Dewch i Paned yn Sbarc
Ar gyfer cysylltiad cymdeithasol, coffi moesegol a bwyd artisan

Caffi bywiog yn adeilad sbarc|spark ar Heol Maendy yw Paned yn Sbarc. Mae’n ceisio meithrin cymuned, gwaith ar y cyd ac arloesedd. Y man eistedd golau a chynllun agored yw’r lle perffaith i chi gyfarfod, astudio, cymdeithasu neu gymryd seibiant o’ch gwaith neu eich astudiaethau.
Mae ein bwydlen yn cynnwys coffi barista ffres, smwddis a choffi iâ blasus, teisennau crwst a detholiad o paninis a brechdanau artisan cartref. Rydyn ni hefyd yn cynnig saladau deli ffres ac opsiynau protein, bwydlen ddyddiol o brydau poeth ac amrywiaeth eang o gacennau, byrbrydau a diodydd oer, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb.
Mae 10% o gost pob bag o goffi sy’n cael ei brynu a’i werthu yn Paned yn Sbarc yn cael ei roi i elusennau digartrefedd lleol yng Nghaerdydd. Mae hyn yn sicrhau bod eich dewisiadau coffi nid yn unig yn cefnogi masnach deg ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol yng Nghaerdydd. Pan fyddwch chi'n prynu coffi Paned yn Sbarc, byddwch chi’n cymryd rhan yn y genhadaeth i roi diwedd ar ddigartrefedd. Byddwch chi’n ariannu prydau, swyddi a chartrefi i’r rhai sydd mewn angen, un baned ar y tro.
Er mwyn cefnogi Polisi Cynaliadwyedd Prifysgol Caerdydd, rydyn ni bellach yn gweini ein diodydd poeth yn eich cwpan amldro.
Os byddwch chi’n anghofio eich cwpan amldro, peidiwch â phoeni. Mae gennyn ni gwpanau untro am 20c.
Bwydlen Paned yn Sbarc
Amserau agor a lleoliad
Dydd Llun - Dydd Gwener | 08:30 - 15:00 |
---|---|
Dydd Sadwrn a Dydd Sul | Ar gau |
Am gael rhagor o wybodaeth?
Dilynwch ni ar Instagram @cufoods