Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Paul Bradley MBChB (Leeds), MEd (Exeter), FRCGP, FAcadMEd, FHEA, NTF

Bydd cyfeillion, cydweithwyr a chyn-fyfyrwyr yr Athro Paul Bradley, cyn Gyfarwyddwr Sgiliau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn drist i glywed y bu farw ddydd San Steffan yn 63 oed. Mae'n gadael Pam, ei wraig ers 38 o flynyddoedd, y ffurfiodd bartneriaeth waith gref a dylanwadol gyda hi ym maes efelychu clinigol ac addysg sgiliau clinigol.

Roedd Paul yn athro o fri rhyngwladol oedd wedi ennill gwobrau, gydag angerdd dros wella addysg feddygol er budd myfyrwyr a chleifion yn ei sbarduno. Roedd parch eang iddo am ei ddefnydd arloesol a chreadigol o ddulliau addysgu'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes sgiliau clinigol a chyfathrebu.

Hyfforddodd Paul yn llawfeddyg yn Leeds cyn dod yn feddyg teulu ac ymuno â Mollie McBride a John Bligh yng Nghanolfan Iechyd Lache yng Nghaer, lle llwyddodd i ddenu cariad a pharch cleifion a chydweithwyr yn fuan iawn. Roedd Lache yn bractis arloesol, yn ymwneud â llawer o ymchwil ac arloesi, fe'i disgrifiwyd gan Syr Denis Pereira-Gray yn y British Journal of General Practice fel un o'r mwyaf adnabyddus yn y rhanbarth - a diolch i Paul, dyma oedd y practis di-bapur cyntaf yn y wlad. Roedd ganddo ddiddordeb byw ym mhotensial technoleg gwybodaeth ar gyfer dysgu, a daeth yn hyfforddwr meddygon teulu, yn gynghorydd cyswllt TG yn yr Adran Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Lerpwl, ac yn Llywydd cenedlaethol y Gymdeithas Gyfrifiadurol Feddygol.

Yn 1996 fe'i gwahoddwyd gan Brifysgol Lerpwl i sefydlu'r rhaglen sgiliau clinigol arloesol yn y cwricwlwm israddedig newydd yn seiliedig ar broblemau oedd yn cael ei ddatblygu ar y pryd. Yna symudodd i Brifysgol Dundee, ac yn 2001 fe'i penodwyd yn Athro a Chyfarwyddwr Sgiliau Clinigol yn Ysgol Meddygaeth newydd Peninsula ym mhen draw de orllewin Lloegr. Ei rôl ar y tîm sefydlu oedd sicrhau bod y mannau addysgu, y staff a'r rhaglenni sgiliau clinigol yn barod ar gyfer derbyn y myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2002. Erbyn iddo adael Plymouth i fynd i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn 2010, roedd enw da Peninsula fel canolfan flaenllaw ar gyfer addysgu sgiliau clinigol wedi'i hen sefydlu.

Yng Nghaerdydd, roedd swydd hanfodol gan Paul fel Cyfarwyddwr Sgiliau Clinigol, gan arwain yr elfen allweddol hon yn y cwricwlwm yn y rhaglen C21 newydd o addysg feddygol i israddedigion. Roedd ei agweddau arloesol, ysgolheigaidd a thrylwyr at addysg, ynghyd â'i frwdfrydedd, ei swyn a'i ymagwedd gynhwysol at reoli, yn gymorth i gadarnhau enw da Caerdydd ar gyfer addysg glinigol ansawdd uchel, yn canolbwyntio ar y claf. Ymddeolodd yn 2012 ar sail iechyd.

Roedd Paul yn ŵr gwylaidd oedd bob amser yn awyddus i ddysgu; eto i gyd roedd ganddo record ragorol o ysgolheictod personol gydag anrhydedd yn ei arholiadau israddedig a rhagoriaeth yn ei gymwysterau ôl-raddedig. Fe'i cydnabuwyd gan yr Academi Addysg Uwch yn 2010 gyda Chymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol, ac yn 2011 cyflwynwyd iddo Fedal Arian Academi'r Addysgwyr Meddygol am ei gyfraniad oes rhagorol i addysg feddygol ac i ddiolch am ei wasanaeth i'r Academi ei hun. Mae'n gadael gwaddol aruthrol o ysgolheictod ym maes addysgu; cyhoeddodd yn eang yn ystod ei yrfa ac mae ei bapur yn Medical Education yn 2006 ar sefydlu canolfannau sgiliau clinigol yn parhau'n un o'r erthyglau rhyngwladol a ddyfynnwyd fwyaf erioed yn y cyfnodolyn.

Roedd gan Paul chwilfrydedd, ynni ac agwedd 'gallaf ei wneud' at ddysgu oedd yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o fyfyrwyr meddygol, ac roedd bob amser yn ymarfer ei bregeth ei hun.  Er enghraifft, ymgymerodd â gradd Meistr mewn Addysg yn 2011, gan ennill rhagoriaeth, am ddim rheswm mwy na bod ganddo ddiddordeb ailddarganfod y profiad o fod yn fyfyriwr ac adnewyddu ei chwilfrydedd am ddysgu. Hyd yn oed ar ôl ymddeol, parhaodd i ymdaflu i syniadau a chynlluniau newydd, gan gynnwys dysgu dawnsio a datblygu ei sgiliau coginio, oedd eisoes yn rhagorol. Roedd ei fwynhad a'i ymdeimlad o hwyl yn heintus, bu ei ddylanwad ar addysg feddygol yn ddwys, a bydd ei gyfeillion a'i gydweithwyr niferus yn gweld ei eisiau. Bydd ei gyn-fyfyrwyr, yr oedd llawer o'u plith yn dal yn gyfeillion da iddo a’i wraig Pam, yn ei gofio gydag anwyldeb mawr.

Julie Browne a John Bligh
Caerdydd, Rhagfyr 2018