Cynlluniau prydau bwyd CUFoods
Ymunwch â Chlwb CUFoods!

Cewch fwyta’n ddiffwdan ar y campws gyda chynlluniau prydau bwyd i dynnu dŵr i’ch dannedd, a chael manteision arbennig.
Mae’n cynnig ffordd hyblyg o fwyta ac yfed ar y campws drwy lwytho symiau wythnosol o arian fesul cyfnod. Mae hefyd yn eich galluogi i fanteisio ar ostyngiadau ychwanegol a gwobrau unigryw. Mae’n galluogi aelodau Clwb CUFoods i arbed hyd at 30% ar fwyd a diod ar draws CUFoods.
Dewiswch o 3 chynllun bwyd sy’n cynnig gwahanol ostyngiadau, pwyntiau teyrngarwch a llawer mwy i fynd a’ch bryd.
Cynlluniau a gostyngiadau
Cynllun teyrngarwch | Cynllun A | Cynllun B | Cynllun C | |
---|---|---|---|---|
Credyd wythnosol | £0 | £30 | £40 | £55 |
Gostyngiad ar brydau plât mewn bwytai dethol | 20% | 25% | 30% | |
Nifer y prydau poeth fesul wythnos yn fras | 6-7 | 10-11 | 17-18 | |
Gostyngiad o 10% oddi ar ddiodydd poeth | ✔ | Ie | ✔ | |
Gostyngiad o 5% oddi ar gynhyrchion bachu a bwyta, gan gynnwys rholiau brecwast, rholiau cynnig cinio, paninis a bocsys poeth | ✔ | Ie | ✔ | |
Bonws cynllun pwyntiau teyrngarwch – pwyntiau am bob £1 a wariwyd | 4 pwynt am £1 | 4 pwynt am £1 | 6 phwynt am £1 | 8 pwynt am £1 |
Prynu 9 diod boeth a chael y 10fed am ddim | ✔ | Ie | Ie | ✔ |
Prynu 9 smwddi/coffi iâ a chael y 10fed am ddim | ✔ | Ie | Ie | ✔ |
Prynu 9 darn o ffrwyth ffres a chael y 10fed am ddim | ✔ | Ie | Ie | ✔ |
Prynu 9 panini a chael y 10fed am ddim | ✔ | |||
Prynu 9 rhôl CUFoods a chael y 10fed un am ddim | ✔ | ✔ | ||
Cynigion arbennig i aelodau Clwb CUFoods | ✔ | ✔ |
Manteision Clwb CUFoods
Mae i ddod yn aelod o Glwb CUFoods nifer o fanteision:
- ffordd gyfleus o ddefnyddio caffis a bwytai CUFoods
- gostyngiad o hyd at 30% oddi ar fwyd a diod ar draws CUFoods
- ar gael mewn 8 o wahanol fwytai a chaffis
- ar gael yn faniau bwyd stryd Fan Hapus
- y gallu i fwyta ble bynnag a phryd bynnag sy'n gyfleus i chi, 5 diwrnod yr wythnos
- bwyd a diod o safon
- opsiwn perffaith os nad ydych chi'n hoffi coginio – neu os nad ydych chi’n teimlo fel gwneud hynny
- y gallu i fwyta gyda ffrindiau a bod yn rhan o gymuned ein campws
- opsiwn i’ch helpu i gyllidebu ac osgoi gwario’n ddiangen
Lleoliadau Clwb CUFoods
Gall aelodau Clwb CUFoods fwynhau manteision unigryw yn y bwytai a'r caffis canlynol:
- Caffi’r Biowyddorau (Adeilad Syr Martin Evans)
- Caffi Green Shoots (Y Prif Adeilad)
- Caffi Morgannwg (Adeilad Morgannwg)
- Lolfa IV (Parc y Mynydd Bychan)
- Caffi John Percival (Adeilad John Percival)
- Bwyty Julian Hodge (Adeilad Julian Hodge)
- Bwyty Trevithick (Adeiladau’r Frenhines/Trevithick)
- Paned yn Sbarc (Sbarc)
- Fan Hapus (uned fwyd symudol dros dro – ar draws y campws)
Costau Clwb CUFoods
I ddod yn aelod o Glwb CUFoods, dewiswch y cynllun a fydd yn llwytho'r swm sydd ei angen arnoch chi bob wythnos i fwyta ar y campws.
Mae symiau wythnosol yn cael eu hychwanegu at gyfrifon aelodau Clwb CUFoods bob dydd Sul, ac maen nhw’n ddilys ar gyfer yr wythnos honno.
Blwyddyn academaidd: 2024/25
Dechrau | Gorffen | Nifer yr wythnosau | Cynllun A £30 yr wythnos | Cynllun B £40 yr wythnos | Cynllun C £55 yr wythnos |
---|---|---|---|---|---|
29.09.25 | 12.06.26 | 31 - Byddwch chi’n talu am 28 | £930 | £1,240 | £1,705 |
29.09.25 | 12.12.25 | 11 | £330 | £440 | £605 |
05.01.26 | 23.01.26 | 3 | £90 | £120 | £165 |
26.01.26 | 20.03.26 | 6 | £240 | £320 | £440 |
13.04.26 | 12.06.26 | 9 | £270 | £360 | £495 |
Defnyddio Clwb CUFoods
Yn aelod o Glwb CUFoods, gallwch chi wario eich lwfans wythnosol fel y dymunwch chi a phryd bynnag y dymunwch chi, drwy gydol yr wythnos. Unwaith y byddwch chi wedi gwario pob ceiniog o’r swm wythnosol, ni fydd gennych chi ragor o arian nes bod swm yr wythnos ganlynol wedi’i ychwanegu at eich cyfrif. Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig bob dydd Sul (yn ystod cyfnod dilys y cynllun).
Nid oes modd ad-dalu unrhyw arian sydd heb ei wario o’r wythnos flaenorol, na'i gario drosodd i'r wythnos ganlynol.
Os byddwch chi wedi gwario eich swm wythnosol, byddwch chi’n gallu manteisio ar ostyngiadau ychwanegol unigryw o hyd yn ystod dyddiadau dilys y cynllun, a hynny drwy ddefnyddio eich ap teyrngarwch a thalu'r balans gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd, Google Pay, Apple Pay ac ati.
Nid yw caffis a bwytai CUFoods yn derbyn arian papur a darnau arian.
Mae cynllun Clwb CUFoods yn cael ei ychwanegu’n awtomatig at gyfrif Bwyd Prifysgol Caerdydd ei aelodau. Wrth brynu, sganiwch gôd QR ap teyrngarwch Bwyd Prifysgol Caerdydd wrth y til. Bydd y gostyngiadau a'r gwobrau unigryw yn cael eu hychwanegu lle bo’n berthnasol, a chaiff y taliad ei gymryd o'r arian sydd ar gael.
Cofiwch mai yn ystod cyfnodau penodol y cynllun y bydd cynlluniau Clwb CUFoods yn gweithio. Gwerthir pob cyfnod yn unol â'r dyddiadau a nodir isod.
Ymaelodwch
Unwaith y byddwch chi wedi dewis cynllun, mae'n hawdd dod yn aelod o Glwb CUFoods:
- Lawrlwythwch ap teyrngarwch Bwyd Prifysgol Caerdydd yn rhad ac am ddim o App Store.
- Mewngofnodwch i'r ap gan ddefnyddio manylion eich cyfrif CUFoods.
- Wrth brynu, sganiwch y côd QR wrth y til, a bydd y gostyngiadau a’r arian sydd ar gael yn cael eu defnyddio.
Ymlaciwch drwy greu cronfa ymlaen llaw i brynu bwyd a diod ar y campws, a gwariwch pryd bynnag sy'n gyfleus i chi.