Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Mae ein harbenigedd, cyfleusterau  a seilwaith ymchwil yn ein galluogi i ddatrys heriau ymchwil yn llwyddiannus.

Llunio Strategaeth Adeiladu Gallu'r UE o ran Seiberddiogelwch

Mae seiberddiogelwch yn dod yn fwyfwy canolog i wleidyddiaeth fyd-eang, ac mae'n achosi tensiynau rhwng actorion gwladol a rhaid nad ydynt yn wladol. Mae'n faes polisi sy'n datblygu'n gyflym, ac mae gwneud seilwaith y rhyngrwyd a gwasanaethau digidol yn ehangach yn breifat wedi dod yn allweddol wrth ystyried strategaeth rheoleiddio ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Croesawir lefel newydd o gysylltedd fel cyfleoedd newydd ond eto ar yr un pryd, maent yn cynyddu pa mor agored i fygythiadau digidol y mae cymdeithasau hefyd. Mae hyn yn cynnwys defnyddwyr unigol, busnesau a sefydliadau. Yng nghyd-destun o'r fath, mae galw cynyddol am ddiogelu cysylltedd, ac mae hyn wrth wraidd y galw i ddatblygu adnoddau'r UE o ran seiberddiogelwch – yn fewnol ac mewn perthynas â thrydydd partïon (h.y. gwledydd a sefydliadau rhyngwladol).

Yn y cyd-destun hwn, mae'r prosiect yn ymdrin â:

  • sefyllfa'r UE o ran seiberddiogelwch
  • sut mae safle'r UE o ran seiberddiogelwch yn cael dylanwad yn rhyngwladol
  • offerynnau dylanwadu'r UE ar seiberddiogelwch fyd-eangy
  • ffactorau sy'n llunio'i sefyllfa a'i ddylanwad.

Ariennir gan: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - Menter Ryngwladol

Cysylltu â ni

Dr Andrea Calderaro

Dr Andrea Calderaro

Lecturer in International Relations

Email
calderaroa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0) 29 2068 8819

Diplomyddiaeth seiber ym maes Diplomyddiaeth Gwyddoniaeth

Mae diplomyddiaeth wyddoniaeth sy'n ymwneud â llywodraethu'r rhyngrwyd yn dod yn gynyddol amlwg yng ngwleidyddiaeth gystadleuol y byd. Mae trafodaethau ynghylch sut i wella cynwysoldeb ym mhrosesau gwneud penderfyniadau am lywodraethu'r rhyngrwyd, a sut i sicrhau hawliau digidol dinasyddion, gan gynnwys yr hawl i gael preifatrwydd a rhyddid mynegiant ar-lein, yn feysydd allweddol o agenda llywodraethau tramor ar bolisi.

Mewn maes sy’n datblygu mor gyflym yng nghyd-destun gwleidyddiaeth ryngwladol, lle mae’r hen brif bwerau yn gwrthdaro â ffigurau newydd, rydym hefyd yn gweld nifer cynyddol o ddatganiadau a chamau gan yr Undeb Ewropeaidd sy’n awgrymu bod pwyslais amlwg ar lywodraethu’r fewnrwyd yn ei strategaeth gychwynnol ar gyfer cydweithio’n wyddonol.

Mae'r prosiect hwn mewn partneriaeth â CNRS France/UMPC Sorbonne a sefydliadau academaidd allweddol eraill ar draws Ewrop, America Ladin ac UDA. Bydd Dr. Calderaro yn craffu ar rôl allweddol cymunedau technegol o ran trafodaethau ynghylch llywodraethu'r rhyngrwyd yn fyd-eang, yng nghyd-destun diplomyddiaeth wleidyddiaeth newydd.

Partneriaid: CNRS France, UMPC Sorbonne
Ariennir gan: Asiantaeth Ymchwil Cenedlaethol Ffrainc

Cysylltu â ni

Dr Andrea Calderaro

Dr Andrea Calderaro

Lecturer in International Relations

Email
calderaroa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0) 29 2068 8819