Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Fonesig Teresa (Terry) Rees FLSW FAcSS

A black and white image of a woman

Gyda thristwch mawr, mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth Terry Rees, ysgolhaig hynod ac arloeswr dros newid.

"Gwnewch yr hyn sy'n gwneud i'ch llygaid ddisgleirio." Dyma gyngor Terry yn aml pan oedd pobl yn y byd academaidd, sefydliadau cydraddoldeb neu'r llywodraeth yn ceisio ei chyngor doeth. Roedd hi'n golygu ymchwil, neu weithio ar beth bynnag rydych chi'n angerddol amdano; yr hyn sy'n gwneud i chi deimlo cyflawniad ac sy’n cael effaith yn y byd go iawn.

Fel y nododd, yn ei stori ddoniol am drafodaeth gyda'r Frenhines mewn te parti a datgan fod newid rheolau olyniaeth yn y frenhiniaeth yn fuddugoliaeth i brif ffrydio rhywedd, roedd hi wedi cael effaith - a chyn i effaith hyd yn oed fod yn beth yn y byd academaidd. Roedd Terry yn rhan o'r garfan honno o academyddion ffeministaidd o'r 1970au ymlaen, a ddaeth o hyd i ffordd o wneud ymchwil am fenywod, gyda menywod, i fenywod, tra hefyd yn adeiladu gyrfa academaidd o fri.

Roedd gyrfa ymchwil gynnar Terry yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar ymchwil arloesol ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn addysg a hyfforddiant merched. Roedd hi'n rhan bwysig o'r tîm bach a ddatblygodd MSc mewn Astudiaethau Menywod ym 1987 a redodd am fwy na degawd. Roedd cwrs yn arloesol yn ei gynnwys a'i ymrwymiad i addysgu tîm rhyngddisgyblaethol a dilys, a oedd yn heriol ac yn dod â mwynhad i fyfyrwyr a staff. Roedd yn cynnig mynediad i fenywod aeddfed â chymwysterau proffesiynol heb radd gyntaf a'i defnyddiodd i ddatblygu eu gyrfaoedd, mewn sawl byddent yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru â oedd newydd ei ffurfio (y Senedd bellach) a helpodd i ffurfio rhwydweithiau Cymreig sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb.

Daeth Terry yn Athro yn yr Ysgol Astudiaethau Trefol Uwch (yn ddiweddarach yr Ysgol Astudiaethau Polisi) Prifysgol Bryste. Ym Mryste, ac yng Nghaerdydd o 2001, fel Athro yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, cynhaliodd ymchwil ffeministaidd arloesol ar brif ffrydio rhywedd. Dylanwadodd ei gwaith ar lunio polisïau ym maes menywod a gwyddoniaeth, o fewn ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd hi'n un o'r 'saith menyw ddoeth' a gynorthwyodd y Comisiwn Ewropeaidd (EC) i gynllunio cyfathrebiad ar brif ffrydio rhywedd a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff y Comisiwn fynd i'r afael â'r gwahaniaeth y mae rhywedd yn ei wneud, i ganlyniadau polisi, pan wneir polisi fel petai'r byd yn niwtral o ran rhywedd. Helpodd y gwaith ymchwil hwn, yn enwedig adroddiad ETAN (2000, 2010) newid y ffordd y mae'r UE a'r aelod-wladwriaethau yn asesu ansawdd ymchwil.

Cyfrannodd gwybodaeth Terry am brif ffrydio rhywedd hefyd at y ddyletswydd cydraddoldeb unigryw i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth sy'n sail i setliad datganoli Cymru.

Hi oedd Comisiynydd Cymru dros y Comisiwn Cyfle Cyfartal (1996-2002). Roedd hi'n aelod o'r tasglu a oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd Terry hefyd yn aelod o'r Panel Cydraddoldeb Cenedlaethol ac roedd ei adroddiad, An Anatomy of Economic Inequality (2010), nodi’r sail resymegol i benderfyniadau polisi cyhoeddus roi ‘sylw dyledus’ i ystyried lliniaru anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol.

Yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, cafodd Terry hefyd effaith sylweddol ar bolisi a gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Arweiniodd ddau adolygiad annibynnol ar safonau, mynediad a chyllid ym maes addysg uwch yng Nghymru, ac yn fwyaf diweddar bu'n gyd-awdur un o astudiaethau achos effaith hynod lwyddiannus Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer REF2021 (Menywod sy'n Ychwanegu Gwerth i'r Economi - WAVE).

Chwaraeodd Terry ran flaenllaw yn arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd, gan wasanaethu fel Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer staff a myfyrwyr (2002-2006). Yn y rôl hon cychwynnodd bolisi urddas newydd yn y gwaith ar gyfer staff a myfyrwyr, i frwydro yn erbyn aflonyddu a bwlio, yn ogystal â chychwyn cyfres o newidiadau cadarnhaol i'r broses hyrwyddo academaidd. Yn 2006, hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi i rôl Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ei chyfraniad gyrfaol wedi cael ei gydnabod a'i ddathlu drwy gyfres o gymrodoriaethau er anrhydedd, gan gynnwys gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a Phrifysgol Caerdydd, yn ogystal â doethuriaethau er anrhydedd gan brifysgolion ar draws y byd. Dyfarnwyd CBE iddi yn 2002 am wasanaethau i addysg uwch a chyfle cyfartal, a gwnaed yn Fonesig Commander yn 2015 am wasanaethau i'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Yn 2012, y flwyddyn yr oedd wedi penderfynu ymddeol, pan oedd hi'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda'i hwyrion annwyl, cytunodd Terry i aros ymlaen, yn rhan-amser, i fod yn Brif Ymchwilydd ar gyfer prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth i'r Economi (WAVE), lle cafodd gwaith cydweithredol gyda chyflogwyr effaith hirhoedlog ar gael gwared ar wahaniaethau cyflogaeth a cyflog ar sail rhyw. Yn anffodus, daeth ei chyfranogiad i ben yn sydyn ddwy flynedd yn ddiweddarach trwy ddiagnosis tiwmor ar yr ymennydd. "Tipyn o newyddion drwg", meddai, wrth iddi dorri'r newyddion yn ysgafn i'r tîm ymchwil, ac yna'r staff yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI).

Cymerodd reolaeth o'i salwch drwy ymweld â Hosbis Marie Curie ym Mhenarth i 'ddewis lle', fel y dywedodd, a fyddai'n caniatáu iddi weld Gwlad yr Haf o'r ffenest - yr ardal lle cafodd ei magu. Er mwyn cefnogi eraill a allai dderbyn diagnosis mor ddinistriol, recordiodd bodlediad nodweddiadol o onest a doniol, 'My Cancer Journey'; ar gyfer Canolfan Ganser Felindre. Gyda gras a hiwmor da, bu'n byw yn ddewr, gyda chanser, am naw mlynedd arall.

Mae'n greulon bod y salwch wedi ei dwyn o'r posibilrwydd o dreulio mwy o amser yn gofalu am ei hwyrion ac i wireddu ei bwriad o ysgrifennu cofiant am ei thaith anhygoel fel academydd ac actifydd. Pwy a wyr pa fyfyrdodau a geiriau doeth, wedi’u cyflwyno'n drwyadl, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn llawn hiwmor y byddem wedi’u cael? Rydyn ni i gyd wedi colli ei doethineb.

Ond arweinyddiaeth a doethineb gydweithredol a chynhwysol Terry fydd yn diffinio ei hetifeddiaeth - bob amser ar gael, ond eto gyda gostyngeiddrwydd tawel, gan ei adael yn fedrus a chynnil i'r derbynnydd wneud eu penderfyniadau eu hunain. Bydd yn cael ei chofio am arddangos bob dydd sut i fod yn berson gweddus a charedig ac am ei haelioni, a gofal ac empathi cynhenid tuag at gydweithwyr, myfyrwyr a ffrindiau.

Ni allech fod mewn unrhyw ddigwyddiad yng Nghymru, Llundain, Brwsel neu yn wir Sweden am fwy na phum munud gyda Terry, cyn i rywun ddod ati i ddweud 'Terry, efallai na fyddwch yn cofio fi ond fe wnaeth... eich cyngor chi ... eich awgrym ... eich cyflwyniad i... newid fy mywyd'.

Faint ohonon ni allai ddod hyd yn oed yn agos at ddweud yr un peth am sut rydyn ni wedi byw ein bywydau?

Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Terry ond yn enwedig ei meibion a'i hwyrion annwyl.

Oherwydd y gofal diwedd oes bendigedig a dderbyniwyd yn Hosbis Marie Curie ym Mhenarth, mae teulu Terry wedi sefydlu cronfa er cof amdani yn lle blodau.

Alison Parken, Barbara Adam, Caroline Joll, Chris Weedon, Gill Boden, Lindsey Williams.