Newid eich dyfais neu rif cyswllt wrth ddefnyddio MFA
Pan fyddwch chi'n newid y ddyfais symudol, rhif cyswllt, porwr neu beiriant a ddefnyddiwyd gennych i sefydlu app Authenticator Microsoft ar gyfer MFA, bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion i sicrhau eich bod yn dal i gael mynediad i'ch cyfrif a'ch apiau.
- Gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau ar y fewnrwyd i sefydlu ap Microsoft Authenticator, gallwch osod eich dyfais newydd
- Bydd angen i chi ddilysu wrth ichi fewngofnodi trwy MFA gan ddefnyddio'ch hen ffôn neu un o'r dulliau wrth gefn ychwanegol y gwnaethoch ei osod o'r blaen
- Yn eich porwr, ewch i https://aka.ms/mfasetup rhowch y ddau ddigid sy'n cael eu harddangos ar eich ffôn i ddileu eich hen ddyfais. Dewch o hyd i'r dewis priodol yn y rhestr a ddarparwyd a dewis dileu. Byddwch yn ymwybodol nad yw'r dewis cywir bob amser yn amlwg ar unwaith.
- Cofiwch wirio/gosod eich dull dilysu diofyn.
Bydd ap Microsoft Authenticator nawr wedi’i sefydlu ar eich dyfais newydd.
Help a chymorth
Cael gwybod sut i ailosod eich dulliau Dilysu Aml-Ffactor (MFA) os nad oes modd i chi ddefnyddio’ch dulliau dilysu gwreiddiol neu eilaidd.