Labordy Deunyddiau Adeiladu Gwydn (RCM)
Mae’r Labordy Deunyddiau Adeiladu’n cynnwys amrywiaeth eang o gymysgwyr, byrddau dirgrynu, argraffyddion sment 3D, cywasgwyr ac offer i gymysgu, castio a phrofi deunyddiau adeiladu’n unol â’r safonau perthnasol. Mae'r labordy yn Adeiladau'r Frenhines, Gorllewin -1.02. Er mwyn defnyddio’r offer yn y labordy a chael gwybodaeth am brofi a chostau, cysylltwch â ni.
Offer
Enw | Brand/model | Manylion |
---|---|---|
Ultrasonic pulse analyzer (UPV) | PULSONIC 58-E4900. | Defnyddir y PULSONIC i fesur cyflymder pylsiau uwchsonig drwy ddarn o goncrit. Bydd yn darparu gwybodaeth am graciau, bylchau, cryfder, ac yn rhoi amcangyfrifon cyflym o faint o elastigedd deinamig sydd ar y safle neu yn y labordy. Gellir ei ddefnyddio hefyd i amcangyfrif amseroedd i daro’r estyllod. Gellir cyfuno cyflymder y pylsiau â gwerth adlam y morthwyl er mwyn gwerthuso cryfder concrit. |
3D printer for clay and concrete | Delta WASP 40100 Clay. | Ceramic 3d printer open and accessible on three sides to interact during the prints. With Delta WASP 40100 Clay is possible to print directly on the floor or on a printing surface removable steel. You can also continue printing without waiting for the piece to dry and simply by moving the printer. |
Rapid Chloride Permeability Tester (RCPT) | Cyfarpar 4-sianel i bennu gallu concrit i wrthsefyll athreiddedd ïonau clorit. Yn cydymffurfio ag ASTM C1202, C1760, AASHTO T277 ac NT BUILD 492. | |
Water permeability testing | MATEST C430. | Cyfarpar athreiddedd dŵr concrit awtomatig mewn 4 cell i brofi athreiddedd morter a chiwbiau concrit neu silindrau pan fydd pwysedd y dŵr wedi cyrraedd uchafswm o 40 bar. |
Density and Gravity Setup | Defnyddir i bennu disgyrchiant penodol concrit, agregau ac ati. Ffrâm ddur gadarn, mae'n ymgorffori ar ei ran isaf blatfform y gellir ei addasu o ran uchder, gan ddal cynhwysydd dŵr, ac yn caniatáu'r prawf disgyrchiant penodol. Ynghyd â'r prawf mae dewis o ddwy siambr wactod (32 L a 110 L) ar gyfer dirlawnder gwactod. | |
Viscometers (x2) | IKA Lo-vi and IKA Me-vi. | Mesuryddion gludedd cylchdro (isel, tra isel a chanolig) i bennu rheoleg cydrannau hylif a phast ar gludedd gwahanol. Gellir defnyddio'r offerynnau i bennu gludedd ar dymheredd gwahanol. |
Cysylltwch
Dr Riccardo Maddalena
- maddalenar@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6150
Lleoliad
-
Queen's Buildings
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA