Ewch i’r prif gynnwys

Delweddydd Moleciwlaidd

Mae Molecular Dynamics (GE) Typhoon™ 9410 Variable Mode Imager yn uno technoleg storio ffosffor awto-radiograffeg gyda thechnegau labelu fflworoleuol pedwar-lliw anymbelydrol.

Brand/model GE Amersham Molecular Dynamics Typhoon 9410 Molecular Imager
Manylion Molecular Dynamics (GE) Typhoon™ 9410 Variable Mode Imager
Ysgol Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Mae Molecular Dynamics (GE) Typhoon™ 9410 Variable Mode Imager yn uno technoleg storio ffosffor awto-radiograffeg gyda thechnegau labelu fflworoleuol pedwar-lliw anymbelydrol.

MANYLEB DECHNEGOL

Ar gyfer RNA DNA a samplau protein gyda'r Molecular Dynamics Typhoon 9410, gallwch ddewis o:

  • storio ffosffor awto-radiograffeg
  • fflworoleuedd glas-gyffrous uniongyrchol (457 488 nm)
  • fflworoleuedd gwyrdd-gyffrous uniongyrchol (532 nm)
  • fflworoleuedd coch-gyffrous uniongyrchol (633 nm)
  • cemoleuedd

Pan ddewisir un o'r dulliau sganio, mae'r Typhoon 9410 yn actifadu'r cydrannau optegol priodol yn awtomatig. Mae Typhoon 9410 yn sganio blotiau gel a sgriniau ffosffor storio wedi'u mowntio neu heb eu mowntio hyd at 35 × 43 cm. Mae'r Typhoon 9410 yn arddangos cywirdeb meintiol llinol rhagorol a chyfyngiadau canfod hynod o isel.

Daw pob model Typhoon gydga ImageQuant™ TL

I neilltuo’r cyfarpar hwn, ebostiwch Dean Routledge drwy routledged1@caerdydd.ac.uk gan nodi’r:

  • cyfarpar yr hoffech chi ei neilltuo
  • rhif yr ystafell y mae ynddi (Ystafell 1.14)
  • y dyddiad a'r amser yr hoffech chi ei neilltuo
  • am ba mor hir y mae angen i chi ddefnyddio'r cyfarpar

I ofyn cwestiynau technegol am y cyfarpar dan sylw, anfonwch ebost at Arwyn Jones drwy jonesat@caerdydd.ac.uk

Cysylltwch

Professor Arwyn Jones

Email
jonesat@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6431

Lleoliad

1.14
Redwood Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
CF10 3NB