Ewch i’r prif gynnwys

2017 Cymrodyr er Anrhydedd

Mae rheolwr pêl droed, ymgyrchydd dros gydraddoldeb, rheolwr gyfarwyddwr cwmni peiriannau jet byd-eang blaenllaw, a sylfaenydd MoneySavingExpert.com ymysg y rhai a gafodd eu hanrhydeddu yn ein seremonïau graddio blynyddol yn 2017.

Chris Coleman

Cafodd Chris Coleman yrfa fel peldroediwr proffesiynol cyn dod yn Rheolwr Tîm Cymru ym mis Ionawr 2012. Arweiniodd Cymru i rownd gynderfynol cystadleuaeth EURO 2016 UEFA, y twrnamaint pêl-droed mawr cyntaf i'r genedl ei gyrraedd ers 1958, gan gyflawni safle uchaf Cymru erioed yn Rhestr Detholion y Byd FIFA.

Chris

Dr Martin Faulkes

Sefydlodd Dr Martin Faulkes ei Ymddiriedolaeth addysgol yn 1998, â'r nod o ysbrydoli pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a mathemateg. Sefydlodd Brosiect Telesgop Faulkes ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n rhaglen wyddonol ryngwladol o bwys. Ef yw Cadeirydd VolitionRx Limited, sy'n datblygu profion gwaed syml i sicrhau diagnosis o amrywiaeth o ganserau.

Professor Faulkes

Cerys Furlong BSc MSc

Cerys Furlong BSc MSc yw Prif Weithredwr Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb rhywedd. Mae Cerys yn ymgyrchydd brwd dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac mae wedi galw am well cynrychiolaeth i fenywod mewn bywyd cyhoeddus, mewn busnes ac ar draws pob rhan o gymdeithas Cymru.

Cerys Furlong

Dr Phil George

Dr Phil George yw Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Creadigol ac yn gyd-sylfaenydd Green Bay Media, ac yn Bennaeth Celfyddydau, Cerddoriaeth a Nodwedd BBC Cymru. Phil oedd Cadeirydd Sefydlu National Theatr Wales, a gwasanaethodd ar Adolygiad Dowling Llywodraeth y DU.

Phil

Parchedig Roy Jenkins

Mae'r Parchedig Roy Jenkins yn newyddiadurwr ac yn weinidog gyda’r Bedyddwyr, ac wedi bod yn darlledu ar y BBC ers dros ddeugain mlynedd. Mae'n cyflwyno rhaglen All Things Considered ar BBC Radio Wales, ac mae wedi ymgyrchu yn erbyn arteithio ac enghreifftiau eraill o gam-drin hawliau dynol ers ei ddyddiau'n fyfyriwr yng Nghaerdydd.

Reverend Roy

Philip J. Jennings

Philip J. Jennings yw Ysgrifennydd Cyffredinol UNI Global Union.  Ag yntau'n arloeswr uniad byd-eang, mae ei waith wedi arwain at drawsnewid gwaith ar uniad byd-eang, o gyfiawnder cadwyn gyflenwi, yn benodol Cytundeb Bangladesh ar Dân a Diogelwch Adeiladau, i gytundebau byd-eang gyda chwmnïau amlwladol, i gyd-gefnogaeth uniadol.

Philip Jennings

Syr Derek Jones

Roedd Syr Derek Jones yn ffigur canolog yng ngweithrediad llywodraeth ddatganoledig Cymru. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru, ac mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ac aelod o Fwrdd a Phwyllgor Uwch Arweinwyr Gwasanaeth Sifil y DU.

Jones

Dr Alan J Lewis, BSc, PhD

Bu Dr Alan J Lewis, BSc, PhD yn ymwneud â datblygiad Venlafaxine, cyffur gwrth iselder sy'n gweithredu'n gyflym, a Rapamycin, atalydd imiwnedd newydd. Ar hyn o bryd ef yw Prif Swyddog DiaVacs, sy'n canolbwyntio ar geisio gwella Diabetes Math 1.

Alan

Martin Lewis OBE

Martin Lewis OBE, yw Sylfaenydd a Chadeirydd MoneySavingExpert.com a'r Sefydliad Arian a Pholisi Iechyd Meddwl. Mae wedi arwain ymgyrchoedd cyfiawnder ariannol mawr gan gynnwys adennill ffioedd banc a PPI ac ymgyrch lwyddiannus i osod addysg ariannol ar y cwricwlwm cenedlaethol.

Martin

La-Chun Lindsay

La-Chun Lindsay yw Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Cymru. Yn flaenorol hi oedd yn arwain y ffatri cydosod, profi ac ailwampio ar safle GE Aviation yn Lynn yn Massachusetts. Cyn ymuno a GE Aviation, roedd yn Is-lywydd Grŵp Gwasanaethau Maes yn GE Capital a bu mewn amrywiol swyddi byd-eang o fewn Staff Archwilio Corfforaethol GE. Graddiodd o Brifysgol Clemson gyda gradd Baglor yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Cerameg.

La-Chun

Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE BSc. (Anrh)

Mae Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE BSc. (Anrh) yn wraig fusnes anabl ac yn ymgyrchydd cydraddoldeb. Mae Rosie'n areithwraig uniongyrchol ac angerddol, ac wedi gweithio ar y lefel uchaf yn y sector cyhoeddus a phreifat i sicrhau newidiadau sylweddol mewn agweddau at anabledd.

Moriarty

Dr Drew Nelson, OBE, DSc, FREng, FLSW

Dr Drew Nelson, OBE, DSc, FREng, FLSW yw Prif Swyddog Gweithredol IQE Plc, prif gyflenwr uwch-wafferi lled-ddargludyddion y byd. Mae wedi chwarae rhan weithredol mewn grwpiau sy'n cynghori'r llywodraeth a byd diwydiant, ac yn 2001 cafodd OBE am ei wasanaethau i'r Diwydiant Electroneg.

Drew

Dr Bhanu Ramaswamy OBE

Mae Dr Bhanu Ramaswamy OBE yn Ymgynghorydd Ffisiotherapi Annibynnol sy'n arbenigo mewn adsefydlu a niwroleg pobl hŷn. Hi oedd un o'r ffisiotherapyddion cyntaf i sicrhau cymhwyster rhagnodi anfeddygol a derbyniodd Gymrodoriaeth Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi.

Bhanu

Rob Wainwright

Rob Wainwright yw Cyfarwyddwr Europol. Ar ôl goruchwylio trawsnewidiad Europol o gorff rhynglywodraethol i statws asiantaeth yr UE yn 2010, sicrhaodd Rob sefydlu Canolfan Troseddau Seiber Ewrop, Canolfan Gwrthderfysgaeth Ewrop a Chanolfan Smyglo Mudwyr Ewrop yn Europol.

Rob

Gary Younge

Mae Gary Younge yn olygydd cyfrannol i The Guardian. Mae wedi ennill gwobrau am ei newyddiadura, mae'n awdur ac yn ddarlledwr, a bu'n gohebu o America am 12 mlynedd cyn dychwelyd i Brydain yn 2015. Mae'n ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol a gwrth-hiliaeth ac wedi gohebu o Ewrop, Affrica, UDA a'r Caribî. Mae'n ysgrifennu colofn fisol i gylchgrawn Nation yn Efrog Newydd.

Gary