Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Roedd y Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.

Ein gweledigaeth yw ymgymryd ag ymchwil sy'n arwain y ffordd yn rhyngwladol i ddatblygu systemau ynni cynaliadwy, fforddiadwy, cymdeithasol dderbyniol a sicr trwy ymagwedd amlddisgyblaethol sy'n cefnogi cydweithio ac arloesi.

Rydym yn wynebu ‘penbleth triphlyg’ o ran ynni. Mae pwysau cynyddol ar amddiffyn yr amgylchedd, argaeledd a sicrwydd y cyflenwad ynni. Yn ogystal mae angen mynd i’r afael â chwestiynau fforddiadwyedd a derbyniad gan y cyhoedd.

Yr Athro Phil Bowen Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni

Gan fod yr heriau'n ymestyn y tu hwnt i'r rhai technegol yn unig, rydym mewn sefyllfa unigryw i allu manteisio ar ragoriaeth gan dimoedd ymchwil ar draws tri choleg Prifysgol Caerdydd, sy'n caniatáu i agweddau'r gwyddorau ffisegol a chymdeithasol ein hymchwil gael eu hystyried. 

Cryfder arall ein Sefydliad Ymchwil yw'r cydweithrediadau a'r partneriaethau diwydiannol a pholisi sydd gennym ac rydym yn parhau i'w datblygu. Mae'r rhain yn helpu i arwain a chynghori ein strategaeth. Mae Partneriaethau'n cynnwys y Grid Cenedlaethol, y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) a TATA, gyda chydweithio cyfredol gyda chwmnïau sy'n canolbwyntio ar ynni gan gynnwys EON, Siemens a Rolls-Royce.

As we move towards a zero carbon future, energy is high on everyone’s agenda. We focus on a ‘whole system’ approach , and we're particularly interested in realising the 'top-down' future energy aspirations of government and industry, through developing 'bottom-up' project based activities and demonstrators.

Professor Phil Jones Co-director, Energy Systems Research Institute

Mae gwybodaeth ac arbenigedd ein pobl wedi'u harwain i weithredu'n rheolaidd fel ymgynghorwyr gwyddonol ar gyfer Llywodraeth y DU, gan gynnwys yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a'r Adran Fusnes. Maent hefyd wedi gweithio i Gynulliadau Cymru a'r Alban.