Ewch i’r prif gynnwys

Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002, Hon 2023) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno â grŵp dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy’n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir â nhw yn llysoedd y Goron ac Apêl, ac mae’n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.

Ar ôl gadael yr ysgol heb gymwysterau Safon Uwch, dechreuodd taith gyfreithiol Nneka gyda chwrs Mynediad at Astudiaethau Cyfreithiol yng Ngholeg Tower Hamlets. Yn dilyn y cwrs Mynediad, dewisodd Nneka Brifysgol Caerdydd oherwydd cyfeillgarwch y bobl y cyfarfu â nhw yno a chostau byw isel. Pan oedd hanner ffordd drwy ei chwrs, ganwyd merch i Nneka ond parhaodd gyda’i hastudiaethau, gan sylweddoli bod dilyn gyrfa wrth y Bar yn opsiwn realistig iddi hi. Yn dilyn cwblhau’r Cwrs Galwedigaethol y Bar (BVC), sicrhaodd Nneka dymor prawf yn 5 King’s Bench Walk ac mae wedi bod yn ymarfer fel Bargyfreithiwr trosedd ers hynny.

Dywedodd: “Mae dod yn KC yn gyflawniad enfawr ynddo’i hun. Roeddwn i’n deall yn iawn y byddai fy mhenodiad yn bwysig yn nhermau gwelededd gan fod diffyg amrywiaeth dybryd yn enwedig o ran menywod du mewn rolau arweiniol wrth y Bar. Byddwn i’n gobeithio y bydd eraill o gefndiroedd amrywiol neu sydd wedi wynebu rhwystrau penodol yn gweld fy llwyddiant ac yn cydnabod nid yn unig bod y Bar yn broffesiwn cynhwysol ond yn un lle gallan nhw ragori.”

Roedd Nneka eisiau rhannu ei phrofiad a’i mewnwelediad, a dychwelodd i roi sgwrs gyrfaoedd i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Gwyliwch: Nneka Akudolu KC - yn rhoi cyflwyniad gyrfaol i Ysgol y Gyfraith Caerdydd

“Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngofyn i roi sgwrs gyrfaoedd, gan fod Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn rhan mor annatod o fy nhaith gyfreithiol. Roedd y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais yno yn hanfodol o ran cael yr hyder i wneud cais am gyfnod prawf.

“Rwy’n gobeithio o fy sgwrs bod y myfyrwyr yn sylweddoli pa mor gyraeddadwy yw gyrfa yn y Bar. Doeddwn i ddim yn arbennig o academaidd yn tyfu i fyny, ac ni feddyliais erioed y gallwn ennill y math o gymwysterau sydd eu hangen i ymuno â’r proffesiwn yr wyf bellach wedi bod yn rhan ohono ers 20 mlynedd. Rwy’n gobeithio bod y myfyrwyr yn cydnabod nad oes unrhyw beth yn cymryd lle gwaith caled, ac er eu bod efallai’n profi adfyd a chael eu gwrthod ar hyd y ffordd, mae bod yn benderfynol ac yn ymrwymedig yn hanfodol i lwyddo.”

Yn 2023, gwnaed Nneka yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ei haraith i’r dosbarth graddio rhannodd ei stori, ei hatgofion o Gaerdydd, a’i chyngor i Raddedigion 2023.

Gwyliwch: Nneka Akudolu KC - Graddio 2023 | Graduation 2023

Rhagor gan gylchgrawn Cyswllt Caerdydd

Cyswllt Caerdydd 2023

Yn y rhifyn Haf 2023 hwn o’ch cylchgrawn cynfyfyrwyr a ffrindiau, byddwch yn clywed sut mae ein hymchwilwyr presennol yn hyrwyddo ein dealltwriaeth o gyflyrau megis arthritis, seicosau fel sgitsoffrenia, a sut mae ein cyn-fyfyrwyr talentog yn gwneud gwahaniaeth i’r byd o’u cwmpas.

A man is rubbing the knuckles of his right hand.

Gofyn i’r arbenigwr: Arthritis

Mae tua 10 miliwn o bobl yn y DU yn cael trafferth gydag arthritis a all effeithio ar symudedd, ansawdd bywyd ac achosi poen cronig. Mae'r Athro Simon Jones, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn yr Ysgol Meddygaeth, yn esbonio beth sy'n achosi arthritis a'r ymchwil arloesol sy'n digwydd yng Nghaerdydd.

Javi, wearing red doctoral robes, sits on a Cardiff street reading a letter

Gwaddol Javi

Daeth Javi Uceda Fernandez (PhD 2018) i Brifysgol Caerdydd yn haf 2013 ar leoliad i labordy yr Athro Simon Jones yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau. Roedd ei egni anhygoel, positifrwydd cyson, a’i agwedd ddisglair yn golygu ei fod yn aelod hynod boblogaidd o’r sefydliad.