Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Binglin Zhong

Gyda thristwch mawr, mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth yr Athro Binglin Zhong (PhD 1994, Anrh 2008), ysgolhaig eithriadol ac aelod hoffus o gymuned fyd-eang Caerdydd.

Graddiodd Binglin, sy'n frodor o Beijing, o Sefydliad Technoleg Nanjing (a elwir bellach yn Brifysgol y De-ddwyrain) yn Tsieina ym 1977. Arhosodd yno i ddysgu, gan ymgymryd â Gradd Meistr mewn peirianneg ym 1987 a chael ei ddyrchafu’n Athro Cyswllt ym 1988.

Ym 1990, daeth Binglin yn un o ychydig o fyfyrwyr Tsieineaidd dethol i astudio yn y DU, pan ddaeth i Brifysgol Caerdydd ar gyfer ei PhD mewn peirianneg, a ddyfarnwyd ym 1994. Yna dychwelodd i Tsieina, i ddod yn Is-lywydd Prifysgol y De-ddwyrain. Ym mis Medi 1996, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Adran Addysg Uwch y Comisiwn Addysg Cenedlaethol - a ddaeth yn Weinyddiaeth Addysg Tsieina yn ddiweddarach.

Ym mis Ebrill 2001, cafodd ei ddewis yn llywydd Prifysgol Normal Beijing, swydd a ddaliodd tan fis Gorffennaf 2012.

Drwy gydol gyrfa ddisglair Binglin mewn addysg uwch, bu’n llysgennad, yn ffrind ac yn gefnogwr brwd o’r cysylltiad rhwng Prifysgol Caerdydd a Tsieina, yn enwedig ym Mhrifysgol Normal Beijing. I gydnabod y rôl hon, daeth yn Is-lywydd Anrhydeddus (Rhyngwladol) yn Tsieina i Brifysgol Caerdydd yn 2012.

Diolch i fentergarwch Binglin, mae Prifysgol Caerdydd wedi mwynhau partneriaeth strategol lwyddiannus ers tro gyda Phrifysgol Normal Beijing, y mae olynwyr Binglin, yr Athro Dong a'r Athro Ma, wedi parhau. Mae'r ddwy brifysgol wedi ffurfio mentrau lluosog gan gynnwys y Cyd-Goleg Ieithoedd Modern a nifer o gysylltiadau academaidd llwyddiannus ar draws disgyblaethau lluosog mewn ieithoedd, y celfyddydau, seicoleg, meddygaeth a gwyddoniaeth.

Dywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, “Roeddem yn drist i glywed am farwolaeth Binglin. Bydd yn cael ei gofio’n gynnes yn beiriannydd ac addysgwr o fri, ac yn ffrind ffyddlon a hoffus i Brifysgol Caerdydd. Mae'r partneriaethau y helpodd i'w sefydlu rhwng Caerdydd a Tsieina yn ffynnu heddiw; byddwn yn cofio Binglin orau drwy adeiladu ymhellach ar ein cyfeillgarwch a’n huchelgeisiau cyffredin.”