Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER)
Mae CITER yn ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes trwsio, adfywio ac adsefydlu meinwe, gan ganolbwyntio ar ymchwil ryngddisgyblaethol, addysg ac ymarfer clinigol.
Rydym wedi cynnig y rhaglen MSc hon ers 2006. Bwriedir iddi fod ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau profi heriau ysgogol ymchwil rhyngwyneb ym maes peirianneg a thrwsio meinweoedd.
Mae ein hymchwil wedi ei rhannu’n dri grŵp - gwyddoniaeth bôn-gelloedd, peirianneg a thrwsio meinweoedd, a throsi clefydau.
Porwch drwy ein cyfeirlyfr o arbenigwyr ym maes peirianneg a thrwsio meinwe.
Newyddion diweddaraf
Rydym yn cymryd rhan mewn nifer cynyddol o ddigwyddiadau allgymorth bob blwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus, ymweliadau CITER ag ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â digwyddiadau Prifysgol Caerdydd.