Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Ein nod yw paratoi’r ffordd ar gyfer cenhedlaeth newydd o adeiladau digidol sydd â gwydnwch oes gyfan ac sy’n gallu addasu i’w hamgylchedd, eu defnydd a’r sawl sy’n eu meddiannu.

Bydd hyn yn bosibl drwy ddefnyddio deunyddiau a chynhyrchion clyfar, dylunio a systemau gweithgynhyrchu integredig, ac agweddau oes gyfan.

Gweld diweddariad o brosiect Knoholem

Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio sut i sicrhau’r gwydnwch gorau, ynghyd â chynaladwyedd ac addasrwydd parhaus i’r diben ar gyfer ein stoc adeiladau cyfredol a sut i gyflenwi adeiladau newydd neu wedi’u haddasu sy’n canolbwyntio ar bobl ac yn ateb gofynion oes gyfan ac sy’n hyblyg ac yn wydn.

Dylai adeiladau allu bod yn ymwybodol o’r cyd-destun, hynny yw addasu i anghenion yr amgylchedd a’r defnyddiwr, megis ymddygiad a phatrymau byw, ac felly addasu i newid. Mae angen ailfeddwl y cysyniad o adeilad a symud o elfennau ‘gwerth isel’ traddodiadol at ddeunyddiau ehangach sy’n ymwybodol o TG a chynhyrchion sy’n cynnwys gwahanol ffurfiau o ddeallusrwydd.

Cydnabyddiaeth a gwobrau

Mae arweinydd ein Canolfan yr Athro Yacine Rezgui yn bensaer cymwysedig ac yn ddeiliad Cadair BRE mewn Systemau Adeiladu a Gwybodeg. Mae ein hymchwilwyr yn aelodau ac yn gadeiryddion amrywiol gyrff academaidd a pheirianneg fel:

Rydym ni wedi ennill gwobrau gan gynnwys Dyfarniad y Clwb Literati am Ragoriaeth a Gwobr Donald Julius Groen Gymdeithas y Peirianwyr Mecanyddol.