Fe enillon ni yng Nghystadlaethau TUCO 2025!

Buddugoliaeth ddwbl i Fwyd Prifysgol Caerdydd
Llongyfarchiadau i'n tîm rhagorol am ddangos i'r wlad beth y gall Gwasanaeth Arlwyo’r Brifysgol ei gyflawni!
Gwnaeth ein barista talentog Imma a’n cogydd arloesol Angeline ateb heriau TUCO am yr ail flwyddyn yn olynol, gan ddod â’r tlysau ‘Gorau yn y Dosbarth’ adref ar gyfer yr Her Sgiliau Barista a’r Her Figan eleni!
Gyda chystadleuwyr o brifysgolion ledled y DU, mae'r safon bob amser yn uchel iawn ac allwn ni ddim bod yn fwy balch o'n tîm am gael eu cydnabod am eu sgiliau anhygoel a'u hangerdd.
O nerfau munud ola’ a pharatoi’n hwyr yn y nos i felysrwydd y fuddugoliaeth, gadewch i ni glywed beth oedd gan ein henillwyr i'w ddweud am eu profiad.
Coffi Imma a ysbrydolwyd gan anwyliaid
“Ar ôl y llynedd, doeddwn i ddim yn bwriadu cymryd rhan yn y gystadleuaeth eto.
Rwy'n hunan-feirniadol iawn ac yn eithaf swil - yn enwedig wrth siarad yn gyhoeddus. Ond ar y diwrnod ola’ i ymgeisio, meddyliais am fy nhaith i Golombia. Gwnaeth gweld sut mae coffi’n tyfu a chwrdd â'r bobl y tu ôl i’r broses newid sut rwy'n gweld pethau. Gwnaeth y syniad hwnnw, ynghyd â'r anogaeth a'r esiampl a osodwyd gan y tîm rheoli, fy ngwthio i roi cynnig arall arni.”

“Roedd fy niod llofnod wedi'i hysbrydoli gan goffi o fan geni fy ngŵr - wedi'i gwneud gyda chroen lemwn, amareto a hufen. Newidiais yr amareto a'r hufen am fenyn almon i roi ychydig mwy o ddyfnder i’r ddiod. Mae'n ffordd fach o ddathlu'r bobl a'r lleoedd sydd wedi aros yn fy nghalon.
Er fy mod i eisoes yn gwybod beth i'w ddisgwyl, cymerais amser i ymarfer, ac roedd gallu defnyddio coffi o'r un cwmni cydweithredol yn drobwynt go iawn. Pan rydych chi'n siarad am rywbeth rydych chi wir yn credu ynddo, mae'n dod yn llawer haws (er na wnaeth hynny fy atal rhag aros i fyny drwy'r nos!)”

“Derbyniais gymaint o negeseuon caredig gan y staff a newidiodd y ffordd roeddwn i'n teimlo am y gystadleuaeth. Gwnaeth eu cefnogaeth fy helpu i gadw fy mhwyll ac aros yn hyderus, a diolch iddyn nhw mae’r fuddugoliaeth.
Ond beth sydd fwyaf pwysig i mi yw fy mod i wedi gallu rhannu'r llawenydd hwnnw gyda phobl eraill, gyda'r bobl a arhosodd yn hwyr ddydd Sadwrn i’m helpu a'm hannog, y rhai a anfonodd negeseuon yn dymuno lwc dda i mi y noson gynt, a hyd yn oed y rhai a gododd yn gynnar heb frecwast jyst i’m cefnogi i!”
‘Textures of the Earth’ Angeline
Yn yr Her Figan, syfrdanodd y cogydd Angeline y beirniaid gyda phryd o blanhigion a oedd yn cynnwys pîn-afal wedi'i farineiddio mewn betys, iogwrt cnau coco a mousse leim, betys aur, ffacbys matcha wedi’u tostio, tuile lemwn a sesame du, jél mafon yuzu, a mintys micro. Pryd sy’n ail-ddiffinio ystyr moethusrwydd gyda chydbwysedd cyffrous o flasau melys, daearol, a ffres.

“Roedd cymryd rhan yng Nghystadlaethau TUCO unwaith eto eleni yn her bersonol – cyfle i achub cam. Ar ôl methu ag ennill lle y llynedd, roeddwn i eisiau gweld pa mor bell allwn i wthio ffiniau bwyd figan.
Y tro hwn, nid perffeithrwydd oedd y nod, ond gwthio fy ffiniau, cadw’n bwyllog dan bwysau, a chreu rhywbeth a oedd yn adlewyrchu fy steil a’m twf fel cogydd.

Roedd yn wych cystadlu ochr yn ochr â chymaint o gogyddion talentog – roedd y safon yn anhygoel o uchel, ac roedd bod yn rhan o'r amgylchedd hwnnw’n ysbrydoledig ac emosiynol. Er gwaethaf ambell her ar y diwrnod (gan gynnwys dwylo sigledig iawn a tuiles yn torri!), ymatebais yn gyflym ac roeddwn i’n falch o gyflwyno plât a oedd yn arddangos blasau beiddgar, maeth, a chreadigrwydd.

Roedd yn brofiad bythgofiadwy – dwys, cyffrous, a llawn dysgu. Mae gadael gyda’r gwobrau Arian a Gorau yn y Dosbarth yn gwneud y cyfan yn fwy swreal, ac rydw i mor ddiolchgar am y cyfle i gystadlu, gwella, a pharhau i dyfu yn y grefft hon rwy'n ei charu.