Ewch i’r prif gynnwys
Yr Athro Jonathan Scourfield DipSW PhD

Yr Athro Jonathan Scourfield

DipSW PhD

Professor

Email
scourfield@cardiff.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 5402
Fax:
+44 (0)29 2087 4175
Campuses
2.30 Glamorgan Building, sbarc|spark, Heol Maendy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ
Siarad Cymraeg
Comment
Sylwebydd y cyfryngau
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n Athro Gwaith Cymdeithasol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant.

Rwy'n gyd-gyfarwyddwr ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac yn gyd-arweinydd arbenigol ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bywgraffiad

Rwy'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig a oedd, cyn dod yn academydd, yn gweithio fel athro ysgol uwchradd, gweithiwr grŵp mewn cymuned therapiwtig a swyddog prawf.  Fy nghefndir academaidd yw gradd Hanes yng Nghaergrawnt, hyfforddiant athrawon yn Llundain a chymhwyster gwaith cymdeithasol a PhD yng Nghaerdydd.

Dechreuais fy ngyrfa academaidd fel ymchwilydd ansoddol yn unig, gan wneud PhD ethnograffig, ac yna symudais yn ddiweddarach i wneud ymchwil fwy meintiol, gwerthusol ar ôl cael hyfforddiant mewn Epidemioleg. Rwyf wedi dysgu ar raglenni gwaith cymdeithasol amrywiol ers 1996 pan ddechreuais weithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhwng mis Ionawr 2018 a mis Mai 2021 cefais fy secondio i Lywodraeth Cymru fel cynghorydd polisi arbenigol i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol. Rwy'n ymddiriedolwr i'r Family Rights Group.

Anrhydeddau a Dyfarniadau

  • Cymrawd o Gymdeithas Gwaith Cymdeithasol Prifysgolion ar y Cyd
  • Uwch Arweinydd Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, 2022-25

Aelodaethau proffesiynol

  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
  • Gweithiwr cymdeithasol cofrestredig (Gofal Cymdeithasol Cymru)
  • Aelod o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain
  • Aelod o Gymdeithas Athrawon Prifysgol Gwaith Cymdeithasol
  • Aelod o Gymdeithas Ymchwil Gwaith Cymdeithasol Ewrop

Safleoedd academaidd blaenorol

  • 1996-1999: Cymrawd tiwtorial, Caerdydd
  • 1999-2005: Darlithydd, Caerdydd
  • 2005-2009: Uwch ddarlithydd, Caerdydd
  • 2009-2011: Darllenydd, Caerdydd
  • 2011-yn awr: Athro, Caerdydd

Ymrwymiadau siarad cyhoeddus

  • Cynhadledd Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol ac Ymchwil, New Orleans (2017)
  • Cynhadledd Cymdeithas Ymchwil Gwaith Cymdeithasol Ewrop, Caeredin (2018)
  • Cynhadledd Cymdeithas Ymchwil Gwaith Cymdeithasol Ewrop, Leuven (2019)
  • Cynhadledd Cymdeithas Ymchwil Gwaith Cymdeithasol Ewrop, Amsterdam (2022)
  • Cynhadledd Cymdeithas Ymchwil Gwaith Cymdeithasol Ewrop, Milan (2023)

Pwyllgorau ac adolygu

  • Uwch aelod o Goleg Adolygu Cymheiriaid ESRC
  • Cyn-aelod o baneli comisiynu ar gyfer rhaglenni ymchwil AHRC ac ESRC
  • Adolygydd grantiau ar gyfer cynghorau ymchwil sawl gwlad arall
  • Cyn-aelod o banel cydnabyddiaeth ESRC ar gyfer hyfforddiant doethurol mewn gwaith cymdeithasol
  • Cadeirydd panel grantiau gofal cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (a Dirprwy Gadeirydd y Panel Cymrodoriaethau)
  • Adolygydd ar gyfer 30+ o gyfnodolion mewn gwaith cymdeithasol, cymdeithaseg ac ymchwil hunanladdiad
  • Cadeirydd y grŵp trefnu ar gyfer cynhadledd Addysg ac Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ar y Cyd 2021
  • Aelod o'r bwrdd golygyddol, Journal of Social Work

Cyhoeddiadau

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2007

2006

2005

2004

2003

2002

2001

2000

1999

1998

1997

1995

Addysgu

  • Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ar Waith (Doethur mewn Gwaith Cymdeithasol ac MSc Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol)
  • Darlithoedd a gweithdai ar bynciau amrywiol, gan gynnwys ymchwil mewn llywodraeth, dylunio arbrofol, cymorth i deuluoedd a gweithio gyda thadau

Mae fy ngwaith ymchwil wedi ymdrin â sawl agwedd wahanol ar waith cymdeithasol, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau i blant a theuluoedd
  • Gweithio gyda dynion
  • Addysg gwaith cymdeithasol
  • Cynyddu capasiti ymchwil

Rwyf hefyd wedi gwneud gwaith ymchwil arall nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â gwaith cymdeithasol, ar y pynciau canlynol:

  • Cyd-destun cymdeithasol hunanladdiad a hunan-niweidio
  • Hunaniaeth a chrefydd ymhlith plant

Rwyf wedi defnyddio ystod eang o ddulliau ymchwil, fel arfer drwy gydweithio â phobl sydd â mwy o arbenigedd na mi yn y dulliau hynny. Yn ogystal â'r dulliau gwyddor cymdeithasol a ddefnyddir amlaf fel cyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolygon, rwyf wedi defnyddio ethnograffi, dadansoddi disgwrs, darganfod lluniau, arfer wedi’i efelychu, treial a reolir ar hap, lled-arbrawf, adolygiad systematig, dadansoddi data astudio carfan a phanel, cysylltu data gweinyddol rheolaidd, a dysgu peirianyddol.

Mae fy ngwaith ymchwil wedi cael ei ariannu gan gyrff amrywiol, gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Fenter Ymchwil Ataliaeth Genedlaethol, yr Adran Addysg a’r Adran Iechyd (Llywodraeth y Deyrnas Unedig), Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Sefydliad Nuffield, y Loteri Fawr ac elusennau eraill.

Dyma fy mhrosiectau ymchwil cyfredol:

Supervision

Mae gennyf ddiddordeb mewn goruchwyliaeth ddoethurol ar y pynciau a restrir o dan y tab 'ymchwil' ac ar effeithiolrwydd gwaith cymdeithasol mewn unrhyw faes. Ar hyn o bryd, rwyf yn goruchwylio Femi David, Angela Endicott, Katy Johnstone, Rebecca Messenger, Rachel Parker a Richeldis Yhap.

Past projects

  • Hannah Burgon - therapi a gynorthwyir gan geffylau
  • Dan Burrows - ethnograffi gwaith cymdeithasol mewn ysbytai
  • Cynthia Charnley - pobl ag anabledd dysgu fel gwirfoddolwyr
  • Ali Davies - llais y plentyn mewn gwaith amlasiantaethol ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant
  • Charalambos Dionatos - hunaniaeth genedlaethol plant ysgol gynradd gwlad Groeg
  • Jeremy Dixon - goruchwylio troseddwyr ag anhwylder meddwl
  • Martin Elliott - amrywiad yng nghyfraddau plant sy'n derbyn gofal
  • Rhiannon Evans - rhaglen dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn yr ysgol
  • Stephen Gethin-Jones - gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar ganlyniadau i bobl hŷn
  • Wahida Kent - Rhieni sy’n bobl dduon ac yn dod o leiafrifoedd ethnig sy'n ofalwyr plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau
  • Nina Jacob - pobl mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad ymhlith dynion ifanc
  • Jacqui Lee - dull teulu cyfan 
  • Colette Limbrick - disgwrs ynghylch hunanladdiad llofruddiaeth
  • Lee Quinney - dynion ag anhwylder personoliaeth
  • Tom Slater- rôl gwaith cymdeithasol mewn atal hunanladdiad
  • Andrew Smith - goruchwylio troseddwyr rhyw yn ystod cyfnod prawf
  • Lee Sobo-Allen - dynion sy'n gofalu am blant ar ôl y broses amddiffyn plant
  • Alex Vickery - dynion yn ceisio help ar gyfer problemau iechyd meddwl
  • Roz Warden - gwaith cymdeithasol Islamaidd