Ewch i’r prif gynnwys

Kevin Stagg

Wrth ysgrifennu ysgrif goffa am ein cydweithiwr a'n ffrind annwyl, Kevin Stagg, a fu farw ar Dachwedd 26 2022, rwy’n meddwl: Tybed beth fyddai Kevin wedi ei feddwl o'i ysgrif goffa swyddogol ym Mhrifysgol Caerdydd? Cwestiwn rhethregol yw hwn: Rwy'n gwybod yn union beth fyddai Kev wedi'i feddwl o'i ysgrif goffa swyddogol ei hun, ac mae'n debyg na ellid argraffu hynny. Ond dyma roi gair ar bapur.

Ganwyd Kevin i deulu milwrol – roedd ei dad yn uwch beiriannydd yn y Llu Awyr Brenhinol, ac wedi'i arwisgo (MBE a CBE). Am ran helaeth o'i fywyd cynnar, bu Kevin a'i ddwy chwaer yn byw mewn gwahanol rannau o'r wlad, gan gynnwys cyfnod yng Nghyprus. Yn y diwedd ymsefydlodd y Staggs yn Nyfnaint. Erbyn diwedd y 70au, bwriad Kevin oedd astudio gradd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Caint, ond ni chwblhaodd ei astudiaethau israddedig. Yn hytrach, cymerodd amryw o swyddi a byw’n rhan o gymuned amgen lle bu'n brif gogydd, gan arbenigo mewn coginio llysieuol. Roedd Kevin, o oedran ifanc, yn llysieuwr ymroddedig ac yn figan ym mhell cyn i hynny fod yn beth trendi. Yn ystod y cyfnod hwn yn byw mewn cymuned, cafodd Kevin a'i bartner ar y pryd, Jane, ferch, sef Elvi. Roedd Kev ac Elvi’n agos ac roedd Kev yn hynod falch o’i ferch ar hyd ei oes.

Yn y 90au cynnar, ac yntau’n ddarllenwr brwd, penderfynodd Kevin astudio gradd hanes. O ganlyniad i’w ddeallusrwydd a’i feddwl craff diamheuol, enillodd Kevin le i astudio yn Adran Hanes, Prifysgol Caerdydd, drwy gynllun mynediad yr Adran honno, ac yntau’n fyfyriwr aeddfed yn ei dridegau. (Wnaeth Kevin erioed anghofio'r cyfle a roddwyd iddo gan yr Adran Hanes ac roedd yn parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu mynediad pan ddaeth yn Uwch Diwtor Derbyn yn Ysgol Busnes Caerdydd.) Dangosodd Kevin ddawn go iawn ym maes hanes ac fe enillodd radd dosbarth cyntaf. Yna, aeth ymlaen i astudio am PhD ym maes hanes diwylliannol gan ymchwilio i hanes anabledd.

Pan oedd yn astudio ar gyfer ei PhD, cafodd Kevin ei swydd academaidd gyntaf yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Morgannwg. Dangosodd yma rinweddau a fu’n amlwg drwy gydol ei yrfa academaidd: ymroddiad gwirioneddol i’w waith a gallu i ymdrin â gofynion a llwythi gwaith amrywiol. Erbyn y mileniwm newydd, roedd Kevin yn edrych tua’i gyn-Brifysgol am swyddi newydd, a chafodd ei benodi'n Gynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Busnes Caerdydd (CARBS) yn yr Adran Economeg. Ei rôl yma oedd helpu’r Athro Derek Matthews a oedd yn dysgu’r modiwl Hanes Economaidd sy'n parhau i fod yn orfodol ar y rhaglenni economeg heddiw. Yn ystod yr amser y bu’n Gynorthwy-ydd Addysgu, cwblhaodd Kevin ei astudiaethau doethurol yn yr Ysgol Hanes a dyfarnwyd ei PhD iddo – camp fawr o ystyried gofynion gofalu am deulu ifanc a’r dyletswyddau addysgu newydd.

Am nifer o flynyddoedd yn CARBS, cyflogwyd Kevin ar amryw o gontractau cyfnod penodol, dros dro. Ond roedd yn amlwg i bawb oedd yn ei adnabod fod Kevin yn hanesydd rhagorol ac fe helpodd i ddatblygu'r cwricwlwm hanes economeg ar y rhaglen economeg israddedig. Roedd yn ddarlithydd gwych a thra diddorol, ac roedd yn boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr ac yn y pen draw fe'i penodwyd yn ddarlithydd Addysgu ac Ysgolheictod yn barhaol – diolch yn rhannol i gefnogaeth yr Athro Patrick Minford.

Pan grëwyd rolau academaidd gweinyddol newydd yn CARBS, ymgeisiodd Kevin am un o'r pwysicaf o blith y rhain: sef Cyfarwyddwr Recriwtio ar gyfer rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig, ac fe'i penodwyd i’r swydd honno. Bu’n ymgymryd â’r swydd hynod gymhleth hon gan barhau i ddysgu nifer o fodiwlau ar yr un pryd. Treuliodd Kevin swm anhygoel o amser ar ddyletswyddau derbyn ar gyfer yr Ysgol Busnes (a thu hwnt iddi). Roedd peth o'i waith yn golygu teithio i Tsieina a Dwyrain Affrica i gwrdd ag asiantau derbyn a swyddogion prifysgolion. I rywun oedd yn figan, gallai'r teithiau rhyngwladol hyn fod yn heriol. Ond fe ddeliodd Kevin a hynny’n ei ffordd arbennig ei hun. Datblygodd berthynas waith gref gyda'r tîm derbyn myfyrwyr yn CARBS a'r Brifysgol ehangach – roedd y cydweithwyr hyn yn mwynhau ei hiwmor ac roedd ei onestrwydd (ac ar adegau ei onestrwydd di-flewyn-ar-dafod) yn rhywbeth oedd yn fwyniant iddynt. Roedd Kevin hefyd yn gefn mawr i'r tiwtoriaid derbyn eraill yn CARBS, yn enwedig Dr Louise Macniven, a bu’n gweithio'n agos gyda nhw. Mae'r gwaith y mae pobl fel Kevin a Louise wedi'i wneud o ran derbyn myfyrwyr yn hanfodol, ond gall y gwaith hwn gael ei anwybyddu, a gall fynd heb ei gymeradwyo gan y gyfadran ehangach. Ond mae Kevin a'i gydweithwyr, fel Louise, yn arwyr tawel go iawn i’r Ysgol. Roedd pobl yn sylwi ar ei gyflawniadau o ran ei waith yn athro ac yn uwch weinyddwr academaidd a dyfarnwyd dyrchafiad i Kevin i swydd Uwch Ddarlithydd.

Un o'r pethau a oedd yn arbennig am Kevin fel cydweithiwr oedd ei fod bob amser yn bresennol yn adeilad Aberconwy – lle’r oedd yn mwynhau gweithio, yfed coffi (stori ynddi'i hun), â’i glustffonau ymlaen. Pe bai Aberconwy ar agor – byddai i'w weld yn ei ystafell, D06, ar y trydydd llawr, ei ddrws ar agor, yn groesawgar tuag at bawb. Gan ei fod yn berson poblogaidd, roedd Kevin yn cael llawer o ymwelwyr – nifer ohonynt yn fyfyrwyr iddo; bu'n Diwtor Personol i dros 100 o fyfyrwyr Cyd-anrhydedd – camp syfrdanol ynddi'i hun. Roedd Kevin yn boblogaidd gyda staff hefyd ac wrth ei fodd â’r sgyrsiau amrywiol y byddent yn eu rhannu ag o. Roedd y rhain yn fwy na chydweithwyr; roedden nhw’n ffrindiau ac yn 'deulu'.

Yn aml, gellid dod o hyd i Kevin gyda'i ffrind agosaf, Dr Mike Marinetto, a fyddai'n aml yn galw heibio; afraid dweud bod proffesiynoldeb a dyletswyddau o ran gwaith yn bresennol bob amser – ond roedd digonedd o chwerthin ac roedd egni arbennig ar goridor y trydydd llawr pan roedd y ddau gyda’i gilydd. Roedd gan Kev feddwl mawr o Mike ac roedd Mike yn teimlo’r un fath heb os; rhaid yw coffáu eu gwir gyfeillgarwch a'u teyrngarwch i'w gilydd yma.

Dywedodd ei gyn-Bennaeth Adran a'i gyd-athro ar fodiwlau hanes economaidd, yr Athro Trevor Boynes: "Roedd drws Kevin ar agor bob amser, a byddwn i'n stopio'n rheolaidd i gael sgwrs gydag e ar fy ffordd i fy swyddfa ar goridor D. Yr hyn y byddaf yn ei golli yw ei hiwmor a'n tynnu coes rheolaidd am y myfyrwyr, y brifysgol, a bywyd yn gyffredinol... Roeddwn i’n gwerthfawrogi dyfnder ei wybodaeth a'i broffesiynoldeb.' Hyd at flynyddoedd olaf ei fywyd yn CARBS, bu Kevin yn ymgymryd â llawer o waith gweinyddol gyda’r tîm derbyn myfyrwyr ac yna'r Dirprwy Bennaeth Addysgu a Dysgu, a hynny gyda gwên. Aeth ati'n dawel gyda'r gwaith angenrheidiol a fu'n sail i'r holl bethau hynny yr ydym ni yn yr Adran a'r Ysgol yn ei gymryd yn ganiataol.

Roedd Kevin yn siarad yn ddi-flewyn ar dafod; gallai ymddangos yn llym pan oedd angen iddo fod (a hynny gyda ffyrdd unigryw ond doniol o fynegi ei hun, yn aml), ond cuddwisg oedd hyn mewn gwirionedd, oherwydd yn y bôn roedd yn ddyn eithaf swil oedd yn llawn hwyl ac yn hynod o chwareus. Roedd ei natur chwareus yn dod i'r amlwg pan fyddai'n chwarae 'triciau' ar ei gydweithwyr – mae llawer gormod i'w henwi yma – mae llyfr ar Iwgoslafia a bwlb golau coll yn ddechrau ar restr hir. Digon yw dweud bod gwên ddireidus Kevin bob amser yn datgelu fod ganddo rywbeth ar y gweill, ac yn wir, roedd wrth ei fodd yn meddwl am y talu nôl chwareus a fyddai'n dilyn yn anochel.

Roedd Kevin yn ddyn hynod o garedig ac fe ddaeth â nifer o anrhegion i'w ffrindiau wedi ymweliadau ar deithiau recriwtio – mae llawer i banda tegan yn adeilad Aberconwy a thu hwnt. Gan ymdrechu i gadw’r tîm derbyn myfyrwyr mewn hwyliau da yn ystod adegau llawn straen y cyfnodau Cadarnhau a Chlirio, byddai Kevin, yn gynnar yn y bore, yn ffeindio ffordd o lenwi eu swyddfa gyda bocsys a bocsys o felysion – gormod o lawer i'w bwyta ar adegau arferol ond byddai hyn bob amser yn dod â gwên a hwyl i'r tîm hwnnw yr oedd yn ei ystyried fel ei un mwyaf gwerthfawr.

Un o ddiddordebau mawr Kevin ar wahân i hanes a'i waith oedd cerddoriaeth. Yn ei arddegau yn y 70au, daeth yn ffan o David Bowie ac roedd yn ffan mawr o’r sîn gerddoriaeth ôl-pync. Gwelodd joy Division a New Order yn fyw yng nghanol yr 80au, yn ogystal â The Smiths ar ddau achlysur. Bu hyd yn oed yn brif leisydd ei grŵp electronig ôl-pync ei hun, gan chwarae’r allweddell hefyd. Er bod Kevin, fel unrhyw ffan cerddoriaeth fodern, yn hoffi ffrydio cerddoriaeth, roedd casglu cerddoriaeth ac ymweld â siopau recordiau nid yn unig yng Nghaerdydd ond ledled y DU – o Falmouth i Leeds i Fanceinion, yn rhywbeth yr oedd yn angerddol yn ei gylch. Ar un adeg fe roddodd ystyriaeth i’r posibilrwydd o wneud ychydig o ymchwil ar economeg y siop recordiau. Erbyn yr adeg roedd yn byw yng Nghaerdydd, roedd hefyd yn mynd i gyngherddau'n rheolaidd a’i hoff fand byw, o bell ffordd, oedd The Fall; fe’i gwyliodd yn fyw ar bedwar achlysur.  Roedd The Fall yn enwog am y ffaith bod aelodau'r band yn newid yn gyson; roedd a wnelo hyn rhywbeth â Mark E. Smith, prif ganwr digyfaddawd, byr ei dymer ar adegau, a phlaen ei dafod, y band.  Ar ddrws swyddfa Kevin, D06, yn Aberconwy mae dyfyniad gan Mark E. Smith, wedi’i osod yno â thâp selo:  ‘If it's me and yer granny on bongos, it's the Fall’. Mewn ffordd debyg, dros yrfa o ugain mlynedd a rhagor yn CARBS, daeth Kevin yn bresenoldeb canolog yn yr Adran Economeg a'r Ysgol Busnes, a chanddo hefyd rôl ganolog yn yr Adran honno.

Effeithiodd cyfnodau clo pandemig covid ar fywyd ac iechyd Kevin. Yn un a oedd yn byw ar ei ben ei hun, bu i Kevin weld colli amserlen reolaidd trefn waith, o deithio i'r gwaith a chymysgu â chydweithwyr a ffrindiau. O ganlyniad, dechreuodd ei iechyd, a oedd eisoes yn fregus, ddirywio – yn ystod ein brwydr ni gyd yn erbyn covid, fe ddioddefodd Kevin yn fawr. Wnaeth e fyth ddod dros hynny’n llawn.

Yn ei wythnosau olaf, roedd ffrindiau CARBS Kevin wrth ei ochr yn rheolaidd, yn ei amgylchynu unwaith eto â'r chwerthin, y llawenydd a'r cariad yr oedd wedi arfer ag ef. Roeddem yn gwybod na fyddai Kevin eisiau unrhyw beth arall, yn yr un modd, fydda’i o ddim yn hoffi i'r darn hwn gael ei ddarllen nac iddo ef ei hun gael ei gofio gydag unrhyw dristwch na ffws. Roedd Kevin yn gwybod ein bod ni yno ac roedden ni'n gwybod ei fod yn gwrando ac yn mwynhau'r cysur roedd ei ferch gariadus, Elvi, ei deulu a’i ffrindiau o CARBS yn ei roi iddo. Roedd Kev yn gwybod cymaint yr oedd yn, ac y mae, yn cael ei garu.

Bydd colled ddofn a mawr ar ôl Kevin Stagg, am byth.

Mike Marinetto a Louise Macniven

Anogir y sawl a oedd yn adnabod Kevin i rannu eu hatgofion a'u cydymdeimlad ar y dudalen we bwrpasol hon: https://www.remembr.com/kevin.stagg