Ewch i’r prif gynnwys

Offeryn Gwasgaru Golau DynaPro® Plate Reader III

Brand/model Offeryn Gwasgaru Golau DynaPro® Plate Reader III
Manylion Mae DynaPro® Plate Reader III yn offeryn gwasgaru golau dynamig sy’n hynod sensitif ac wedi’i awtomeiddio. Ac yntau’n offeryn trwybwn uchel, 817.28 nm yw tonfedd y laserau, a 158° yw’r ongl gwasgaru. Mae'n gallu mesur gronynnau/moleciwlau rhwng 1 nm a 2 µm mewn diamedr hydrodynamig a rhoi gwybodaeth am bolywasgariad. Mae angen defnyddio plât ffynnon 96-, 384- neu 1536-, sy’n golygu bod y gallu i ddefnyddio cyfeintiau samplu bach (mor fach â 4 μL fesul ffynnon) yn fantais fawr. Amrediad tymheredd gweithredu/mesur yr offeryn yw 4°C hyd at 85°C. Mae'n defnyddio meddalwedd DYNAMICS ar gyfer casglu a dadansoddi data. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y system neu gael hyfforddiant a chofrestru i’w defnyddio, cysylltwch â ni.
Ysgol Ysgol Deintyddiaeth

Cysylltwch

Dr Elaine Ferguson

Email
fergusonel@caerdydd.ac.uk

Lleoliad

University Dental Hospital
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XY