Ewch i’r prif gynnwys

Sut i gymryd rhan

Ymunwch â'ch cydfyfyrwyr a staff ar gyfer Dathliad Rhithwir Graddedigion '21.

Rydym yn croesawu holl fyfyrwyr dosbarth 2020/21 i'ch dathliad rhithwir. Gallwch hefyd wahodd eich ffrindiau a'ch teulu i ymuno â chi i ddathlu'ch cyflawniad. Os ydych chi'n fyfyriwr cydanrhydedd, ymunwch ag un neu ddau o ddigwyddiadau dathlu eich ysgol.

Eleni rydym yn gweithio gyda First Sight Media Ltd sef ein partneriaid i gyflwyno'ch Dathliad Rhithwir Graddedigion '21. Bydd digwyddiadau eleni yn cynnwys enwi’r holl fyfyrwyr sy'n cymryd rhan. Fodd bynnag, ni fydd dyfarniadau unigol yn cael eu darllen allan.

Sut i gymryd rhan

I gymryd rhan rhaid i chi:

  1. Cwblhau’r dasg Graddio SIMS i'n hysbysu o'ch dymuniad i gymryd rhan erbyn diwedd Mehefin 2021.

Dydd Mercher, 30 Mehefin, oedd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r dasg hon. Os oes angen i chi gysylltu â ni, ebostiwch registrysupport@caerdydd.ac.uk

  1. Ym mis Gorffennaf, byddwch yn derbyn gwahoddiad gennym i gofrestru gyda Zoom. Cwblhewch y cofrestriad cyn gynted â phosibl.
  2. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom ac mae angen i chi gofrestru o leiaf 24 awr cyn y digwyddiad gan ddefnyddio'ch cyfeiriad ebost caerdydd.ac.uk.
  3. Ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn ebost i ymuno â'r digwyddiad a chôd mynediad.
  4. Lawrlwythwch Zoom ar ddyfais addas er mwyn i chi allu cymryd rhan.
  5. Byddwch yn barod i gymryd rhan yn eich dathliad rhithwir 30 munud cyn i'r digwyddiad ddechrau.

Os oes gennych deulu a ffrindiau yn ymuno â chi ar gyfer y dathliadau, nid oes angen iddynt fod wedi cofrestru gyda Zoom. Dim ond chi a'ch cydfyfyrwyr sy’n gorfod gwneud hyn.

Gwyliwch fideo sy’n cynnwys sut i ymuno, beth i'w ddisgwyl cyn ac ar y diwrnod a sut i fanteisio i’r eithaf ar Zoom.

Dathliadau Rhithwir Graddedigion 2021

Bydd pawb sy'n dymuno bod yn rhan o ddathliad rhithwir eu Hysgol wedi cael ebost sy’n cynnwys manylion cofrestru â Zoom a chyfarwyddiadau ymuno. Sicrhewch eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl cyn y digwyddiad.

Gall teulu, ffrindiau a chefnogwyr wylio'r dathliadau hyn ar YouTube a Weibo a gweld negeseuon cefnogwyr ar Flipgrid.

Dathliadau Rhithwir Graddedigion 2021

Dyddiad ffrydio
Pensaernïaeth10:00 Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021
Biowyddorau *110:00Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021
Biowyddorau *212:00Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021
Busnes *110:00 Dydd Iau 29 Gorffennaf 2021
Busnes *212:00Dydd Iau 29 Gorffennaf 2021
Busnes *314:00Dydd Iau 29 Gorffennaf 2021
Busnes *416:00Dydd Iau 29 Gorffennaf 2021
Busnes *518:00Dydd Iau 29 Gorffennaf 2021
Cemeg18:00 Dydd Llun 2 Awst 2021
Cyfrifiadureg a Gwybodeg14:00Dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021
Deintyddiaeth 12:00Dydd Mawrth 3 Awst 2021
Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr10:00Dydd Mawrth 3 Awst 2021
Peirianneg *110:00Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2021
Peirianneg *212:00Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2021
Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth16:00
Dydd Mawrth 3 Awst 2021
Daearyddiaeth a Chynllunio12:00Dydd Mercher 4 Awst 2021
Gwyddorau Gofal Iechyd *116:00Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2021
Gwyddorau Gofal Iechyd *218:00Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2021
Hanes, Archaeoleg a Chrefydd18:00Dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant16:00Dydd Mercher 4 Awst 2021
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth *114:00Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth *216:00Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth *318:00Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021
Mathemateg12:00Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021
Meddygaeth (MBBCh)10:00Dydd Sadwrn 17 Gorffennaf 2021
Meddygaeth (Ôl-raddedig a addysgir a Ymchwil ôl-raddedig)12:00Dydd Llun 2 Awst 2021
Meddygaeth (Ôl-raddedig a addysgir, Ffarmacoleg feddygol (BSc) a graddau cynhwysol)14:00Dydd Llun 2 Awst 2021
Ieithoedd Modern14:00Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021
Cerddoriaeth10:00Dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021
Optometreg a Gwyddorau’r Golwg14:00Dydd Mercher 4 Awst 2021
Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol12:00Dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021
Ffiseg a Seryddiaeth18:00Dydd Mercher 4 Awst 2021
Seicoleg10:00Dydd Mercher 4 Awst 2021
Gwyddorau Cymdeithasol16:00 Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021
Cymraeg16:00Dydd Llun 2 Awst 2021

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd am sut y prosesir data myfyrwyr at ddibenion trefnu a chyflwyno Dathliadau Rhithwir Graddedigion '21 Prifysgol Caerdydd.