Ewch i’r prif gynnwys
Keith Bush

Mr Keith Bush

Darlithydd yn y Gyfraith

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Cymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.

Bywgraffiad

Mae Keith Bush CF LLM (Llundain), Bargyfreithiwr yn Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru (ar ôl bod yn Athro Anrhydeddus yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe). Ef, i fyny at Awst 2019, oedd Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg a bu'n gwasanaethu fel Cofiadur (yn eistedd yn y Llys Sirol), yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Comisiwn y Gyfraith ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n Drysorydd Sefydliad Cymru'r Gyfraith ac yn Gyfarwyddwr Cynhadledd flynyddol Cymru'r Gyfraith. Wedi ymarfer fel Bargyfreithiwr yng Nghaerdydd am dros 20 mlynedd, ymunodd â gwasanaeth cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn 1999, gan ddod yn Gwnsler Deddfwriaethol, a chan arwain y tîm cyfreithiol a weithiodd ar nifer o filiau a oedd yn ymwneud â Chymru, gan gynnwys yr un a ddaeth yn Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rhwng 2007 a 2012 bu'n Brif Gynghorydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyfranodd i'r Statute Law Review, y Cambrian Law Review, Cylchgrawn Cyfraith Cymru, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, y New Law Journal a'r Tribunals Journal ac mae'n darlithio ac yn darlledu'n rheolaidd ar faterion cyfraith gyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe bu'n Gyfarwyddwr Modiwl dau fodiwl arloesol ar gyfer israddedigion mewn Deddfwriaeth a mewn Cyfraith Llywodraethiant Aml-Lefel gan gyfrannu, hefyd, at ddysgu'r Gyfraith Gyhoeddus yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Fe yw awdur cyfrol Gymraeg ar y Gyfraith Gyhoeddus - 'Sylfeini’r Gyfraith Gyhoeddus’ - a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol . Mae ei ddiddordebau addysgu ac ymchwil yn cynnwys hawliau cyfreithiol grwpiau ieithyddol a diwylliannol, gwladwriaethau ffederal a lled-ffederal a strwythurau cyfansoddiadol anhiriogaethol. Yng Nghaerdydd, mae'n aelod o'r tîm sy'n dysgu modiwlau gradd uwch ar Gyfansodddiadoldeb a Llywodraethiant a Chyfraith Datganoli yng Nghymru. Cafodd ei benodi'n Gwnsler y Frenhines (Honoris Causa) yn 2014 er mwyn cydnabod ei gyfraniad at gynyddu gwybodaeth y cyhoedd o gyfraith Gymreig.