Ewch i’r prif gynnwys

John Potts

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cymhwysodd Dr John Potts, a anwyd yn Lier, Gwlad Belg, BDS o ysgol ddeintyddol Manceinion ym 1972, gan gwblhau BSc rhyng-gysylltiedig hefyd ac ennill dau radd gyntaf a gwobr Charles Henry Preston a ddyfarnwyd i'r myfyriwr deintyddol gorau. Ar ôl hyfforddi mewn patholeg ac ennill ei FRCPath, bu’n gweithio yn ysbyty ac ysgol deintyddol Birmingham nes iddo symud i Gaerdydd ym 1992 a dechrau mewn swydd fel uwch ddarlithydd/ymgynghorydd mewn patholeg y geg.  Yma bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd ar ei ben ei hun yn addysgu patholeg a gwasanaethau diagnostig, ynghyd â chyfrannu at glinigau meddygaeth y geg.

Fel patholegydd y geg, cefnogodd Dr Potts wasanaethau clinigol a chwaraeodd ran hanfodol yng ngofal miloedd lawer o gleifion, gan fod ei ddiagnosis yn hanfodol i reoli'r rhai sydd â'r afiechydon wynebol mwyaf difrifol.

Yn ychwanegol at ei frwdfrydedd fel athro, chwaraeodd John ran allweddol wrth ddarparu mewnbwn clinigol a thechnegol i ddigideiddio gwasanaethau yn yr Ysbyty ac Ysgol Deintyddol, gan oruchwylio cyflwyniad cyfrifiaduron i bob maes clinigol. Roedd yn allweddol wrth gyflwyno'r systemau SALUD a LIFT-UP yn y clinigau.

Am nifer o flynyddoedd cadeiriodd John bwyllgor y llyfrgell a than yn ddiweddar chwaraeodd ran hanfodol wrth sicrhau bod y llyfrgell a'r cyfleusterau astudio yn yr Ysbyty ac Ysgol Deintyddol yng Nghaerdydd ymhlith y mwyaf cynhwysfawr yn y DU.

Roedd John yn un o chwe aelod wnaeth sylfaenu Cymdeithas Meddygaeth y Geg Prydain, ynghyd â dau aelod arall o staff ysgol deintyddol Caerdydd - Brian Cooke a Murray Walker. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y BSOM newydd yn yr Ysbyty Deintyddol Brenhinol ym 1981, a'r flwyddyn ganlynol yng Nghaerdydd.  Roedd y Gymdeithas yn falch o allu cydnabod cyfraniadau John i feddygaeth y geg a’r Gymdeithas trwy ddyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo yng nghyfarfod gwyddonol blynyddol BSOM a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2016.

Roedd yn arholwr allanol ar gyfer Ysgolion Deintyddol eraill ac am gyfnod bu'n ymdrin ag adrodd patholeg y geg ar gyfer ysbyty deintyddol arall yn ychwanegol at ei rôl yng Nghaerdydd.

Roedd yn gefnogwr brwd o Manchester United gydol ei oes, gan lwyddo i gael eu gweld un tro olaf ar ddechrau 2020, er y byddai'n gwylio unrhyw chwaraeon.  Yn ei ieuenctid chwaraeodd hoci i'w Ysgol a'i Brifysgol yn ogystal ag yna gemau staff/myfyrwyr ym Mhrifysgol Birmingham. Roedd hefyd yn mwynhau sboncen a mynydda ac roedd yn rhan o Dîm Chwilio ac Achub Mynydd Kendal.  Roedd yn gerddwr brwd a pharhaodd yn aelod o grŵp cerdded lleol gydag Angus ei gi tan y cyfnod clo cyntaf.  Mae sawl aelod o staff wedi sôn iddo eu mentora o fod yn fyfyrwyr ymlaen i fod yn ymgynghorwyr eu hunain a pha mor garedig a chefnogol yr oedd tuag atynt.

Parhaodd Dr Potts i weithio i Ysbyty ac Ysgol Deintyddol Prifysgol Caerdydd ar ôl cael gwybod am salwch difrifol, salwch y bu’n brwydro'n ddewr a chydag ysbryd, gan ymuno â chyfarfodydd ar-lein tan wythnosau diweddar.

Ar ei ôl mae’n gadael ei wraig, Kay, a'i blant Lindsay a Christopher (bu fawr Alison yn 2014).