Ewch i’r prif gynnwys

Dr Tina Gambling

Gyda thristwch mawr clywodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Caerdydd am farwolaeth Dr Tina Gambling, a fu farw ar 23 Tachwedd 2020 ar ôl salwch byr.

Roedd gan Tina gefndir proffesiynol mewn radiograffeg ddiagnostig a diddordebau academaidd mewn seicoleg.   Fel myfyriwr radiograffeg israddedig ym Mhrifysgol Salford, dangosodd Tina ddiddordeb cynnar mewn ymchwil ac, ar ôl gweithio’n glinigol am gyfnod byr, llwyddodd i sicrhau cyllid i ddod yn fyfyriwr PhD radiograffeg amser llawn cyntaf Prifysgol Salford.   Ar ôl cwblhau ei PhD daeth yn ddarlithydd yng Nghyfarwyddiaeth Radiograffeg Prifysgol Salford, lle roedd y myfyrwyr israddedig yn ei chanmol yn fawr.  Symudodd i Gaerdydd yn 2004 i ymuno â'r tîm Radiograffeg Ddiagnostig, gan arwain yr ymchwil. Gweithiodd i ddechrau datblygu ymchwil yn y rhaglen israddedig cyn symud ymlaen i gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig.

Yn 2012, penodwyd Tina yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig. Bu’n llewyrchus yn ei swydd, gan fanteisio ar ei sgiliau arwain diymhongar gydag angerdd ac egni i wneud cyfraniad mawr at gyfoethogi profiad myfyrwyr PhD a Doethuriaeth Broffesiynol. Roedd Tina yn gefnogaeth gyson i fyfyrwyr ymchwil, ac roedd ei drws bob amser ar agor. Roedd hi hefyd yn allweddol wrth weithredu rhaglen fywiog o hyfforddiant ymchwil, seminarau, sesiynau galw heibio a chlybiau cyfnodolion sy'n mynd o nerth i nerth.  Yn ystod y misoedd diwethaf roedd hi wedi adeiladu tîm o'i chwmpas i ddatblygu ei huchelgeisiau ar gyfer y rhaglen ddoethuriaeth ac i wella profiad y myfyrwyr. Arweiniodd ei thîm ag egni, ac yn arbennig, mae ei chydweithwyr yn pwysleisio pa mor hael oedd hi â’i hamser ac wrth rannu ei harbenigedd, heb ddisgwyl dim yn ôl. Roedd hi’n gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n wirioneddol, ac roedd ei hagwedd gynnes, galluog, gan dynnu coes o bryd i’w gilydd, wedi helpu i feithrin cymuned a ddaeth â staff a myfyrwyr ynghyd. Yn ogystal â'i gwaith yn yr Ysgol, cyfrannodd Tina hefyd at welliannau mewn ymchwil ôl-raddedig yn y Coleg. Un rhan o'i gwaddol i Brifysgol Caerdydd fydd cynllun gweithredu hir ar gyfer gweithredu ei gweledigaeth ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig, ac addewid y tîm Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol i Tina yw y byddant yn cyflawni pob un o’r nodau.

Roedd Tina yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl â chyflyrau clun pediatreg. Arweiniodd rwydwaith amlddisgyblaethol rhyngwladol o ymchwilwyr proffil uchel, clinigwyr a defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu agenda ymchwil sy'n berthnasol yn glinigol yn y maes hwn.  Roedd profiadau cleifion yn ganolog i’w hymchwil.  Gwnaeth gyfraniad pwysig at ddatblygu mesurau sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau cleifion, sy’n rhagofynnol ar gyfer cynnal treialon clinigol ar raddfa fawr a gwerthuso ymarfer clinigol o safbwynt y claf .   Ynghyd â chydweithwyr yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, roedd Tina wedi llwyddo i sicrhau cyllid yn ddiweddar ar gyfer prosiect ymgysylltu â'r cyhoedd - 'Get CreActive' - gan ddefnyddio'r celfyddydau creadigol i archwilio’r heriau sy’n effeithio ar allu corfforol pobl â dysplasia’r clun.  Gan weithio gyda 15 o oedolion ifanc sydd â'r cyflwr, bydd y prosiect yn creu lle i rannu profiadau o ddechrau bod ac aros yn gorfforol egnïol, dysgu am 'iechyd y clun', a chryfhau cefnogaeth cymheiriaid ar-lein.  Mae'r prosiect yn cyfuno angerdd Tina dros les pobl â dysplasia’r clun gyda'i chariad at weithgarwch corfforol ac ymarfer corff.  Y tu hwnt i'w rhaglen ymchwil bersonol, fe wnaeth Tina feithrin a denu cymuned ryngwladol fywiog o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa - Grŵp Clun Caerdydd - gan eu rhoi ar lwybr i hyrwyddo dealltwriaeth a gwella gofal a thriniaeth yn y maes roedd hi wedi ymrwymo’n llwyr iddo.   Bydd ei hegni fel goruchwyliwr wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yn rhan bwysig o’i gwaddol.

Y tu hwnt i'w rôl waith ffurfiol roedd llawer o aelodau staff a myfyrwyr yn gwybod hefyd am angerdd Tina dros fod yn fywiog, ac am ffitrwydd personol. Mae gan gydweithwyr straeon i'w hadrodd am ymuno â sesiynau hyfforddi dwyster uchel Tina, naill ai cyn neu ar ôl diwrnod o waith. Cyfeiriwyd ati gydag anwyldeb fel “Duracell” gan aelodau o’i dosbarth, ac fel bob amser, dull Tina oedd cefnogi ond hefyd annog pobl i wneud eu gorau glas.

Roedd Tina yn gydweithiwr uchel ei pharch ac roedd ei haelioni gonest, ei bywiogrwydd a'i hymrwymiad yn golygu ei bod hi’n hynod boblogaidd ymhlith staff a myfyrwyr fel ei gilydd.   Ar ôl clywed am ei marwolaeth mae llawer wedi sôn eu bod wedi elwa o’i chlust i wrando, ac, erbyn hyn, yn mynegi eu colled fawr.  Yn anffodus, bydd ei myfyrwyr presennol, cyn-fyfyrwyr a phob un ohonom sydd wedi gweithio, chwerthin ac ymarfer (!) gyda hi dros y blynyddoedd yn ei cholli’n fawr.

Dr Tina Gambling - Llyfr Cydymdeimlo Ar-lein

Yr Athro Davina Allen, Pennaeth Ymchwil ac Arloesi, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd