English "Taswn i’n ysgrifennu llyfr, swn i eisiau i feicio fod yn un bennod ohono, nid y cyfan"

"Taswn i’n ysgrifennu llyfr, swn i eisiau i feicio fod yn un bennod ohono, nid y cyfan"

Lewis Oliva, athletwr sy’n mynd i Gêmau’r Gymanwlad, yn sôn am sut mae astudio meddygaeth wedi rhoi persbectif newydd iddo.

Llun o Lewis Oliva gyda’i feic yn Felodrom Casnewydd Llun o Lewis Oliva gyda’i feic yn Felodrom Casnewydd

Allwch chi ddim treulio saith mlynedd ar raglen British Cycling heb fod yn weddol diwyro. Fodd bynnag, mae cerdded trwy’r wardiau fel myfyriwr meddygol ail flwyddyn wedi sicrhau bod agwedd y beiciwr sbrintio o Gymru, Lewis Oliva, at chwaraeon elît bellach yn fwy cytbwys.

"Rydych chi’n credu bod cychwyn o sefyll ar fore Llun yn bwysig iawn - ond dyw e ddim. Pan fyddwch chi’n mynd ar daith o amgylch y ward oncoleg plant yn ysbyty’r Heath, mae hynny’n rhoi persbectif go iawn i chi. Mae hynny'n rhywbeth gwirioneddol ddifrifol."

Gadawodd Lewis raglen British Cycling ym Manceinion ym mis Medi 2016 i ddilyn y rhaglen Feddygaeth i israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymuno â Beicio Cymru.

"Ar ôl bod ym Manceinion am chwe blynedd, fe gyrhaeddais i’r pwynt lle roeddwn i’n reidio o gwmpas mewn cylchoedd yn ysbrydol ac yn drosiadol... roedd yn ormod i mi, os ych chi’n deall beth sy gen i?

"Roeddwn i angen rhywbeth arall i’w wneud. Roeddwn i wedi bod yn gwneud profiad gwaith yng Nghaer ac fe wnaeth yr anesthetydd ymgynghorol yno gadw llygad arna i, a rhoi llwyth o ddyddiau ar y ward i mi. Fe ges i ysbrydoliaeth aruthrol o hynny. Felly dyna’n union beth roeddwn i am ei wneud. Roedd fy mryd ar hynny’n llwyr o hynny ymlaen."

I Lewis, sy’n 25 oed, mae astudio meddygaeth wedi agor agwedd ar ei berfformiad nad oedd ar gael iddo o’r blaen.

"Mae gweld stwff ar y wardiau yn agoriad llygad go iawn ac am ryw reswm mae hynny fel petai’n datgloi’r agwedd yma, heb derfynau, sy’n caniatáu i chi fynd ar y trac a mynd amdani.

"Does gennych chi ddim cymylau duon drosoch chi.

Dydych chi ddim yn meddwl ‘Beth os bydda i’n gwneud yn wael?”

Daeth y penderfyniad i adael un o raglenni beicio mwyaf adnabyddus y byd o deimlad y gallai wneud mwy fel beiciwr, yn ogystal ag awydd i gael mwy allan o fywyd.

"Roeddwn yn argyhoeddedig mod i ddim yn gwneud pethau’n iawn yn British Cycling. Doeddwn i ddim yn manteisio i’r eithaf ar fy ngallu. Pan fyddai’r rasys yn dod byddwn i mewn cyflwr da yn gorfforol, ond yn fy siomi fy hun yn dactegol.

"Mae'n amlwg bod gwendid fanna sydd ddim yn elfen gorfforol - peth tactegol yw e. Profiad rasio sydd dan sylw, a gwaetha’r modd, yn British Cycling, os nad ydych chi yn y sbrint tîm, chewch chi ddim profiad o’r rasys sbrint a keirin - y rasys unigol rwy’n arbenigo arnyn nhw.”

Roedd dod i Feicio Cymru yn gyfle i Lewis ganolbwyntio ar agwedd dactegol ei rasio a meithrin profiad trwy gystadlu mewn rasys cenedlaethol a Chwpanau Byd. Roedd y symudiad hefyd yn golygu sicrhau gwell cydbwysedd trwy ymrwymo amser i rywbeth y tu allan i fyd pwysedd uchel chwaraeon proffesiynol.

"Mae’r diwylliant yn British Cycling - sy’n amlwg yn gweithio - yn golygu eich bod chi’n cyrraedd y pwynt lle rydych chi’n teimlo’n euog am gerdded o amgylch Sainsbury's, oherwydd eich bod ar eich traed. Maen nhw’n dweud wrthych chi am eistedd pryd bynnag gallwch chi, aros oddi ar eich traed, a gorwedd os gallwch chi. Dwy ddim yn credu bod hynny’n ffordd iach iawn o fyw.

"Yn bendant mae yna bethau rwy’n eu gwerthfawrogi yn fy mhrofiad gyda British Cycling. Fe wnawn i’r cyfan eto, ond rwy’n falch iawn mod i wedi newid byd.

“Roedd yn deimlad braf iawn gweld y cyfan yn dod at ei gilydd a dechrau cael beth oedd arnon ni ei angen, yn dactegol ac o ran crefft rasio, ac yna dechrau cyflawni ar lwyfan y byd.”

Yn rhyfeddol, ers i Lewis adael British Cycling, mae wedi bod yn rasio’n well ac yn well. Yn ogystal â bod yn Bencampwr Keirin Prydain ddwy flynedd yn olynol, mae hefyd yn perfformio'n gyson ar lwyfan y byd, ac wedi ennill pedair medal Cwpan Byd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Wrth baratoi ar gyfer Gêmau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn 2018, mae Lewis wedi bod yn hyfforddi yn Felodrom Casnewydd gyda gweddill sgwad Tîm Cymru. Mae'r sesiynau’n cynnwys mynd ar ôl beic modur o amgylch y trac llethr serth ar gyflymder o fwy na 80 cilometr yr awr. Mae’n mynd i’r trac ddwy neu dair gwaith yr wythnos, yn ogystal â gwneud sesiynau ar yr hyfforddwr tyrbo, ar y ffyrdd ac yn y gampfa.

Mae Beicio Cymru yn rhoi i’r tîm eu cyfleusterau enillion ffiniol eu hunain yn Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Mae’r athletwyr yn gallu cyrchu cryfder a chyflyru, seicoleg, maeth a ffisiotherapi.

Mae yna rai gwahaniaethau allweddol i'r trefniadau yn British Cycling. Mae llai o gyllideb, llai o ffocws ar fecaneg a pheirianwyr, a mwy o bwyslais ar reidwyr yn gofalu am eu cit eu hunain.

"Does gennym ni ddim cymaint o fewnbwn gwyddonol - does gennym ni ddim monitro pŵer, monitro data, a hynny i gyd - ond mae gennym ni lawer mwy o ffocws. Oherwydd ein bod ni’n dîm llai rydych chi’n cael hyfforddiant un-i-un,”

"Rydyn ni’n eitha arbrofol fan hyn. Does neb yn ein barnu, neb yn ein gwylio, does dim pwysau dethol ac mae gwarant y byddwn ni’n cymryd rhan yn y rasys - mae hynny’n rhoi hyder i chi roi cynnig ar bethau. Dyw popeth ddim yn gweithio - yn ddigon naturiol - ond mae rhaid i chi roi cynnig ar bethau neu byddan nhw yng nghefn eich meddwl ar hyd yr amser."

Mae Lewis wedi defnyddio’r wybodaeth a gafodd fel myfyriwr meddygol i wneud newidiadau pellach i’w hyfforddiant. Mae'r cwrs yn archwilio’r system endocrin, gan gynnwys sut mae hormonau yn rheoleiddio ymddygiad a ffisioleg, ac mae wedi cymhwyso’i ddealltwriaeth o hynny i ddeall effeithiau cortisol ar ei gorff yn ystod hyfforddiant a sut mae bwyta a chysgu ar wahanol adegau yn dylanwadu ar berfformiad ei gorff Mae wedi newid ei strategaethau adfer a’i brotocolau cynhesu ac wedi defnyddio dealltwriaeth o faeth i addasu ei ddiet — ond mae’n dweud ei fod yn hoffi cadw manylion o leiaf ambell un o’i ddulliau hyfforddi yn gyfrinach.

Roedd cael ei dderbyn ar y rhaglen feddygol yn y Brifysgol yn drobwynt i Lewis.

"Mae'n agoriad llygad mawr. Mae'n newid safbwynt mawr. Roeddwn i’n arfer meddwl bod cychwyn o sefyll allan o’r gât electronig yma yn bwysig, ond yna wrth fynd i’r wardiau rydych chi’n gweld, gwaetha’r modd, bobl sydd â chyflyrau sy’n effeithio’n ddifrifol iawn arnynt, ac mae hynny wedi creu newid persbectif aruthrol i mi, a’m gwneud yn ymwybodol o’r hyn sy’n bwysig mewn gwirionedd.

"Alla i ddim aros i fynd allan ar y wardiau. Rydyn ni allan ar leoliad unwaith yr wythnos a phan fyddwn ni’n cael y cyfle hwnnw, rydw i wrth fy modd, ac yn ymhyfrydu ynddo.”

Ar ôl chwe blynedd allan o fyd addysg, ymunodd â’r rhaglen fel myfyriwr aeddfed. Rhoddodd ei brofiadau yn British Cycling ddealltwriaeth iddo o sut mae sefydliad mawr yn gweithio, a sut mae datblygu perthynas gyda chydweithwyr a chleifion. Cafodd fod modd cymhwyso’r ddisgyblaeth yr oedd wedi’i datblygu fel campwr elît i’r rhaglen feddygaeth ddwys.

Bu pwysau cystadlu hefyd yn fodd i’w baratoi ar gyfer straen sefyll arholiadau.

"Dwi'n mwynhau arholiadau’n fawr. Fwy na thebyg rydw i’n fwy hyderus am fy arholiadau nag am Gêmau’r Gymanwlad!”

"Rwy'n credu mai’r peth od am arholiadau yw bod lefel y gwaith rydych chi’n ei wneud yn cyfateb i’r canlyniadau gewch chi. Gall beicio fod ychydig yn fwy goddrychol. Ie, rydych chi’n gallu rheoli rhai pethau, rydych chi’n gallu gwella’n gorfforol, rydych chi’n gallu gwella’n dactegol, ond allwch chi ddim rheoli beth fydd rhywun arall yn ei wneud ar y diwrnod.”

Cefnogir Lewis yn y Brifysgol gan y Rhaglen Perfformiad Uchel sy'n ei helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng ei hyfforddiant amser llawn a gofynion ei gwrs.

"Yn aml byddan nhw’n cael y sgyrsiau anodd gyda thiwtoriaid ar fy rhan.

"Ar yr ochr arall, rydw i wedi bod yn ffodus iawn gyda'r ysgol feddygol. Maen nhw wedi bod yn wych, yn deall y sefyllfa’n iawn. Mae fy nhiwtor, Dr Jeff Allen, wedi bod yn hollol wych ar hyd y ffordd."

Mae wedi bod yn gyfnod heriol i seiclo proffesiynol yn dilyn yr adroddiad cyffuriau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Chwefror 2018. Mae'r adroddiad yn dilyn eu hymchwiliad i ddefnyddio cyffuriau gwella perfformiad mewn chwaraeon ac yn edrych ar y defnydd o Eithriadau Defnydd Therapiwtig (TUEs) ym maes seiclo proffesiynol.

Gellir dyfarnu TUEs i gampwyr sy'n dioddef o gyflyrau meddygol i'w galluogi i gael eu trin â chyffuriau a fyddai fel arall yn cael eu gwahardd o dan reolau atal defnyddio cyffuriau. Cyhuddwyd rhai timau o camddefnyddio'r system TUEs i wella perfformiad.

Fel seiclwr elît a myfyriwr meddygol ail flwyddyn, mae gan Lewis bersbectif unigryw ar TUEs a defnyddio cyffuriau gwella perfformiad. Mae'n egluro’r gwahaniaeth rhwng cyffuriau a ddefnyddir yn benodol i drin salwch a chyffuriau y gellir eu defnyddio i drin salwch, ond sydd hefyd yn cael effeithiau eraill ar berfformiad.

"Mae llawer o'r cyffuriau hyn sy’n cael eu brandio fel cyffuriau asthma — dydyn nhw ddim yn gyffuriau asthma. Cânt eu defnyddio i drin asthma.

"Mae hwnna’n wahaniaeth mawr, oherwydd cyffuriau asthma fel arfer yw pethau fel Ventolin, Salbutamol - y mathau hynny o bronchodilators — maen nhw’n gyffuriau asthma. Maen nhw’n cael eu defnyddio dim ond i drin asthma. Ond nid cyffuriau asthma yw cyffuriau eraill mwy pwerus fel steroidau gwrth-ymfflamychol - maen nhw’n cael eu defnyddio i drin asthma.

"Mewn rhai sefyllfaoedd, gall fod gennych chi ffisigwr meddygol cymwysedig sy'n dweud, 'Beth am i ni roi cynnig ar y cyffur hwn gyda chi’ - ac mae’n sicr yn gallu atal llithro’n ôl, neu wella effeithiau symptomataidd y salwch - ond mae’r rheiny’n aml yn gyffuriau pwerus iawn."

Gall defnyddio'r cyffuriau cryfach hyn effeithio ar berfformiad campwr, gan greu budd sy'n mynd y tu hwnt i anghenion therapiwtig y cyffur a symud i gyfeiriad gwella perfformiad.

Mae rhaid i gyrff llywodraethu sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion campwyr y gallai eu cyflyrau meddygol eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon proffesiynol a'r gallu i fonitro’n effeithiol ddefnydd anghyfreithlon o gyffuriau i wella perfformiad a sicrhau manteision annheg.

Mae Lewis yn esbonio dwy ochr y ddadl.

"Mae'n hawdd i'r rheiny ohonom sydd heb TUEs ddweud, ‘Gwaharddwch nhw - does dim o’u hangen’.”

"Mewn rhai ffyrdd mae hynny’n annheg, oherwydd yn achos y bobl hynny sydd â chyflyrau meddygol gwirioneddol — pobl sydd ag asthma neu arthritis, sy’n methu codi o’r gwely yn y bore, oherwydd eu bod mewn cymaint o boen ac mor analluog oherwydd eu cyflyrau - mae angen meddygol dilys am ymyrraeth ffarmacolegol. Felly mae'n hawdd iddyn nhw ddweud, 'Mae angen inni eu cadw i mewn'."

Y broblem mae Lewis yn ei gweld yw, "os bydd llinell lwyd, bydd rhywrai’n manteisio arni."

"Ydy hynny’n cyrraedd pwynt lle, gwaetha’r modd, os oes gennych chi gyflwr meddygol sy’n eich atal rhag gwneud chwaraeon, ddylai hynny eich atal rhag gwneud chwaraeon? Mae'n ofnadwy ac mae'n anffodus, ond mae pethau anffodus yn digwydd."

"Mae angen rhyw gorff annibynnol sy'n monitro gweinyddu TUEs a sut maen nhw’n cynnal profion i roi diagnosis i gampwyr sydd â chyflyrau meddygol.

"Sut mae mesur hynny, wn i ddim — dim ond ym mlwyddyn dau rydw i ar hyn o bryd, felly gofynnwch i mi ar ôl blwyddyn neu ddwy arall.”

Yng Ngêmau’r Gymanwlad sydd ar droed, sef y trydydd tro i Lewis, bydd yn cystadlu yn rasys y keirin a’r sbrint unigol. Mae ei hyfforddwyr yn gadarnhaol ynghylch ei gyfle o gael lle ar y podiwm.

"Rwy’n fwy cyffrous am hyn na’r ddau dro blaenorol, rwy’n credu. Rydym mewn sefyllfa dda iawn y tro hwn i wneud tipyn o ddifrod."

O ddewis rhwng y ddau ddigwyddiad, mae’n ffafrio’r keirin. Mae’n fater o ddefnyddio’r geriau mawr. Nid dim ond cyflymdra a nerth. Mae’r gwthio, a’r brwydro am safleoedd rhwng y beicwyr yn golygu ei bod yn ras fwy tactegol, ac efallai ei bod hefyd, rywfaint, yn ymwneud â dewrder y beicwyr sy’n barod i wynebu risg damwain i sicrhau’r safle gorau.

"Mae'n wych i fechgyn sy'n gwthio geriau mawr."

"Yn fy ras i, y keirin, gall fod, wel nid yn loteri mewn gwirionedd, achos gallwch chi greu eich lwc eich hun, ond dyw e ddim yn fater o wneud popeth yn gorfforol yn unig. Mae'n fater o’ch rhoi eich hun yn dactegol yn y lle cywir, aros o gwmpas eich pethau, ac yna’r elfen gorfforol sy’n dod olaf, a dyna’r elfen leiaf, fwy na thebyg.

"Gallwch roi eich hun yn y sefyllfa iawn, ond nid y dyn cryfaf sy’n ennill bob amser. Mae'n eithaf ysgogol o'm safbwynt i, oherwydd does dim rhaid mai fi yw’r cyflymaf.”

Mae Lewis ar ei ffordd i Awstralia gyda’i ddyweddi, sydd hefyd yn beicio i Dîm Cymru, Ciara Horne. Mae Ciara, sydd hithau wedi gadael British Cycling i fynd i Beicio Cymru, yn ffisiotherapydd cymwysedig, ac mae hi’n rhannu angerdd Lewis ynghylch meddygaeth. Beth bynnag ddigwydd yn y Gêmau, maen nhw’n bwriadu cymryd gwyliau estynedig wedyn - rhyw fath o gyfnod mis mêl ymlaen llaw, cyn eu priodas ym mis Awst.

Mae Lewis wedi rhentu Harley am ychydig ddyddiau ar ôl seremoni cau’r Gêmau.

"Rydw i’n dwlu ar ddwy olwyn! Mae dwy olwyn bob amser wedi bod yn obsesiwn i mi.”

Ac ar ôl hynny? Nôl i Gymru ar gyfer rhagor o arholiadau.

O ran beicio, dyw Lewis ddim yn siŵr beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig. Mae’n dweud mai’r Gêmau o bosib fydd ei ras olaf, ond dyw e ddim yn edifar am symud o Fanceinion yn ôl i Gymru.

"Roedd gadael un o dimau mwyaf llwyddiannus y byd a mynd i wneud rhywbeth i blesio’ch hunan yn rhoi boddhad mawr.

"O ganlyniad, mae fy seiclo wedi gwella llawer - rwy’n credu oherwydd bod dim ots gennych chi bellach mewn ffordd. Dyw’r ffaith eich bod chi 1000fed o eiliad yn arafach na’ch gorau personol ddim yn eich poeni chi bellach.”

Lewis gyda’i ddyweddi, Ciara Horne, sydd hefyd yn beicio i Dîm Cymru.

Lewis gyda’i ddyweddi, Ciara Horne, sydd hefyd yn beicio i Dîm Cymru.

Rhannu

Twitter 
Facebook 
WhatsApp 
Ebost
LinkedIn 
Reddit

Astudio

Archwiliwch ein rhaglenni israddedig.

Cyfle i gael cefnogaeth fel campwr elît a myfyriwr trwy ein Rhaglen Perfformiad Uchel.