Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i nôl gwaddodion coffi ar gyfer eich gardd

Gwaddodion coffi yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sy’n hoffi garddio

Os ydych chi'n hoff o goffi ac yn arddiwr o fri, mae menter ‘Gwaddodion i’ch Gardd’ yn berffaith i chi!

Gallwch chi gael gwaddodion coffi yn ein caffis, i’w rhoi yn eich gerddi, mewn blychau ffenestri a photiau planhigion tŷ.

Does dim angen gwastraffu rhywbeth sydd mor ddefnyddiol!

Pam gwaddodion coffi?

Maen nhw'n ddefnyddiol tu hwnt yn yr ardd. Maen nhw’n llawn nitrogen, felly’n ddelfrydol ar gyfer compostio ac i roi maeth i’ch pridd er mwyn helpu’ch planhigion i ffynnu.

Dyma rai o'r ffyrdd gorau y gallwch chi eu defnyddio:

  1. Gwrteithio eich planhigion: cymysgwch y gwaddodion yn y pridd neu gompost i ychwanegu maetholion gwerthfawr i gadw'ch planhigion yn hapus ac yn iach.
  2. Pla-laddwr naturiol: Mae arogl cryf coffi yn cadw llawer o drychfilod i ffwrdd. Mae gwasgaru cylch ysgafn o waddodion o amgylch eich planhigion yn ddigon i’w cadw hyd braich.
  3. Creu canhwyllau coffi: ydych chi’n hoffi arogl coffi? Defnyddiwch y gwaddodion coffi i wneud eich canhwyllau eich hun. Dyma’r cyfarwyddiadau.
  4. Sgwrio’r croen: mae gwead gwaddodion coffi yn diblisgio croen yn dda. Y cwbl sy'n rhaid i chi ei wneud yw ei gymysgu ag ychydig o ddŵr neu olew cnau coco.
  5. Defnyddiwch goffi i niwtraleiddio arogleuon : rhowch bowlen o waddodion coffi yn eich oergell neu gwpwrdd i niwtraleiddio arogleuon.

Cadwch olwg yn ein caffis am focsys wedi'u llenwi â gwaddodion coffi sy’n rhad ac am ddim i’w cymryd.

Latest articles

Fe enillon ni yng Nghystadlaethau TUCO 2025!

Buddugoliaeth ddwbl i Fwyd Prifysgol Caerdydd

Cyflwyno ein caffi newydd, Paned yn Sbarc

Y lle perffaith i gwrdd, cydweithio a bwyta bwyd ffres

Yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!

Sut rydych chi wedi helpu i sicrhau newid ar y campws

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.