yn cynnwys hyd at 48 sbesimenau (75mm × 150mm) ac mae'n cydymffurfio ag ystod eang o fanylebau diwydiant rhyngwladol a chenedlaethol.
Rheomedr gyda chell tymheredd Anton-Paar MCR 92. Rheomedr cryno a reolir gan gyfrifiadur gyda system gyrru modur sy'n dwyn aer i fesur rheoleg hylifau a phastau ar dymheredd gwahanol. Ynghyd â chelloedd deunyddiau adeiladu pwrpasol ar gyfer morter a choncrit.
Mesurydd mandyllau drwy fewnwthio mercwri (MIP) Anton-Paar PoreMaster 60GT. MIP cryno a phen mainc sy'n gallu mesur gwasgedd isel a gwasgedd uchel o ddeunyddiau mandyllog ar yr un pryd. Mae ystod maint mandwll o leiaf 0.0036um hyd at o leiaf 1,000um.
Siambr wlyb/sych FDM C700BXPRO + SPS07. Siambr 700 L gryno ar gyfer gwlychu a sychu cylchol ystod eang o ddeunyddiau. Gellir gosod tymheredd o -20° C i +70° C.
Siambr garboneiddio FDM C700BXPRO + CO200. Siambr 700 L gryno i efelychu carboneiddio cyflym amlygiad o ystod eang o ddeunyddiau. Gellir gosod tymheredd o -20°C i+70°C, gydag uchafswm crynodiad CO2 o 20%.
Siambr rewi/dadmer FDM C1500BXPRO Siambr 1200 L gryno i rewi a dadmer cylchol ar ystod eang o ddeunyddiau. Gellir gosod tymheredd o -20°C i +70°C.
Ffwrnais ar gyfer calchynnu NABERTHERM - LE6/11 R7. Siambr safonol Ffwrnais Nabertherm LE6/11 R7, drws gollwng, parth 1, MaxT 1100° C, capasiti siambr o 6l.
iCOR Di-wifr Canfod Corydiad NDT Pecyn Giatec/iCOR2 Mae iCOR yn sefyll fel dyfais mesur cyrydiad diwifr a gynlluniwyd i asesu cyflwr strwythurau concrit cyfnerthedig. Mae'r ddyfais hon wedi'i chyfarparu i nodi potensial cyrydiad, cyfradd cyrydiad, a gwrthedd trydanol yn y fan a'r lle, gan ddarparu gwerthusiad cynhwysfawr o iechyd y strwythurau heb fod angen cysylltiadau gwifrau.
Dyfais NDT XCell ar gyfer Mapio Cyrydiad Hanner Cell (Half-Cell Corrosion Mapping) Giatec/XCell Mae XCell yn ddyfais brofi annistrywiol sydd wedi'i pheiriannu ar gyfer canfod a dadansoddi cyrydiad mewn strwythurau concrit cyfnerth yn gyflym, yn ddibynadwy ac yn fanwl gywir. Mae ganddo'r gallu i gynhyrchu mapiau cyfuchliniau cywir, gan gynnig ateb cynhwysfawr ar gyfer asesu a mynd i'r afael â materion cyfanrwydd strwythurol posibl heb achosi difrod.

Lleoliad

  • Queen's Buildings
    5 The Parade
    Heol Casnewydd
    CF24 3AA