Ewch i’r prif gynnwys

Galwad am bapurau

Nod SIOE yw cynnig awyrgylch anffurfiol i drafod ymchwil ym maes opto-electroneg lled-ddargludyddion. Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 4-6 Ebrill 2023, a chynhelir cinio'r gynhadledd yng Nghastell Caerdydd ar 5 Ebrill.

Gwahoddir cyfraniadau ar y pynciau canlynol:

  • tyfu a chreu, gan gynnwys deunyddiau a dyfeisiau dotiau cwantwm.
  • celloedd solar / ffotofoltäeg
  • opto-electroneg is-goch canol lled-ddargludyddion
  • effeithiau micro-geudodau a bylchau bandiau ffotonig ym maes opto-electroneg lled-ddargludyddion
  • deunyddiau a dyfeisiau galiwm nitrad
  • theori ac efelychiadau rhifyddol ym maes opto-electroneg lled-ddargludyddion.
  • synwyryddion optegol, modyliadau, chwyddwyr a switsys
  • cylchedau integredig cwbl optegol ac opto-electronig

Gofynnir am gyflwyniadau ar ffurf papurau llafar (15 munud gan gynnwys trafodaeth) a phapurau poster.

Crynodebau

Dylai crynodebau fod yn ddalen sengl o A4, wedi'u hanfon ar ffurf dogfen PDF neu Word. Cofiwch gynnwys rhestr o awduron, cysylltiadau ac ebost cyfatebol ar gyfer yr awdur.

Anfonwch eich crynodeb drwy ebost at Kate James: future-cshub@caerdydd.ac.uk

Tudalen siaradwyr

Rhestr i ddilyn o’r siaradwyr sydd wedi’u gwahodd.

Dyddiad cau

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 6 Chwefror 2023.