Ewch i’r prif gynnwys

Ffynhonnau dŵr ar y campws

Gweithio gyda Refill Wales i leihau’r defnydd o blastig untro

Mae'n hawdd yfed digon o ddŵr ar y campws nawr gyda'n gorsafoedd ail-lenwi. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ailddefnyddio eich poteli dŵr, ac mae hyn yn bosibl diolch i Refill Wales.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:

  1. Lawrlwytho’r ap ail-lenwi
  2. Creu cyfrif
  3. Rhoi caniatâd i’r ap ddefnyddio'ch lleoliad i weld y gorsafoedd ail-lenwi agosaf atoch chi

Felly p’un a ydych chi eisoes yn ein caffis neu yn cerdded heibio, mae gennyn ni fannau ail-lenwi ar draws y Brifysgol, i wneud yn siŵr eich bod yn gallu dewis ailddefnyddio’ch poteli.

A wyddoch chi? Disgwylir i gynhyrchiant plastig byd-eang ddyblu dros yr 20 mlynedd nesaf, ond gyda 400,000 o lawrlwythiadau ap, mae Refill eisoes wedi helpu pobl i arbed can miliwn o ddarnau o blastig hyd yn hyn!

Ond mae angen eich cefnogaeth chi i hyn ddigwydd - ail-lenwch eich potel ddŵr amlddefnydd i wneud eich rhan i frwydro yn erbyn y broblem blastig. Byddwch chi’n arbed arian hefyd.

Gweler camau syml i fod yn fwy cynaliadwy ar y Campws ac oddi arno.

Latest articles

Fe enillon ni yng Nghystadlaethau TUCO 2025!

Buddugoliaeth ddwbl i Fwyd Prifysgol Caerdydd

Cyflwyno ein caffi newydd, Paned yn Sbarc

Y lle perffaith i gwrdd, cydweithio a bwyta bwyd ffres

Yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!

Sut rydych chi wedi helpu i sicrhau newid ar y campws

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.