Trosolwyg
Rwy'n ymchwilydd ac yn diwtor gwyddorau cymdeithasol profiadol. Rwyf wrth fy modd yn gweithio ar astudiaethau ac o fewn meysydd pwnc sydd o fudd i gymdeithas drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac anghyfiawnderau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae diddordebau ymchwil yn cynnwys tlodi gwaith, Trefnu Cymunedol, y mudiad Cyflog Byw, gofal cymdeithasol a Chymru.
Rwy'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).
Ymchwil
Rwy'n fyfyriwr PhD a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP), yn archwilio'r mudiad Cyflog Byw Go Iawn yn y sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru mewn cydweithrediad â Citizens' Cymru.