Ewch i’r prif gynnwys

Cwmpas a chylch gorchwyl

Mae ein cylch gorchwyl yn amrywio o ymchwil gymharol sylfaenol a damcaniaethol, hyd at weithgareddau cyfnewid ymchwil a gwybodaeth sydd wedi’u cymhwyso i raddau helaeth.

Mae staff ac ymchwilwyr CAMSAC yn cydweithio’n rheolaidd â sefydliadau academaidd eraill a thrawstoriad eang o’r sector gweithgynhyrchu. Mae’r rhain yn cynnwys Mentrau Bach a Chanolig yn ogystal â chwmnïau amlwladol mawr, cyrff proffesiynol a llunwyr polisi.

Mae ein gweithgareddau yn cwmpasu’r meysydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys rhaglen gefnogi o bwys ar gyfer busnesau Cymru a phartneriaethau ymchwil hirhoedlog gydag academyddion a chwmnïau ar draws y byd.

Our technology

At ddibenion ymarferol rydym, yn fras, yn dilyn y diffiniad canlynol er mwyn disgrifio gweithgynhyrchu:

‘Cymhwyso gwybodaeth ac arbenigedd dechnegol o’r radd flaenaf er mwyn creu cynnyrch, prosesau cynhyrchu a gwasanaethau cysylltiedig, sydd â photensial cryf i greu twf cynaliadwy a gwerth economaidd uchel yn y DU. Gall gweithgareddau amrywio o Ymchwil a Datblygu ar un pen i ailgylchu ar y pen arall.’

Ffynhonnell: Bwrdd Strategaeth Technoleg, 2012 (Innovate UK, bellach) – A Landscape for the future of high value manufacturing in the UK

Mae’r sector gweithgynhyrchu yn parhau i dyfu o fewn y DU, gyda Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth yn ddiweddar yn amlygu gweithgynhyrchu fel sector sydd i’w flaenoriaethu.

‘Mae sector gweithgynhyrchu’r DU yn cyfrannu’n sylweddol i economi’r DU (Gwerth Ychwanegol Gros o £177 biliwn yn 2016). Gweithgynhyrchu sydd i’w gyfrif am dros 50 y cant o allforion y DU 204 a dros 70 y cant o Ymchwil a Datblygu 205. Mae cynhyrchiant y sector wedi cynyddu bedair gwaith yn gynt na gweddill yr economi.’

Ffynhonnell: Llywodraeth EM, 2017 – Industrial Strategy: Building a Britain fit for the future

Mae staff CAMSAC yn gweithio ar y cyd ag arweinwyr diwydiant i hyrwyddo datblygiad ymchwil ar y cyd ymhellach, er mwyn ysgogi twf ac effaith.